ROWLANDS, CEINWEN (1905-1983), cantores

Enw: Ceinwen Rowlands
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1983
Priod: Arthur Aaron Walter
Rhiant: Kate Rowlands (née Jones)
Rhiant: William Rowlands
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cantores
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams

Ganwyd 15 Ionawr 1905 yng Nghaergybi, Ynys Môn, yn unig blentyn William Rowlands a'i wraig Kate (Jones). Cadwai ei thad, a oedd yn frodor o Gaergybi, siop ddillad yr 'Anglesey Emporium' yn y dref nes iddo ymddeol yn 1929. Brodor o Gerrigydrudion oedd ei mam, ac yn gantores cyngerdd bur amlwg yn ei dydd. Addysgwyd Ceinwen yn Ysgol Morgan Jones, Caergybi, ac yn Ysgol Sir y Merched, Bangor. Astudiodd ganu am naw mlynedd gyda Robert (Wilfred) Jones ac ar ôl ennill dwy wobr gyntaf am ganu yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Wyddgrug 1923 a Phwllheli 1925 derbyniodd lawer o ymrwymiadau i ganu mewn cyngherddau amrywiaethol ac oratorio ledled Cymru. Aeth i Lundain ym mis Ionawr 1930 ac ar ôl astudio ymhellach yno gyda Plunket Greene a Mabel Kelly, datblygodd yn un o brif gantorion soprano Cymreig ei chenhedlaeth, a bu galw mawr am ei gwasanaeth mewn cyngherddau a darllediadau. Canodd droeon yng nghyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol gan gynnwys y perfformiad Cymraeg cyntaf o Emyn o Fawl Mendelssohn yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1943. Recordiodd amryw o eitemau Cymraeg i gwmni Decca, yn eu plith ganeuon gan Meirion Williams, D. Vaughan Thomas a Mansel Thomas. Priododd yn 1946 ag Arthur Walter, brodor Cymreig ei dras o Portsmouth, a ddaliai swydd Prif Dderbynnydd Swyddogol mewn Methdaliadau. Bu ef farw y 1967 ac yn 1972, ar ôl treulio dros ddeugain mlynedd yn Llundain, symudodd hithau i'r Rhyl. Bu farw 12 Mehefin 1983 yn ddi-blant, yn ysbyty Clatterbridge, swydd Gaer, ac amlosgwyd ei chorff ym Mae Colwyn, 16 Mehefin 1983.

Y mae casgliad o'i phapurau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a rhestr o'i recordiau yn O lwyfan i lwyfan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.