Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MAINWARING, WILLIAM HENRY (1884-1971), gwleidydd Llafur.

Ganwyd ef yn Fforest-fach, Abertawe, mae'n debyg ym 1884 (er bod rhai ffynonellau yn rhoi 1885 yn flwyddyn ei eni), yn fab i William Mainwaring. Roedd y ddau o'i rieni yn hanu o Abertawe. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Sant Pedr, Cocket. Dechreuodd weithio fel glöwr ym mhwll glo'r Cambrian, Cwm Clydach yn dair-ar-ddeg oed ym 1897, a gwasanaethodd fel ysgrifennydd Grŵp Lleiafrif Ffederasiwn Glowyr De Cymru, 1909-13. O'i flynyddoedd cynnar datblygodd ddiddordeb mawr mewn materion addysgol a diwydiannol. Chwaraeodd ran flaenllaw yn streic y glowyr 1910 ac ystyrid ef, yn gynnar yn ei yrfa, yn bennaf fel arweinydd y glowyr. Treuliodd hefyd ddwy flynedd yn y Coleg Llafur Canolog yn Llundain. Ar ôl hynny bu'n ysgrifennydd i'r Pwyllgor Diwygio Answyddogol a bu'n awdur ar-y-cyd (gyda Noah Ablett) o'r Miners’ Next Step (1912), maniffesto syndicalaidd mawr ei ddylanwad a awgrymai sut y dylid newid perchnogaeth a rheolaeth y pyllau glo. Ymgeisiodd ar gyfer swydd ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr a daeth, felly, yn rhan o'r bleidlais agosaf erioed yn hanes maes glo de Cymru. Pan adawodd Frank Hodges y swydd o ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr, bu Mainwaring ac A. J. Cook yn cymryd rhan mewn brwydr fawr i sicrhau enwebiaeth de Cymru ar gyfer y swydd wag. Pan gyfrifwyd y pleidleisiau, darganfuwyd mai Cook a enillodd yr enwebiaeth o ychydig dros bum cant o bleidleisiau, sef 50,125 pleidlais i Cook a 49,617 pleidlais i Mainwaring. Penodwyd Mainwaring yn ysgrifennydd Ffederasiwn y Gweithwyr Glo Rhyngwladol, ond ni wnaeth fyth gychwyn yn y swydd. Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl y rhyfel dychwelodd i'r Coleg Llafur Canolog lle bu'n darlithio ar economeg a gwasanaethodd yn is-brifathro yno rhwng 1919 a 1924. Olynodd A. J. Cook fel asiant y glowyr ar gyfer ardal y Rhondda rhif 1 Ffederasiwn Glowyr De Cymru, yr ardal fwyaf o fewn maes glo de Cymru, gan ddal y swydd o 1924 tan 1934.

Etholwyd Mainwaring yn AS Dwyrain y Rhondda mewn is-etholiad ym 1933 a gynhaliwyd ar farwolaeth yr AS Llafur y Cyrnol D. Watts Morgan. Ond nid oedd etholiad Mainwaring i'r senedd yn sicr o bell ffordd. Gwrthwynebwyd ef gan Arthur Horner fel ymgeisydd ar ran y Comiwnyddion a chan Ryddfrydwr hefyd. Dim ond 2,899 o bleidleisiau oedd mwyafrif Mainwaring dros Horner, gyda'r Rhyddfrydwr yn drydydd. Roedd yr etholaeth yn gadarnle i Gomiwnyddiaeth, ac ym mhob etholiad seneddol a ddilynodd, gwrthwynebwyd Mainwaring gan ymgeisydd ar ran y Blaid Gomiwnyddol. Gorchfygodd Harry Pollitt, cymeriad bythgofiadwy, ar ddau achlysur, er yn etholiad cyffredinol 1945, 972 o bleidleisiau'n unig oedd ei fwyafrif. Yn rhyfedd iawn, yn etholiad cyffredinol Chwefror 1950, pan safodd Pollitt eto (am y tro olaf, fel mae'n digwydd) enillodd Mainwaring y dydd o 22,182 o bleidleisiau. Gwrthwynebwyd ef gan Annie Powell fel yr ymgeisydd Comiwnyddol yno ym 1955. Parhaodd Mainwaring i gynrychioli Dwyrain y Rhondda yn y senedd nes iddo ymddeol oddi yno ym 1959. Siaradai yn aml yn Nhŷ'r Cyffredin gydag arddeliad a brwdfrydedd mawr ar ran ei gyd-lowyr. Teithiodd Mainwaring yn helaeth. Gwasanaethodd fel aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Rhodesia a Nyasaland ym 1938. Ym 1943 dewiswyd ef gan yr Undeb Rhwng-seneddau i deithio drwy diriogaethau Dwyrain Affrica a threuliodd bedwar mis yn yr Unol Daleithiau yn ymgymryd ag archwiliad economaidd. Bu'n teithio yn Asia ym 1956.

Mae grŵp bychan o'i bapurau yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yn Gymro Cymraeg. Roedd yn byw yn 11 Ffordd Aubrey, Penygraig yng nghwm Rhondda ac roedd ganddo dŷ yn 18 Harbord Road, Rhydychen. Priododd ym 1914 Jesse, merch Thomas Hazell, Rhydychen. Bu iddynt un ferch. Roedd ei wraig wedi marw o'i flaen. Bu farw ar 18 Mai 1981 wedi cyrraedd yr oedran teg o 87 mlwydd oed. Amlosgwyd ei weddillion mewn gwasanaeth preifat yn Rhydychen a daearwyd ei lwch yn amlosgfa Glyntaf.

Ffynonellau:

  • Who was who? ;
  • Etholiadau'r Ganrif, 1885-1997 , Y Lolfa, 1999;
  • Welsh Hustings - 1885-2004 , Dinefwr Publishers Ltd, 2005;
  • Dod's Parliamentary Companion ;
  • The Times , 20 Mai 1971;
  • Western Mail , 20 Mai 1971;
  • Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus Aberdâr).

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2008