PARRY, Syr THOMAS (1904-1985), ysgolhaig, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifathro Prifysgol, bardd

Enw: Thomas Parry
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1985
Rhiant: Jane Parry (née Williams)
Rhiant: Richard Edwin Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifathro Prifysgol, bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Derec Llwyd Morgan

Ganed ef, yr hynaf o dri brawd, ar 4 Awst 1904 i Richard Edwin Parry, chwarelwr a thyddynnwr, a'i wraig Jane (née Williams) ym Mrynawel, Carmel, Sir Gaernarfon. Priodasai tad Richard Parry deirgwaith: mab iddo o'i briodas gyntaf oedd tad Robert Williams Parry; mab arall iddo, o'i ail briodas, oedd tad T. H. Parry-Williams . Yr oedd gwrthrych yr erthygl hon, ynteu, yn gefnder iau i Williams Parry ac i Parry-Williams : dyna drindod dra nodedig yn hanes llenyddiaeth ac ysgolheictod Cymraeg yr ugeinfed ganrif. O Ysgol y Babanod, Carmel, aeth Thomas Parry i ysgol elfennol Penfforddelen, lle daeth i adnabod John William Jones (John Gwilym Jones yn ddiweddarach, y dramodydd a'r beirniad llenyddol), a fu'n gyfaill oes iddo. Oddi yno aeth i Ysgol y Sir, Pen-y-groes. Yn 1922 enillodd Ysgoloriaeth Fynediad i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, lle cafodd gwmnïaeth myfyrwyr llengar a beirdd. Enillodd Goron yr Eisteddfod Gyd-golegol yn 1923, y Gadair yn ogystal â'r Goron y flwyddyn ganlynol, a chyhoeddodd nifer o'i delynegion yn Barddoniaeth Bangor (1924). Graddiodd yn y Gymraeg gydag anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf flwyddyn yn hwyr, sef yn 1926, am iddo golli'r rhan fwyaf o'i ail flwyddyn oherwydd y dwymyn goch a'r pliwrisi. Yn y coleg cymerasai Ladin fel pwnc atodol. Yn syth ar ôl graddio cynigiodd am swydd darlithydd cynorthwyol mewn Cymraeg a Lladin yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd, a'i chael. Yn ystod ei dymor yno, yn ogystal â darlithio mewn dwy adran, yn 1929 gorffennodd ei draethawd MA ar “Fywyd a Gwaith Siôn Dafydd Rhys”. Yno hefyd y cyfarfu ag Enid, unig ferch Mr a Mrs Picton Davies, y priododd â hi 20 Mai, 1936.

Yn 1929, ar farwolaeth Syr John Morris-Jones, penodwyd Thomas Parry 'n ddarlithydd o dan [Syr] Ifor Williams yn ei hen Adran ym Mangor. Yma y daeth yr ysgolhaig ifanc i'w deyrnas, megis. Ffrwyth ei egni a'i ddiwydrwydd rhyfeddol a'i ddiddordeb diwylliadol eang yn y cyfnod hwn oedd yr erthyglau niferus a gyhoeddodd ar Siôn Dafydd Rhys a'i Ramadeg, y testunau Cymraeg Canol a olygodd, Peniarth 49 yn 1929, Theater du mond yn 1930 a'r Sant Greal yn 1933, ei gyfieithiad (ar y cyd ag R. Hughes) o Hedda Gabler (1930), a'r awdl “Mam” nad enillodd iddo'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, ond a gyhoeddwyd fel 'yr awdl orau yn [ô]l Dr. T. H. Parry-Williams ' yn Cerddi'r lleiafrif, 1932. Yn y cyfnod hwn hefyd y dechreuodd gyhoeddi geiriau caneuon wedi'u gosod i gerddoriaeth, cyfieithiadau a chyfaddasiadau gan mwyaf. Buasai ganddo ddawn gerddorol er yn fachgen, ond y mae'n fwy na thebyg mai o dan ddylanwad ei ddarpar-wraig y datblygodd y ddawn honno i'r cyfeiriad hwn. Y mwyaf gwreiddiol o'i lyfrau ysgolheigaidd yn y 1930au oedd Baledi'r ddeunawfed ganrif, 1935, astudiaeth awdurdodol, ragfarnllyd, dra difyr o beth o farddoniaeth boblogaidd y ganrif honno a baratowyd i ddechrau fel Darlithoedd Cymraeg Blynyddol Coleg Bangor.

