Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PEATE, IORWERTH CYFEILIOG (1901-1982), Curadur Amgueddfa Werin Cymru, 1948-1971, ysgolhaig, llenor a bardd;

ganwyd 27 Chwefror 1901 yng Nglan-llyn, Llanbryn-Mair yn fab i George Howard ac Elizabeth Peate (née Thomas). Daeth ei frawd hŷn Dafydd Morgan Peate (ganwyd 1898) yn rheolwr banc a phriododd ei chwaer iau Morfudd Ann Mary (ganed 1910) Llefelys Davies, cadeirydd y Bwrdd Marchnata Llaeth ddydd Calan 1942. Bu farw brawd arall, John Howard Peate, yn blentyn ifanc yn 1899. Addysgwyd Iorwerth Peate yn Ysgol Gynradd Llanbryn-Mair ac Ysgol Ramadeg Machynlleth lle cafodd y prifathro, H. H. Meyler, ddylanwad mawr arno. Seiri yn yr hen draddodiad oedd ei dad a'i daid, ond er teimlo'n euog ei fod yn troi ei gefn ar y traddodiad hwn, i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yr aeth Iorwerth Peate yn 1918 i ganol ffrwd fawr o gyn-filwyr a oedd yn cynnal bywyd cymdeithasol bywiog y cymerodd ran amlwg ynddo. Enillodd gadeiriau yn yr eisteddfodau colegol a chyd-golegol a daeth yn olygydd The Dragon, cylchgrawn y myfyrwyr. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg cyfarfu â Nansi (Ann) Davies (1900-1986) a ddaeth yn wraig iddo ar 9 Medi 1929. Dewisodd astudio Hanes Trefedigaethol a Daearyddiaeth (a oedd yn bwnc newydd yn y Brifysgol o dan yr Athro Herbert John Fleure). Amlygwyd dylanwad Fleure arno yn fuan iawn yn y gyfrol Gyda'r Wawr: Braslun o Hanes Cymru'r Oesoedd Canol (1923) (gol. H. J. Fleure) y bu'n gyfrifol am ysgrifennu'r testun a edrychai ar Gymru'r Oesoedd Canol o safbwynt daearyddiaeth dynol, gyda'i dri chyd-awdur yn gofalu am y darluniau a'r mapiau: ni fu ganddo erioed lawer i'w ddweud dros ddefnyddio mapiau, un o brif arfau traddodiadol y daearyddwr. Ar ôl graddio yn 1921 mewn Hanes Trefedigaethol ac mewn Daearyddiaeth ac Anthropoleg yn 1922, gwnaeth astudiaeth o deipiau anthropolegol brodorion Dyffryn Dyfi, eu tafodiaith a'u llên gwerin, ac enillodd radd M.A. yn 1924. Rhwng 1923 a 1927 bu'n darlithio i ddosbarthiadau Adran Efrydiau Allanol y Coleg yng nghefn gwlad Ceredigion a Meirionnydd cyn newid byd a symud i Gaerdydd.

Penodwyd ef yn 1927 i staff Adran Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru gyda'r gorchwyl o gatalogio'r holl wrthrychau y daethpwyd i'w galw yn ‘gasgliad gwerin’. Ffrwyth y gwaith hwn oedd Guide to the Collection of Welsh Bygones (1929). I'r cyfnod hwn y perthyn ei lyfr Cymru a'i Phobl (1931) a oedd yn dehongli syniadau Fleure i ddarllenwyr Cymraeg. Daeth i ofalu am yr Is-adran Diwylliant a Diwydiannau Gwerin a grewyd yn yr Adran Archaeolog yn 1932 a dyrchafwyd ef yn Geidwad yr Adran Fywyd Gwerin annibynnol newydd a grewyd yn 1936 wedi ymweliad dylanwadol yn 1934 gan yr ysgolhaig o Ddulyn, Séamus Ó Duilearga ynghyd â dau o brif ysgolheigion Sweden yn y maes, sef Åke Campbell o Uppsala a C. W. von Sydow o Lund. Bu'r syniad o ‘werin’, y daeth i'w bwysleisio fwyfwy yn y 1930au, ochr-yn-ochr â chrefft, yn sylfaenol i'w waith. Cyhoeddwyd Y Crefftwr yng Nghymru (1933), Guide to the Collection illustrating Welsh Folk Crafts and Industries (1935), Welsh Society and Eisteddfod Medals and Relics (1938) a Clock and Watch Makers in Wales (1945). Penllanw'r cyfnod hwn oedd ei lyfr Diwylliant Gwerin Cymru (1942) a gyhoeddwyd mewn fersiwn diwygiedig Saesneg Tradition and Folk Life yn 1972.

