Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LANG, GORDON (1893-1981), gwleidydd Llafur a gweinidog anghydffurfiol.

Ganwyd ef ar 25 Chwefror 1893, yn fab i T. W. Lang, YH, Mynwy, a'i wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Mynwy a Choleg Cheshunt, ac yna ordeiniwyd ef yn weinidog anghydffurfiol. Ym 1930 penodwyd Lang yn gaplan anrhydeddus i Urdd Siewmyn Prydain Fawr ac Iwerddon, daeth yn ddarlithydd mewn addysg oedolion i Luoedd Arfog ei Fawrhydi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Eisteddodd fel yr AS Llafur hŷn dros etholaeth Oldham o fis Mai 1929 hyd at ei orchfygu yn etholiad cyffredinol 1931 pan chwalwyd ei blaid yn yr etholiad. Safodd yn aflwyddiannus yn Oldham eto yn etholiad cyffredinol Tachwedd 1935 a safodd mewn is-etholiad ar gyfer etholaeth Stalybridge a Hyde, swydd Caer yn Ebrill 1937. Cipiodd yr etholaeth honno yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945 a chynrychiolodd yr etholaeth nes iddo ymddeol o'r senedd yn etholiad cyffredinol Hydref 1951. Ei nod drwy gydol ei yrfa oedd cyfuno gwaith bugeiliol â rhychwant eang o weithgarwch gwleidyddol.

Gordon Lang oedd cadeirydd yr Undeb Ffederal Seneddol a'r Gymdeithas Cynrychiolaeth Gyfrannol, 1947-51, a chyd-ysgrifennydd Mudiad Ewrop Unedig. Bu'n is-lywydd y Biwro Ieuenctid Rhyngwladol, 1948-56. Roedd yn aelod o Gyngor Cymdeithas Hansard, 1948-54, ac yn aelod o bwyllgor gwaith Undeb Rhyngwladol y Seneddwyr, 1946-51. Yn dilyn ei ymddeoliad o'r senedd, bu'n aelod o Gorfforaeth Tref Newydd Cwmbrân, 1955-64, a gwasanaethodd yn weinidog ar Eglwys Pen-y-waun, Cwmbrân, 1956-77. Cyhoeddodd gofiant i Meistr Ustus Avory ym 1935 (blwyddyn marwolaeth ei oddrych), Modern Epistles (1952) a Mind behind Murder (1960). Cyhoeddodd hefyd nifer o weithiau ffuglen a llawer o gyfrolau a phapurau ar seicoleg gymhwysol a throseddeg. Roedd parch mawr ato fel troseddegwr ac arbenigwr ar ddiwygio carchardai. Priododd ar 12 Medi 1916 Emily neu Emilie Anne, merch J. W. Evans, Leechpool, Cas-gwent, a bu iddynt un mab ac un ferch. Gwnaethant eu cartref yn Wycliffe, Cas-gwent, Mynwy, a 6 Bigstone Grove, Tutshill, Cas-gwent. Bu farw ar 20 Mehefin 1981 ac amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Gwent, Croesyceiliog.

Ffynonellau:

  • Who was who? ;
  • Dod's Parliamentary Companion ;
  • The Times , 24 Mehefin 1981.

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2008