Yr oedd yr ysgolhaig ifanc toreithiog hwn ar yr un pryd wedi dechrau gweithio ar bwnc arall, anferthol, sef golygu gweithiau Dafydd ap Gwilym, nad oedd ond 'argraffiad bychan hylaw' Ifor Williams (1921) o ddetholion o'i waith ar gael i fyfyrwyr. Dechreuodd ar y gwaith yn 1929. Dechreuodd hefyd astudio'r pynciau perthynol i waith Dafydd, astudiaeth y gwelir ei ffrwyth yn yr erthyglau nodedig “Twf y gynghanedd” (1936), “Dosbarthu'r llawysgrifau barddoniaeth” (1937) a “Datblygiad y cywydd” (1939). Erbyn 1939, pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, yr oedd Thomas Parry wedi gweld y llawysgrifau pwysicaf lle ceid gweithiau Dafydd i gyd, ond, ac yntau'n awr yn methu â mynychu'r prif lyfrgelloedd oherwydd cau'r llyfrgelloedd a dogni ar betrol, 'yr oedd cannoedd o gopïau heb eu gweld o gwbl'. Ar ôl 1945 y gwelodd y rheini, yna penderfynodd ar y canon, ac yna wedyn aeth ati i ddosbarthu a rhestru'r darlleniadau amrywiol o'r cerddi a llunio'r rhagymadrodd a'r nodiadau i'w gyfrol. Pan gyhoeddwyd Gwaith Dafydd ap Gwilym yn 1952 yn gyfrol wyth gan tudalen fe'i cydnabuwyd yn syth fel un o gampweithiau mawr ysgolheictod Cymraeg. Enillodd Thomas Parry DLitt Prifysgol Cymru. Yn 1959 etholwyd ef yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig.

Y campwaith arall a berthyn i gyfnod Bangor yw Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900, 1944. Gyda'r ysgafalwch a'r plaendra a'i nodweddai, hawliodd Thomas Parry fwy nag unwaith iddo, yng nghanol y rhyfel, lunio'r llyfr hwnnw, y llyfr cyntaf gan ysgolhaig proffesedig i adrodd hanes llenyddiaeth Gymraeg o'i chwr, am ei fod yn rhywbeth y gallai'i wneud wrth y tân gartref! Bu'n llyfr anhepgor i fyfyrwyr ac i ddarllenwyr eraill hyd y dydd heddiw. Dywedir ei fod yn gampwaith 'a berthyn i gyfnod Bangor' nid yn unig am mai yno y gweithiai'r awdur pan luniodd ef, ond am fod ei brif themâu'n adleisio prif ddamcaniaethau sylfaenydd tra dylanwadol Adran Gymraeg y coleg hwnnw, Syr John Morris-Jones, sef y pwys ar '[b]arhad hir a rhyfedd' y traddodiad mawl yn ein llên, y pwys ar yr ysgolheictod a gynhaliai'r undod hwnnw, a'r pwys ar addurniant, sef ar y gynghanedd yn ei gloywder a'r Gymraeg yn ei gogoniant. Yn 1945 cyhoeddodd Thomas Parry lyfryn ar lenyddiaeth gyfoes, Llenyddiaeth Gymraeg, 1900-1945, ac yn 1948 lyfr arall, byrrach o lawer, ar hanes llên, Hanes ein Llên, braslun o hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r cyfnodau bore hyd heddiw. Cyfieithwyd Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 i'r Saesneg gan Syr Idris Bell, gyda phennod ar lenyddiaeth yr ugeinfed ganrif gan y cyfieithydd ei hun, o dan y teitl A history of Welsh Literature, 1955. Yn 1961 cyhoeddodd Thomas Parry deyrnged fwy uniongyrchol i Syr John mewn llyfryn arno.

