MARQUAND, HILARY ADAIR (1901-1972), economegydd a gwleidydd Llafur

Enw: Hilary Adair Marquand
Dyddiad geni: 1901
Dyddiad marw: 1972
Priod: Rachel Eluned Marquand (née Rees)
Plentyn: Richard Marquand
Plentyn: David Ian Marquand
Rhiant: Mary Marquand (née Adair)
Rhiant: Alfred Marquand
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: economegydd a gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef ar 24 Rhagfyr 1901 yn 4 Ffordd Marlborough, Caerdydd, yn fab hynaf i Alfred Marquand, brodor o Guernsey a chlerc mewn cwmni allforio glo, a'i wraig Mary Adair, hithau o dras Albanaidd. Roedd rhai o'r teulu yn berchnogion llongau yng Nghaerdydd. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Caerdydd ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, gan ddal yno un o ysgoloriaethau'r wladwriaeth. Graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn hanes ym 1923 ac eto mewn economeg ym 1924 a dyfarnwyd gwobrwyon Gladstone a Chobden iddo. Bu wedyn yn Gymrawd Sefydliad Laura Spelman Rockefeller yn y gwyddorau cymdeithasol yn yr Unol Daleithiau am ddwy flynedd, a bu'n darlithio mewn economeg ym Mhrifysgol Birmingham o 1926 tan 1930. Dyfarnwyd graddau MA (Cymru) (gyda marc rhagoriaeth) iddo ym 1928 a gradd D.Sc. (Cymru) ym 1938.

Ym 1930 penodwyd Hilary Marquand yn Athro Cysylltiadau Diwydiannol yng Nghaerdydd ac yntau ond yn naw ar hugain oed, yr athro ieuengaf mewn prifysgol ym Mhrydain Fawr ar y pryd. Roedd ei waith cyhoeddedig cynnar yn arbennig iawn, sef The Dynamics of Industrial Combination (1931), Industrial Relations in the United States of America (1934) ac Organized Labour in Four Continents (1939). Treuliodd y flwyddyn academaidd 1932-33 yn astudio cysylltiadau diwydiannol yn yr Unol Daleithiau, a'r flwyddyn 1938-39 yn athro dros-dro ym Mhrifysgol Wisconsin. Yn ystod y 1930au chwaraeodd Marquand rôl ganolog yn dadansoddi problemau economiadd de Cymru a llunio cynlluniau ar gyfer adnewyddiad economaidd yr ardal. Ym 1931 roedd Marquand hefyd wedi cyhoeddi The Industrial Survey of South Wales, gwaith hollol ysblennydd a chanlyniad i arolwg a wnaeth ar ran y Bwrdd Masnach. Dilynwyd y gwaith hwn gan ail arolwg a wnaed ym 1937 gan y Comisiynydd ar gyfer yr Ardaloedd Arbennig. Marquand oedd hefyd awdur cyfrol gysylltiedig South Wales Needs a Plan (1936), llyfr a ddenodd gynulleidfa lawer helaethach i syniadau Marquand ar bolisi economaidd. Roedd y cyhoeddiadau hyn oll yn cyflwyno casgliadau'r awdur am y rhesymau dros ddirywiad sydyn y diwydiannau glo a dur o fewn de Cymru, yr effeithiau ar economi'r ardal a'r patrwm o ddiwydiant a oedd ei angen ar gyfer adferiad.

