PAYNE, FRANCIS GEORGE (FFRANSIS) (1900-1992), ysgolhaig a llenor

Enw: Francis George Payne
Dyddiad geni: 1900
Dyddiad marw: 1992
Priod: Helena Payne (née Bilek)
Plentyn: Ceri Payne
Plentyn: Ifan Payne
Rhiant: Hannah Elizabeth Payne (née Lewis)
Rhiant: Francis George Holton Payne
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig a llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Trefor M. Owen

Ganwyd 21 Tachwedd 1900 yng Ngheintun, Swydd Henffordd, yn fab i Francis George Holton Payne (1865-1909) a Hannah Elizabeth Payne (née Lewis) (1867-1937). Cymro Cymraeg genedigol o Gaerdydd oedd ei dad a gadwai siop ddillad yng Ngheintun a bu farw pan oedd Ffransis Payne yn naw oed. O'r ysgol elfennol leol aeth i Ysgol Lady Hawkins, Ceintun, lle taniwyd ei ddychymyg gan 'athrawes fach wyrthiol' a fyddai'n mynd â'r plant allan i weld drostynt eu hunain yr hanes a oedd o'u cwmpas. Wrth ganu yng nghôr Eglwys y Santes Fair pan oedd yn fachgen pedair ar ddeg oed sylweddolodd fod beddrodau alabastr Tomos ap Rhoser o Hergest (bu farw 1469) a'i wraig, a welai mor aml yn yr eglwys wedi eu disgrifio mewn cywydd gan Lewis Glyn Cothi yr oedd wedi darllen cyfieithiad ohono mewn llyfr ar hanes Ceintun. Yn y funud honno, meddai, yr oedd tarddle prif ddiddordebau ei fywyd. Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed yn groes i ddymuniad ei fam a'i athrawon a bu'n gweithio fel 'check weigher' yn ffwrnesi haearn Glynebwy ac wedyn fel clerc yn Glasgow cyn cael ei alw i'r Llu Awyr fel swyddog radio ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl dychwelyd aeth i weithio ar y tir ym Mryngwyn, Sir Fynwy, ac yn Aber-porth, Ceredigon, cyn cael swydd yn trwsio ac atgyweirio wagenni glo ym Mhort Talbot, lle yr aeth ati i wella ei Gymraeg (gan ddefnyddio Welsh Made Easy Caradar). Daeth ei swydd i ben adeg y Streic Fawr yn 1926 ond cafodd waith ar fferm Hampstwn Fach, Dyffryn, Sain Nicolas, ym Mro Morgannwg tan 1929. Yn 1930 aeth yn llyfrwerthwr 'trwyddedig' a disgrifwyd ei anturiaethau yn ei ysgrif gyntaf 'Pacmon yng Ngheredigion'. Cafodd swydd dros dro yn gweithio yn yr Amgueddfa yng Nghaerfyrddin a ganiataodd iddo fod yn ddarllenydd proflenni i'r argraffydd Spurrell. Symudodd yn 1933 i weithio fel catalogydd llyfrau Cymraeg yn llyfrgell Coleg Abertawe lle y daeth i adnabod Saunders Lewis a fu'n gryn ddylwanad arno. Er nad oedd ganddo radd brifysgol penodwyd ef yn 1936 yn Is-Geidwad yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn yr Adran Bywyd Gwerin newydd. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd yn 1940. Yn 1936 priododd Helena (Helly) Bilek (1913-2005) a chawsant ddau fab, Ifan a Ceri. Symudodd i fyw i Riwbeina, Caerdydd ac oddi yno i fflat yng Nghastell Sain Ffagan pan agorwyd yr Amgueddfa Werin yn 1948. Secondwyd ef i Adran Gelfyddyd yr Amgueddfa Genedlaethol yn yr Ail Ryfel Byd a daeth i werthfawrogi gwaith arlunwyr Cymreig megis Hugh Hughes; ef oedd y cyntaf i alw sylw at waith Thomas Jones, yr arlunydd o Bencerrig, Sir Faesyfed, mewn erthygl yn Y Llenor yn 1945. Penodwyd ef yn 1959 yn Geidwad y Casgliadau yn Sain Ffagan ac ymddeolodd yn 1969 gan symud i fyw yn Llandeglau, Sir Faesyfed. Bu farw 21 Awst 1992, cafodd ei amlosgi yn Henffordd a chladdwyd ei lwch ym mynwent Llandeglau.

Daeth Ffransis Payne i amlygrwydd gyntaf fel llenor coeth trwy ei ysgrifau a gyhoeddwyd yn Chwaryddion Crwydrol (1943) lle y tynnodd ar ei atgofion am Geintun ei blentyndod ac am ei brofiadau yn gweithio ar y tir. Ymgorfforwyd yr ysgrifau hyn yn y gyfrol Cwysau (1980) a oedd yn cynnwys erthyglau diweddarach ganddo, megis ei erthygl bwysig ar 'Yr Hen Ardd Gymreig'. Daeth yn awdurdod ar hanes traddodiad llenyddol Sir Faesyfed ac etholwyd ef yn Llywydd Cymdeithas Maesyfed. Mynegir ei wybodaeth drylwyr o hanes sir Faesyfed a'i gariad tuag ati yn y ddwy gyfrol Crwydro Sir Faesyfed (1966 a 1968). Yn ei lyfr Guide to the Collection of Samplers and Embroideries (1939) defnyddiodd dystiolaeth beirdd yr Oesau Canol a'u disgrifiadau o frodwaith y cyfnod. Felly hefyd yn ei astudiaeth ysgolheigaidd Yr Aradr Gymreig (1954), ychwanegwyd at ei ddealltwriaeth o'r dystiolaeth archaeolegol gan ei wybodaeth drylwyr o ddisgrifiadau'r cywyddwyr a'r Cyfreithiau a chan ei brofiad ymarferol o aredig. Er mai yn Gymraeg y cyhoeddodd ei brif waith ar yr aradr yr oedd yn adnabyddus ar y Cyfandir am ei gyfraniad arloesol i'r pwnc mewn cylchgronau ysgolheigaidd Saesneg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-03-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.