Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN, WILLIAM GERAINT OLIVER (1920-1995), gwleidydd Ceidwadol .

Ganwyd ef yn Llanfihangel Aberbythych , Llandeilo, ar 2 Tachwedd 1920. Deuai o gefndir teuluol Rhyddfrydol cryf. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Llandeilo , Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth , a Neuadd y Drindod, Caergrawnt ( Ysgol Gyfraith y Sgweier ). Ymunodd â Chatrawd Brenhinol Swydd Suffolk ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd ac esgynnodd i fod yn Uwchgapten. Bu hefyd yn gwasanaethu o fewn y Llynges Brenhinol yn ystod y rhyfel. Galwyd ef i'r bar o Gray's Inn ym 1947 (Ysgolor Holt) ac yna gwasanaethodd ar Gylchdaith y Gogledd. Ym 1972 daeth yn Gofiadur Llys Brenhinol Lerpwl.

Safodd yn sir Feirionnydd fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 1955 ac yn etholaeth Huyton, swydd Gaerhirfryn (yn erbyn Harold Wilson ) ym 1959. Yno daeth o fewn 2,558 pleidlais i gipio'r sedd gyda dim ond dau ymgeisydd yn y maes. Petai Rhyddfrydwr hefyd wedi sefyll, mae'n bosibl y byddai Morgan wedi ennill. Geraint Morgan oedd yr AS Ceidwadol dros Ddinbych o 1959 hyd 1983, pan ddiddymwyd y sedd ar ôl newid ffiniau'r etholaethau. Ym 1983 ymddiswyddodd Morgan yn dilyn ffrae chwerw ynglŷn â'r enwebiaeth dros etholaeth newydd Gogledd-Orllewin Clwyd. Roedd Morgan yn nodedig am beidio siarad yn y Tŷ yn ystod dau ddeg pedwar o flynyddoedd fel aelod seneddol. Roedd ei record presenoldeb hefyd yn wan iawn - roedd yn mynychu'r Tŷ Cyffredin yn unig er mwyn pleidleisio neu i fynychu dadleuon o'r Uwch-bwyllgor Cymreig. Rhwng 1965 a 1973 ni ofynnodd yr un cwestiwn llafar yn y Tŷ Cyffredin. Yn ôl pob sôn, am flynyddoedd lawer nid oedd yn barod i ddatgelu ei rhif ffôn yn ystod y dydd i chwipiau'r Blaid Dorïaidd. Nid oedd yn syndod i neb na chafodd erioed gynnig swydd o fewn y llywodraeth. Ond roedd bob amser yn gydwybodol fel AS etholaethol a chymerai ddiddordeb byw mewn materion amaethyddol. Roedd ar gael yn rheolaidd i gyfarfod â'i etholwyr, fel arfer yn neuadd y dref yn Ninbych, adeilad hanesyddol ysblennydd.

Yn etholiad cyffredinol 1983, cefnogodd yr ymgeisydd Plaid Cymru. Ym 1984, ar ôl iddo golli ei sedd, ymddiswyddodd o'r Ceidwadwyr ac ymunodd â'r Blaid Ryddfrydol. Yn etholiadau Ewrop 1989 bu Morgan yn annog etholwyr i gefnogi Dafydd Elis Thomas , yr ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Gogledd Cymru. Eto ni wnaeth fyth ymuno â Phlaid Cymru. Gwasanaethodd hefyd yn gadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig, 1965-66, a gwasanaethodd hefyd ar y Pwyllgor Dethol Cymreig. Roedd yn aelod o Bwyllgor yr Arglwydd Ganghellor (Pwyllgor Payne) ar Adfeddiannu Dyledion Dyfarniad, 1965-69, ac roedd yn aelod o bwyllgor Arwisgo Tywysog Cymru, 1968-69. Roedd yn ffyrnig ei elyniaeth i CND ac yn cefnogi dienyddio. Derbyniwyd ef i'r Orsedd ym 1969. Daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1971, a phenodwyd ef yn Gofiadur Llys Sirol ym 1972. Pleidleisiodd Morgan yn erbyn mynediad Prydain i'r Farchnad Gyffredin ar 28 Hydref 1971. Roedd yn Gymro Cymraeg. Priododd ym 1957 J. S. M. Maxwell , a bu iddynt bedwar o blant, dau fab a dwy ferch. Eu cartref oedd 13 Ffordd Owen, Precot, Merseyside. Yn dilyn ymddeoliad Morgan o fywyd gwleidyddol, symudodd y teulu o Prescot i Ulverston yn swydd Cumbria. Bu farw Geraint Morgan yn yr ysbyty yn Barrow ar 2 Gorffennaf 1995.

Ffynonellau:

  • Who was who? ;
  • Etholiadau'r Ganrif, 1885-1997 , Y Lolfa, 1999;
  • Welsh Hustings - 1885-2004 , Dinefwr Publishers Ltd, 2005;
  • Dod's Parliamentary Companion ;
  • The Times guide to the House of Commons , 1929, 1955, 1966 a 1979;
  • Daily Post , 5 Gorffennaf 1995;
  • The Daily Telegraph , 4 Gorffennaf 1995;
  • The Independent , 8 Gorffennaf 1995;
  • The Times , 6 Gorffennaf 1995;
  • Western Mail , 5 Gorffennaf 1995.

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2008