Gan dorri i ffwrdd o draddodiad Ceidwadol ei deulu, traddodiad â gwreiddiau dwfn, ymunodd Hilary Marquand â'r Blaid Lafur ym 1920. Ymunodd hefyd â Chymdeithas y Ffabiaid ym 1936. Gwasanaethodd fel AS Llafur dros Ddwyrain Caerdydd, 1945-50, a thros Ddwyrain Middlesbrough, 1950-61, pan ymddiswyddodd o'r senedd. Ym Middlesbrough roedd ganddo fwyafrif sylweddol ym mhob etholiad cyffredinol. Yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945 gorchfygodd Syr James Grigg a oedd ar y pryd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel o fewn llywodraeth ofalu Churchill a ddilynodd gwymp y llywodraeth glymbleidiol. Yn syth ar ôl ei ethol i'r senedd, penodwyd ef gan Attlee yn Ysgrifennydd dros Fasnach Dramor, Awst 1945-Mawrth 1947, ac yna'n Dâl-feistr Cyffredinol, Mawrth 1947-Gorffennaf 1948, Gweinidog Pensiynau, Gorffennaf 1948-Ionawr 1951, a daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1949. Ei dynged wedyn oedd olynu Aneurin Bevan yn Weinidog Iechyd o Ionawr tan Hydref 1951, ond erbyn hynny roedd y swydd honno wedi colli llawer iawn o rym a statws. Nid oedd y Gweinidog Iechyd bellach yn gyfrifol am dai a chynllunio, ac erbyn hynny roedd y tu allan i'r Cabinet. Yn yr holl swyddi hyn profodd Marquand ei hun yn weinyddwr dynol ac effeithiol gyda diddordeb mewn materion oedd yn ymwneud â lles cymdeithasol. Fel gŵr academaidd, cyflwynodd agwedd dawel a llonydd i fwrlwm y byd gwleidyddol. Roedd yn gyffredinol yn boblogaidd yn San Steffan, a rhoddid gwrandawiad parchus iddo gan ei gyd-Aelodau Seneddol. Pan ymddiswyddodd o'r senedd ym 1961, enillwyd yr is-etholiad ym Middlesbrough gan yr ymgeisydd Llafur Arthur Bottomley.

Yn dilyn llwyddiant y Ceidwadwyr ym 1951, roedd Marquand yn aelod blaenllaw o fainc flaen yr wrthblaid a phenodwyd ef gan Hugh Gaitskell yn brif lefarydd y Blaid Lafur ar bensiynau tan 1959 ac yna ar faterion y Gymanwlad, 1959-61. Ym 1952-53 bu'n ymgymryd â theithiau darlithio ar ran y Cyngor Prydeinig yn yr India, Pakistan a Ceylon, yn Indiaid y Gorllewin ac yn Ffinland. Ym 1961, fodd bynnag, ac yntau erbyn hynny'n bur anhapus â datblygiad ei blaid oedd yn llawn cecran ac anghydweld, ymddiswyddodd o'r senedd er mwyn derbyn swydd Cyfarwyddwr Sefydliad Astudiaethau Llafur o fewn y Swyddfa Lafur Ryngwladol yn Genefa. Gwasanaethodd yno tan 1965. Bu wedyn yn ddirprwy gadeirydd y Bwrdd Prisiau ac Incymau, 1965-68. Taflwyd cysgod dros ei flynyddoedd olaf gan salwch cynyddol a chan ymwybyddiaeth o rwystredigaeth ac anallu personol a'i dilynodd. Roedd ei gonsyrn diffuant dros les pobl ddifreintiedig wedi ei arwain i adael y bywyd academaidd er mwyn gwleidydda lle profodd i fod yn ymarferwr rhyfeddol o ddeheuig. Enillodd barch aelodau Tŷ'r Cyffredin gyda'i feistrolaeth amlwg ar rychwant eang o bynciau astrus. Roedd yn aelod o Gynulleidfaoedd Cyngor Ewrop a'r WEU, 1957-59. Roedd hefyd yn aelod o Undeb Genedlaethol yr Athrawon ac o Undeb Genedlaethol Gweithwyr y Ffwrneisiau.

Priododd Hilary Marquand ar 20 Awst 1929 â Rachel Eluned Rees BA (ganwyd hi ym 1903 neu 1904), athrawes ysgol a merch David James Rees, Ystalyfera, perchennog enwog Llais Llafur. Bu eu bywyd teuluol yn rhyfeddol o ddedwydd, a bu iddynt ddau fab a merch. Roedd eu mab hynaf David Ian Marquand (ganed ef ym 1934) yn rhannu brwdfrydedd ei dad dros waith academaidd a gwleidydda fel ei gilydd. Bu yntau yn AS Llafur dros etholaeth Ashfield, 1966-77, daliodd nifer o swyddi mewn prifysgolion Prydeinig, cyhoeddodd y cofiant cyntaf sylweddol (ac yn wir yr unig gofiant) i Ramsay MacDonald ym 1977, a phenodwyd ef yn brifathro Coleg Mansfield, Rhydychen ym 1996. Eu hail fab oedd Richard Marquand (1937-1987), cyfarwyddwr 'Return of the Jedi' (1983) a ffilmiau eraill. Ar ôl dioddef dwy flynedd lom o afiechyd cynyddol, bu farw Hilary Marquand yn ysbyty Hellingly, swydd Sussex ar 6 Tachwedd 1972.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-09-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.