Cyhoeddodd bethau eraill hefyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn 1939 cyhoeddodd Mynegai i weithiau Ifor Williams, ei gyn-athro arall a Phennaeth ei Adran. Yr un flwyddyn, ar y cyd ag E. Curig Davies, golygodd Gwybod, llyfr y bachgen a'r eneth. Yn 1942 lluniodd y degfed o “Bamffledi Heddychwyr Cymru” (Tystiolaeth y Tadau), y flwyddyn ganlynol cyhoeddodd lyfryn ar Eisteddfod y Cymry, a chyd-olygodd gyda Chynan Cofion Cymru at ei phlant ar wasgar, 1941-44. Am 'gwpl o flynyddoedd' yn y 'cyfnod adfydus' hwnnw, chwedl yntau, oherwydd gwaeledd Cofrestrydd Coleg Bangor, bu Thomas Parry 'n ysgrifennydd ei Senedd. Ymhen ychydig flynyddoedd, ar ymddeoliad Syr Ifor yn 1947, penodwyd ef i Gadair y Gymraeg, y 'penodiad a roes fwyaf o bleser i mi o bob un'. Rhoes y cyfle a gafodd i ehangu'r cwrs Cymraeg foddhad mawr iddo, fel y gwaith llenyddol yr ymgymerodd ag ef yn rhannol i gwrdd ag anghenion diwylliadol ei fyfyrwyr, yn fwyaf penodol ei gyfieithiad o Murder in the Cathedral T. S. Eliot, Lladd wrth yr Allor (1948), a'r ddrama fydryddol Llywelyn Fawr (1953), 'sy'n llawer gwell fel barddoniaeth nag fel drama', fel y dywedodd ef ei hun. Gwelodd y blynyddoedd hyn ef hefyd yn Ddeon ei Gyfadran ac yn Is-Brifathro, penodiadau a barodd iddo 'ddechrau cael blas ar ffrwythau gwaharddedig gweinyddu'.

Y mae'r sylw pigog ironig hwn yn fynegiant o'r anoddefgarwch a deimlai at y rhai hynny o'i gyd-Gymry a ddibrisiai 'administrio', y rheini na ddeallent sut y gallai bardd ifanc addawol droi ei gefn ar yr awen ac ymroi i ysgolheictod, a'r rheini ymhen rhai blynyddoedd na ddeallent sut y gallai ysgolhaig mor fawr fynd yn bennaeth sefydliad. Canys yn 1953 derbyniodd wahoddiad i fod yn Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Y prif ddigwyddiad yn ystod ei deyrnasiad ef yno oedd dyfod y Frenhines Elizabeth II i agor y Stac Lyfrau newydd yn 1956. Mewn cymhariaeth â chyfnodau diweddarach, ymddengys nad oedd y Llyfrgellyddiaeth yn swydd enbyd o drom. Dywed Thomas Parry iddo gael amser yno i 'ddarllen cynnyrch yr ysgolheigion Cymreig a llawer o bethau eraill' (bu'n Gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y blynyddoedd hyn), ac i wneud y rhan fwyaf o'r gwaith paratoi ar gyfer The Oxford book of Welsh verse a gyhoeddwyd yn 1962.

Ar ôl pum mlynedd yn y Llyfrgell fe'i penodwyd yn Brifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cawsai ei siomi pan benodwyd rhywun arall yn olynydd i Syr Emrys Evans fel Prifathro Bangor, gwr y bu'n cydweithio'n 'agos ac yn hapus' gydag ef am nifer o flynyddoedd, ac un a roes gydymdeimlad a chymorth iddo 'fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel'. Dichon na fynnai swyddogion llywodraethol Bangor ddangos yr un cydymdeimlad. Yng Ngholeg Aberystwyth yr oedd gofyn sythu'r llong ar ôl capteiniaeth anuniongred Goronwy Rees ; yr oedd eisiau cyflenwi'r tasgau a osodwyd arno i gwrdd â chwyddiant anghyffredin y prifysgolion ym Mhrydain yn ystod y chwedegau; ac, yn ystod ei Is-Gangelloriaeth gyntaf o Brifysgol Cymru, 1961-1963, yr oedd yn rhaid trafod ffederaliaeth y Brifysgol. Yn academaidd, ffynnodd Aberystwyth o dan ei arweiniad; yn gymdeithasol a chorfforaethol, er i'r Piwritan o Arfon yn awr ac eilwaith ei chael hi'n anodd dygymod â moesau ac arferion ieuenctid rhyddfrydig y cyfnod, yr oedd yn bennaeth cywir i'w staff ac yn bennaeth gofalus o'i fyfyrwyr. Yr oedd yn Brifathro llwyddiannus y perchid ef gan bawb bron. Ond bu peth cythrwfl oblegid ei safiad annibynnol ar fater y Brifysgol. Cynhyrchodd y Comisiwn a fu'n cyfarfod rhwng 1961 a 1964 i drafod dyfodol y Brifysgol Ffederal ddau adroddiad terfynol, y naill, gan bobl ddwad i Gymru gan mwyaf, o blaid ei diddymu a sefydlu pedair prifysgol unedol yn ei lle, a'r llall, gan Gymry cynhwynol, o blaid ei chadw a'i diwygio. Gyda'r ail garfan y disgwylid gweld Thomas Parry. Yr hyn a gaed ganddo ef oedd Datganiad yn nodi fod 'cylch gorchwyl y Comisiwn' yn gofyn am adroddiad nid am argymhellion. Yn ystod ei dymor olaf fel Prifathro cafodd Aberystwyth fwy na'i rhan o sylw am fod Charles, darpar-Dywysog Cymru, yno'n fyfyriwr. Y gwaith mwyaf yr ymgymerodd ag ef y tu allan i Aberystwyth oedd cadeirio Pwyllgor ar ddyfodol llyfrgelloedd prifysgolion Prydain a sefydlwyd yn 1963 gan Bwyllgor Grantiau'r Prifysgolion. Gan ragored ei ddisgrifiadau a'i argymhellion, da dweud yr adwaenir adroddiad y Pwyllgor hwnnw, University Grants Committee: Report of the Committee on Libraries, 1967, fel Adroddiad Parry.

