GRIFFITH, HUW WYNNE (1915-1993), gweinidog (MC) ac eciwmenydd amlwg

Enw: Huw Wynne Griffith
Dyddiad geni: 1915
Dyddiad marw: 1993
Priod: Mair Griffith (née Benson-Evans)
Plentyn: Gwawr Griffith
Plentyn: Ann Griffith
Plentyn: Nia Higgingbotham (née Griffith)
Rhiant: Grace Wynne Griffith (née Roberts)
Rhiant: Griffith Wynne Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac eciwmenydd amlwg
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd Huw Wynne Griffith 6 Rhagfyr 1915 yn Lerpwl, yn ail fab y Parchedig Griffith Wynne Griffith (1883-1967), gweinidog Capel Douglas Road, Anfield, a Grace Wynne Griffith (née Roberts, 1883-1963). Yr oedd Dr Gwilym Wynne Griffith (1914-1989), prif swyddog iechyd ynys Môn ac epidemiologydd blaenllaw, yn frawd iddo; aelodau eraill y teulu oedd Elizabeth Grace (Beti) Hunter (1921-2007), gweithwraig gymdeithasol, a Douglas (1918-1918). Addysgwyd Huw Wynne Griffith yn Lerpwl cyn i'r teulu symud yn 1923 i Borthmadog lle bu'n ddisgybl yn yr ysgol gynradd ac yna yn Ysgol Sir Porthmadog, ac wedyn yn Ysgol Friars, Bangor (pan ddaeth ei dad yn weinidog eglwys y Tabernacl), Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd mewn Lladin), Coleg Westminster, Caergrawnt, lle'r enillodd radd MA. Yn ystod y cyfnod hwn (1941-44) bu'n Ysgrifennydd a Llywydd Cymdeithas Genhadol Coleg Westminster. Treuliodd flwyddyn yng Ngholeg y Bala a llwyddo i gwblhau ei radd BD.

Ordeiniwyd ef yn 1945 a bu'n gweinidogaethu yng nghapeli Bethania, Glan-y-fferi a Seion, Llan-saint (1945-51), Sir Gaerfyrddin, a Siloh (Seilo), Aberystwyth (1951-1983), Ceredigion. Priododd Mair Benson-Evans (1918-2003), merch y Dr a Mrs Benson-Evans, Prestatyn ar 4 Gorffennaf 1945 yng nghapel Rehoboth, Prestatyn a ganwyd iddynt dair merch, Nia yn 1947, Ann yn 1949 a Gwawr yn 1956. O'i ddyddiau cynnar bu'n flaenllaw yn y mudiad eciwmenaidd. Gwasanaethodd o 1939 i 1941 yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cymru dros Fudiad Cristnogol y Myfyrwyr (SCM), a chynrychiolodd Gymru yng Nghynhadledd Ieuenctid Cristnogol yn Amsterdam, Awst 1939. Cynrychiolodd ei enwad yng Nghynhadledd Ffydd a Threfn Cyngor Eglwysi'r Byd yn Lund, Sweden yn 1952. Yn y 1950au bu'n olygydd Yr Efrydydd ac yn fawr ei wasanaeth hefyd fel Ysgrifennydd Pwyllgor Cynllun y tri enwad ac yna Gynllun y Pedwar Enwad. Gwahoddwyd ef i fod yn Gadeirydd Cymdeithas Eciwmenaidd Cymru yn 1954.

Yn y 1960au ef oedd un o arweinwyr amlycaf eciwmeniaeth yng Nghymru. Bu'n Ysgrifennydd pwyllgor trefnu ymgyrch Ffydd a Threfn Cyngor Eglwysi Cymru (1963-64), yn Ysgrifennydd Cydbwyllgor Cyfamodi Eglwysi Cymru (1965-68) ac yn gyfrifol am yr adroddiadau a gynhyrchwyd yn 1968 a 1971. Etholwyd ef yn Is-Lywydd Cyngor Eglwysi Cymru (1966-68) ac yna yn Llywydd (1968-72). Bu'n amlwg ar Bwyllgor Eglwys a Chymdeithas y Cyngor, yn Ysgrifennydd delfrydol i'r gweithgareddau. O fewn ei enwad ei hun adnabyddid ef fel eciwmenydd didwyll a rhoddwyd cryn lawer o ddyletswyddau iddo o fewn y Bwrdd Undeb Eglwysig. Cynrychiolodd yr enwad ar Cyngor Eglwysi'r Byd yn Nairbobi, Cenia yn 1975. Bu'n flaengar yn lleol fel eciwmenydd a chyd-sefydlodd Ecwmene Ceredigion, fforwm i bobl ifanc y sir.

