Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ATKIN, LEON (1902-1976), gweinidog yr Efengyl Gymdeithasol ac ymgyrchydd dros y difreintiedig yn ne Cymru.

Cafodd ei eni 26 Gorffennaf 1902 yn un o saith o blant, yn fab i reolwr nwy yn Spalding, swydd Lincoln. Yr oedd y teulu'n byw y drws nesaf i'r capel Methodistaidd ac er eu bod yn Anglicaniaid mynychai Leon weithgareddau'r capel pan oedd yn blentyn a daeth yn Fethodist. Yn 1914 symudodd y teulu i Biddulph ac yn 1919 daeth yn fachgen bregethwr gan dderbyn llawer o gyhoeddusrwydd a fwynhaodd yn fawr. Wedi treulio prentisiaeth yn beiriannydd derbyniwyd ef yn efrydydd am y weinidogaeth a hyfforddwyd ef yn y Coleg Methodistaidd yn Handsworth, Birmingham. Hyd yn oed yn y cyfnod hwn bu mewn gwrthdrawiad sawl gwaith ag awdurdodau'r coleg ond penodwyd ef yn Weinidog ar Brawf yn eglwys St John, Risca, Gwent yn 1930. Mabwysiadodd yr Efengyl Gymdeithasol gan herio comiwnyddion milwriaethus a'r mudiad secwlaraidd yng nghymoedd glofaol sir Fynwy. Cynhaliai gyfarfodydd awyr agored bob wythnos yn nhraddodiad ei gyfoeswr Donald Soper yn Llundain. Am flwyddyn gyfan bu'n dadlau bob nos Wener yng nghlwb y gweithwyr yn Risca a chydag aelodau o'r Blaid Gomiwnyddol yn ogystal ag ag anffyddwyr a fynychai'r gwasanaethau nos Sul. Gan amlaf byddai tua 800 i 900 o bobl yn bresennol.

Trosglwyddwyd ef yn 1932 i'r Neuadd Fethodistaidd ym Margoed a gweddnewidiodd y sefydliad mewn byr amser. Defnyddiodd Atkin y capel mawr a'r ysgoldy i gynorthwyo'r di-waith trwy agor yr adeilad bob diwrnod o'r wythnos a sefydlodd yno weithdy trwsio esgidiau, siop dorri gwallt, a chegin a ddarparai brydau bwyd am ddim. Troes ran o'r adeilad yn hostel i 28 o bobl ieuanc di-waith na dderbynient fudd-dal am fod eu tadau'n ennill ychydig sylltau'n ormod dan reolau'r Prawf Enillion. Cododd wrychyn yr awdurdodau trwy ganiatáu i ddynion di-waith digartref letya yn y Neuadd fel bod ganddynt gyfeiriad a fyddai'n eu galluogi i hawlio budd-dal a bygythiwyd ei erlyn am ‘rwystro gweinyddiaeth Llywodraeth ei Fawrhydi’. Ei ymateb oedd beirniadu'r Blaid Lafur (plaid yr ymunodd â hi pan oedd yn 16 oed) a'r eglwysi yng Nghymru am fod mor aneffeithiol. Cythruddwyd arweinyddion y Synod a threfnwyd i'w symud i Gernyw, ond gwrthododd Atkin dderbyn eu dyfarniad.

Clywodd Parchg. Edward Morgan, gweinidog gyda'r Annibynwyr yng Nghaerdydd, am wrthodiad Atkin ac awgrymodd i nifer o eglwysi Annibynnol eu bod yn ei wahodd atynt yn weinidog. Daeth gwahoddiadau o Aberpennar, Abertawe ac Elái yng Nghaerdydd. Derbyniodd Atkin y capel gwanaf o'r tri, sef St Paul yn Abertawe a oedd â 12 o aelodau a dyled o £2000. Dechreuodd ei weinidogaeth awyr agored yn Abertawe ar unwaith trwy gynnal cyfarfodydd mewn lle o'r enw y Forum. Tyfodd ei gynulleidfa ar nos Sul yn St Paul o ddeg i 200 yn y gaeaf ac i 500 yn yr haf, y mwyafrif ohonynt yn ymwelwyr ar eu gwyliau.

Addasodd Atkin lawr isaf y capel yn lle byw i'w deulu, ei wraig May a'u dau blentyn. Ond bregus oedd oedd ei berthynas ag Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru gan nad oedd yn ymateb i unrhyw awgrymiadau cadarnhaol ganddynt hwy a chan ei fod yn dra adnabyddus yn y Blaid Lafur yn erbyn Ffascaeth. Safodd yn ymgeisydd dros y Blaid Lafur mewn etholiad cyngor 1 Tachwedd 1935 a cholli fel y gwnaeth y flwyddyn ganlynol yn Ward Victoria, ond etholwyd ef yn gynghorydd dros Ward Brynmelyn ar Gyngor Bwrdeisdref Abertawe fis Tachwedd 1936. Cythruddwyd llawer o'r arweinwyr Cristnogol, yn arbennig y Tad J. Cahalane o Eglwys Gatholig St Joseph a ystyriai Atkin yn anffyddiwr. Parhaodd Atkin ar y cyngor yn enw'r Blaid Lafur tan 1947 pan ofynnwyd iddo ymddiswyddo oherwydd ei feirniadaeth gyson, a sefyll dros ward arall. Gwrthododd a ffurfiodd ei blaid wleidyddol ei hun, Plaid y Bobl, gan gadw ei sedd nes ei cholli ymhen 17 mlynedd yn 1964.