Y flwyddyn yr ymddeolodd o'i Brifathrawiaeth, 1969, cafodd ei ethol yn Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, swydd a ddaliodd am ddeng mlynedd. Yn 1970 cafodd LLD er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Yr oedd eisoes wedi cael DLittCelt er anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1968. Anrhydedd arall a gafodd oedd Medal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1976. Rhwng 1978 a 1982 ef oedd Llywydd y Gymdeithas honno. Urddwyd ef yn farchog yn 1978.

Eithr nid ymddeol i fwynhau anrhydeddau a wnaeth y paragon hwn o ddiwydrwydd. Bu'n cadeirio Cwmni Theatr Cymru ar adeg anodd. Ysgrifennai erthyglau ac adolygiadau'n gyson, beirniadai'n gyson ym mhrif gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol (fel y gwnaethai drwy'i yrfa), ac yr oedd galw arno arno i fod yn gynghorwr mawr ei lafur i sawl cynllun o bwys. Ef a Merfyn Morgan a gydolygodd Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg yn 1976. Ef, tan ei farw, oedd Cadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth y Beibl Cymraeg Newydd (1988). Ac ef, am flynyddoedd, oedd un o brif gynghorwr Cydymaith Llenyddiaeth Cymru (gol. Meic Stephens , 1986) tan iddo golli amynedd yn llwyr am fod ynddo 'lawer o ddefnydd nad oes a wnelo ddim oll â llenyddiaeth Cymru, na Chymraeg na Saesneg.'

Ni faliai am ddweud y plaendra: yr oedd ei dafod fel ei bin-ysgrifennu yn gallu bod yn finiog iawn. Yr oedd ei safiad ynddo'i hun yn ddigon i frawychu rhai pobl, ac yr oedd ei feirniadaeth yn ddiflewyn-ar-dafod. Ond hoffai dynnu coes hefyd, ac ymryson ysmala, ar dafod-leferydd neu mewn cerdd. Pe nad aethai'n sgolor, gan mor fedrus ydoedd gyda'i ddwylo, gallasai fod wedi ennill ei fywoliaeth fel saer coed neu rwymwr llyfrau: yn yr ychydig benodau o hunangofiant sydd ganddo (gweler penodau cyntaf Amryw Bethau, 1996) edrydd yn edmygus am y crefftwyr a adnabu yn Arfon ei gynefin ac yn Llŷn, cynefin ei fam. At y penodau hynny, gosoder Ty a thyddyn, Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes 1971-72, sydd yn folawd i'r bobl a'r fro a roes iddo'n fore ei unplygrwydd, ei ddiwydrwydd, ei safonau a'i ffraethineb. Cynnwys corff Amryw Bethau yw ysgrifau portread, teyrnged a choffa Thomas Parry i'r bobl dda hynny, llenorion ac ysgolheigion gan mwyaf, a'i cynhwysodd megis yn eu colegiwm ym nawnddydd ffrwythlon ei oes. Yr oedd yn dywysog o ysgolhaig nad esgeulusodd erioed na'i werin na'i phobl orau na'i sefydliadau anhepgor.

Bu farw 22 Ebrill 1985 ym Mangor a'i angladd 24 Ebrill. Bu farw ei briod Enid Parry 21 Ionawr 1998. Y mae llwch y ddau yn mynwent Amlosgfa Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-04-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.