Yr oedd eisoes wedi cyhoeddi ei waith arloesol The Welsh House; a Study in Folk Culture (1940) a gafodd ei ysbrydoli gan waith Åke Campbell ar dai Iwerddon. Ei fwriad oedd mynd ati i ysgrifennu cyfres o astudiaethau rhanbarthol ar yr un pwnc, ond rhwystrwyd hyn o 1948 ymlaen pan benodwyd ef yn Geidwad-a-gofal ac yn ddiweddarach yn Guradur yr Amgueddfa Werin newydd a sefydlwyd ar dir Castell Sain Ffagan. O hynny ymlaen rhoddodd ei brif sylw i'r gwaith gweinyddol o'i datblygu trwy ddewis adeiladau cymwys i'w symud i Sain Ffagan, fel y gwnaethpwyd yn Skansen, yr amgueddfa awyr-agored arloesol ger Stockholm. Rhoes sylw arbennig i'r gwaith o gasglu a chofnodi geirfâu crefft a thafodieithoedd gan ei staff ac aeth ati i roi cyhoeddusrwydd i'r sefydliad newydd drwy ddarlithio ar hyd a lled Cymru ac ysgrifennu erthyglau i'r wasg. Cyhoeddodd ei syniadau am y sefydliad newydd mewn cyfrol ddwyieithog boblogaidd iawn yn 1948, sef Amgueddfeydd Gwerin / Folk Museums. Drwy gymorth ariannol y Cynghorau Sir a chronfeydd cyhoeddus cafodd weld gwireddu breuddwyd a fu ganddo ers iddo glywed am amgueddfeydd awyr-agored arloesol Llychlyn gan ei gyfaill o Norwy, Alf Sommerfelt, a fu'n gweithio ar dafodiaith Cyfeiliog yn y 1920au; ond ni chafodd weld Sain Ffagan yn datblygu'n sefydliad annibynnol fel yr oedd wedi gobeithio.

Yn 1956 sefydlodd y cylchgrawn ysgolheigaidd cydwladol Gwerin a oedd wedi ei batrymu ar y cylchgrawn Sgandinafaidd Folk-liv a gyhoeddwyd yn Stockholm. Pan sefydlwyd The Society for Folk Life Studies yn 1961 a Iorwerth Peate yn Llywydd, cymerwyd lle Gwerin gan Folk Life, cyhoeddiad y gymdeithas newydd. Cafodd ei ethol yn Llywydd Adran H o'r British Association for the Advancement of Science yn 1958 gan osod allan ei syniadau am astudio bywyd gwerin yn ei anerchiad o'r gadair ‘The study of folk life and its part in the defence of civilization’. Cyhoeddwyd fersiwn Cymraeg yn ei gyfrol Syniadau (1969). Yr oedd ganddo syniadau pendant iawn ar y pwnc: nid da ganddo'r term ‘ethnoleg’ a oedd wedi disodli ‘bywyd gwerin’ yn Sgandinafia ac ar y cyfandir. Er iddo fod yn arloeswr ym maes astudio tai, ni fynnai wneud dim â'r Vernacular Architecture Group a ysbrydolwyd yn rhannol gan ei waith cynnar.