Safodd yn ymgeisydd seneddol yn Nwyrain Abertawe yn yr is-etholiad 28 Mawrth 1963 yn dilyn marwolaeth David Llewelyn Mort. Gwnaeth yn dda, yn drydydd allan o chwech gan lwyddo i gadw ei ernes ac ennill 8% o'r bleidlais, yn fwy nag ymgeiswyr y Comiwnyddion a Phlaid Cymru gyda'i gilydd. Dyma'r canlyniad: Neil McBride (Llafur), 18,909; R. Owens (Rhyddfrydwr), 4,985; Parchg Leon Atkin (Plaid y Bobl), 2,464; Miss A. P. Thomas (Ceidwadwraig), 2,272; E. Chris Rees (Plaid Cymru), 1,620; Bert Pearce Comiwnydd), 773.

Daethai Atkin yn ffigur adnabyddus yn Abertawe, yn ei goler gron a'i ‘beret’, ond yn dra amhoblogaidd gan weithwyr y Blaid Lafur ac arweinwyr yr Eglwysi Rhyddion. Câi ei anwybyddu yn holl bwyllgorau'r Blaid Lafur a'r Eglwysi Rhyddion.

Yn 1940 ymwadodd â'i ddaliadau heddychol ac ymuno â'r Magnelwyr Brenhinol, ond pan glywodd Bwrdd Unedig y Caplaniaid am ei benderfyniad gwahoddwyd ef i fod yn gaplan yn y fyddin. Ac yntau'n gwasanaethu yn yr Iseldiroedd, clywodd fod ei ddiaconiaid yn St Paul wedi terfynu ei weinidogaeth a phan ddychwelodd i Abertawe cafodd fod y capel wedi'i gloi. Adenillodd y lle blaen trwy gyfrwng ei anerchiadau awyr agored yn y Forum a chyda chefnogaeth cyn-filwyr. Ymsefydlodd Atkin eilwaith yn St Paul, y tro hwn heb gefnogaeth ffurfiol Undeb yr Annibynwyr. Bu mewn brwydr gydag awdurdodau'r dref am ddangos ffilmiau'n anghyfreithiol heb drwydded gerdd wedi'r gwasanaeth ar nos Sul, a tharfodd ar arweinyddion yr Eglwysi Rhyddion oherwydd ei safbwynt ar gadw'r Sul.

Datblygodd Atkin ei weinidogaeth ymhlith pobl anghenus a daeth ei ofal dros y difreintiedig, y cardotwyr a'r crwydriaid i amlygrwydd trwy gyfrwng ei erthyglau yn y wasg, yn arbennig y News of the World. Yn ystod gaeaf gerwin 1947 daeth ei gapel yn noddfa i ddwsinau o ddynion a fyddai wedi marw onide. Ymwelai'n wythnosol, ar nos Wener, â thafarnau Abertawe i gasglu arian i fynd â phlant tlawd Abertawe i'r syrcas ac i fwynhau noson tân gwyllt Guto Ffowc.

Ni allai Atkin fod yn ddiddig mewn unrhyw sefydliad neu fudiad. Rebel na allai ond tynnu'n groes ydoedd, unigolyn eithafol na chollai gyfle i dynnu blewyn o drwyn yr Anghydffurwyr a'r Llafurwyr. Yr oedd ei hoffter o acohol yn un o'i ffaeleddau yng ngolwg y mwyafrif o weinidogion a chapelwyr gorllewin Morgannwg; yfai'n aml yn Abertawe yng nghwmni Dylan Thomas . Yr oedd ei fywyd a'i dystiolaeth yn unigryw a bu'n ffigur dadleuol yn Abertawe a'r cylch am 42 o flynddoedd. Bu farw yn Abertawe 27 Tachwedd 1976.

Ffynonellau:

  • Robert Pope, Building Jerusalem (1998), t. 205;
  • David Parry Jones, ‘The Man who did not care a damn’, Western Mail ; 28 Chwefror 1961;
  • Arnold J. James a John E. Thomas, Wales at Westminster (Llandysul, 1981), t.165;
  • nodiadau manwl gan y Parchg Ivor Rees, Abertawe;
  • gwybodaeth bersonol.

Awdur:

D. Ben Rees, Lerpwl

Blwyddyn Cyhoeddi: 2010