THOMAS, IVOR OWEN (1898-1982), gwleidydd Llafur

Enw: Ivor Owen Thomas
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1982
Priod: Beatrice Thomas (née Davis)
Rhiant: Margaret Thomas
Rhiant: Benjamin L. Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef ar 5 Rhagfyr 1898, yn fab i Benjamin L. a Margaret Thomas, Llansawel. Addysgwyd ef yn Ysgol Vernon Place, Llansawel, ac yn ddiweddarach yn y Coleg Llafur Canolog, Llundain, 1923-25, lle derbyniodd ysgoloriaeth gan Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd. Dechreuodd weithio pan oedd yn ddeng mlwydd oed fel bachgen sebon i farbwr. Enillodd ei fywoliaeth yng Ngweithfeydd Alcam Gwalia, Llansawel, 1912-19, fel glanhawr injan stêm ar y Great Western Railway, Ffordd Pontypŵl, ac ym Mhrif Swyddfa Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, 1925-45 a 1955-58. Roedd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Battersea, 1929-45, ac yn gadeirydd ar ei bwyllgor tai, 1934-38. Etholwyd Thomas yn AS Llafur dros etholaeth Wrekin, Swydd Amwythig yn etholiad cyffredinol 1945 a daliodd i gynrychioli'r etholaeth yn y senedd hyd 1955 pan gollodd y sedd i'r ymgeisydd Ceidwadol, William Yates, o 478 pleidlais yn unig. Yna dychwelodd i brif swyddfa Undeb Cenedlaethol Gweithwyr y Rheilffyrdd. Roedd yn aelod o staff Adran Waterloo, y Rheilffyrdd Prydeinig, Talaith y De, 1960-64, ac o staff Arolwg Defnydd Tir, Cyngor Dinas San Steffan, 1965-66. Priododd ym 1929 Beatrice, merch y Cynghorydd William Davis, Battersea. Bu hithau farw ym 1978. Eu cartref oedd Marobea, 26 Sumburgh Road, Llundain SW12. Bu yntau farw ar 11 Ionawr 1982.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.