Drwy gydol ei oes bu dylanwad traddodiad radicalaidd Yr Hen Gapel, Llanbryn-Mair, gyda'i bwyslais ar Ryddid a Rheswm, yn drwm arno. Yr oedd yn arddel cysylltiad teuluol â Samuel Roberts (1800-1885), prif gynheilydd y traddodiad hwnnw ac yn gweld yn W. J. Gruffydd (y daeth i'w adnabod pan symudodd i fyw yn gymydog iddo yn Rhiwbeina) un arall a oedd yn aml iawn yn rhannu'r un syniadau ag ef ym myd crefydd, gwleidyddiaeth a materion cymdeithasol. Cyfrannodd yn helaeth i gylchgrawn Gruffydd, Y Llenor, a chyhoeddwyd nifer o'i erthyglau yn ei gyfrolau Sylfeini (1938), Ym Mhob Pen (1948) a Syniadau (1969). Felly hefyd ei farddoniaeth a ymddangosodd yn ddiweddarach mewn pum cyfrol: Y Cawg Aur a cherddi eraill (1928), Plu'r Gweunydd (1933), Y Deyrnas Goll a cherddi eraill (1947); Cerddi Chwarter Canrif (1957) a oedd yn cynnwys detholiad o'r tair cyfrol flaenorol; a Cherddi Diweddar (1982). Yr oedd ei farddoniaeth ym marn rhai beirniaid diweddar yn hen ffasiwn ac yn perthyn i Oes Aur llenyddiaeth Gymraeg ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ei ateb nodweddiadol ymosodol oedd cystywo'r oes bresennol fel ‘yr Oes Faw’ a chrefu ar ei ddarllenwyr i'w gynorthwyo i edfryd Rheswm a Goddefgarwch i'r byd gwallgof oedd ohoni. Bu'n feirniad eisteddfodol cyson dros y blynyddoedd a chyfrannodd golofn i'r Cymro fel adolygydd gan fynegi ei farn yn ddiflewyn ar dafod ar faterion y dydd, yn enwedig ddirywiad y Gymraeg yn y wasg ac ar y radio. Ysgrifennai'n llyfn ac yn gyflym ac yr oedd bob amser raen ar ei iaith. Yr oedd yn heddychwr brwd a chofrestrwyd ef yn wrthwynebydd cydwybodol yn 1941. Collodd ei swydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol ar y pryd wedi anghydfod a gododd yn sgil ymholiad answyddogol a wnaeth ar ran cydweithiwr ynghylch statws neilltuedig swyddi'r amgueddfa yn ystod y rhyfel. Edrydd gyda balchter yn ei hunangofiant Rhwng Dau Fyd (1976) fel y cafodd ei swydd yn ôl trwy gefnogaeth aelodau seneddol blaenllaw mewn cyfarfod o Lys yr Amgueddfa.

Daeth nifer o anrhydeddau i'w ran. Yn ogystal â'r radd D.Sc. a dderbyniodd am The Welsh House yn 1940, derbyniodd radd D.Litt. Celt. (Prifysgol Genedlaethol Iwerddon) a gradd D.Litt.(Cymru) yn 1970. Cyflwynwyd medal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion iddo yn Sain Ffagan yn 1978.

Ymddeolodd yn 1971 a symudodd i Sain Nicolas lle y bu farw Hydref 19, 1982. Cyhoeddwyd ei gyfrol olaf Personau ychydig wedi iddo farw. Claddwyd ei lwch, ac eiddo'i wraig, yn ôl ei ddymuniad, ym mynwent Capel Pen-rhiw yn yr Amgueddfa Werin. Ar y garreg fedd yno hefyd y coffeir ei unig fab Dafydd (1936-1980). Dadorchuddiwyd maen coffa yn 1996 ar fur Glan-llyn, Llanbryn-Mair, y tŷ lle ganed Iorwerth Peate.

Ffynonellau:

  • Rhwng Dau Fyd , 1976, ei hunangofiant;
  • R. Alun Evans, Bro a Bywyd Iorwerth Cyfeiliog Peate , 2003 (2003);
  • Catrin Stevens, Iorwerth C. Peate , (Writers of Wales), 1986 (Writers of Wales) (1986);
  • T. Robin Chapman, Iorwerth Peate , 1987, (Llên y Llenor ) (1987);
  • Manon W. Roberts, Barddoniaeth Iorwerth C Peate , 1980 (1980);
  • T. M. Owen, ‘Iorwerth Peate a Diwylliant Gwerin , 1998’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1998);
  • Portreadau'r Faner , 2 (1961);
  • Y Cymro , 26 Hydref 1982.

Awdur:

Trefor M. Owen

Blwyddyn Cyhoeddi: 2009