Rhoddai bwyslais mawr ar yr efengyl gymdeithasol a bu'n weithgar ar hyd ei yrfa yn lleol a chenedlaethol gyda Chymorth Cristnogol, Shelter a mudiadau i ddileu tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol. Bu'n gefnogol i grwp Gwrth-Apartheid Aberystwyth, Amnest Rhyngwladol ac Ockenden Venture i enwi ond tri o lu o fudiadau a gafodd ei gonsýrn. Bu'n fawr ei groeso i blant ffoaduriaid o'r Almaen i fwynhau breintiau Aberystwyth, a derbyn ffoaduriaid o Hwngari adeg y chwyldro yn 1956. Bu ef a'i briod Mair a'u teulu yn fawr eu gofal gan estyn lloches i lawer unigolyn a oedd mewn helbul ac argyfwng. Bu'n ofalus iawn o'r myfyrwyr a ddaeth i'r colegau yn Aberystwyth a chroesawyd cannoedd ohonynt i Mans Bethseilun, a safai y drws nesaf i'r capel hardd (nad yw mwyach). Pleser oedd mynychu oedfa Siloh pan fyddai ef yn cymryd yr oedfa a Charles Clements wrth yr organ.

Yr oedd Huw Wynne Griffith yn gymeriad hoffus, ac yn anwylyn yn ei gymuned ac yng ngweithgareddau ei enwad ac eglwysi o bob traddodiad. Dylanwadodd yn ei bregethu meddylgar, yn ei erthyglau i'r Goleuad, Y Traethodydd, Porfeydd, Ecwmene, Y Genhinen a Barn ar faterion llosg a phwysig y dydd. Ysgrifennai gyda pharch amlwg gan ddangos paratoad manwl ar gyfer yr ysgrifau. Lluniodd werslyfr ar yr Efengyl yn ôl Marc (1953), llyfr o straeon i blant, Gyda'r Iesu (1961), a chyhoeddwyd ei Ddarlith Davies, C F Andrews - Cyfaill Gandhi ac Arloeswr y Genhadaeth Gyfoes yn 1978. Lluniodd ysgrifau i Rhyddid ac Undeb (1963) a'r llawlyfr gweddïo yn 1991. Nodwedd amlwg ohono oedd ei barodrwydd i wrando'n astud ar ei bobl, i ddysgu ganddynt, ac i adeiladu yn gadarnhaol. Ym Mwrdd Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru cawsom enghreifftiau lawer o'i wybodaeth, ei feddwl chwim, ei gwestiynau gonest a chraff a'i ymgysegriad i fyd di-drais. Roedd yn wrthwynebwr cydwybodol yn yr Ail Ryfel Byd, ac roedd ei fywyd yn dyst i'w gred mewn heddwch a chyfiawnder. Roedd ganddo fel cymeriad lygaid treiddgar a chyfarchiad caredig, yn dawel ei ffordd ac yn gwbl ddiymhongar. Gwelid ef bob dydd ar ei feic yn nhref Aberystwyth, yn y 1950au a'r 1960au, yn ymweld â'i braidd. Roedd yn gwbl ddisgybledig yn ei waith, gan ddilyn patrwm diddorol o weddi, myfyrdod, darllen Gair Duw, astudio, paratoi pregethau ac erthyglau, ymweld â'r ysbytai a'r cleifion a mynychu cyfarfodydd a phwyllgorau niferus.

Bu farw 20 Mawrth 1992 yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth o emphysema. Bu'n dioddef gryn lawer o'r aflwydd yn ddewr a di-gwyn am flynyddoedd. Bu'r arwyl ar 25 Mawrth 1993 yng nghapel Morfa, Aberystwyth o dan ofal ei weinidog, y Parchedig Pryderi Llwyd Jones. Traddodwyd coffâd iddo gan ddau a'i hadnabu yn y byd eciwmenaidd, y Parchedig Erastus Jones a'r Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts. Gosodwyd ef ym medd y teulu ym mynwent Plasgrug Aberystwyth. Crynhodd y bardd Gwilym Roberts ei fywyd a'i waith yn yr englyn sydd ar garreg ei fedd:

Huw fu byw i wella'n byd
Ufudd was fu i Dduw drwy'i fywyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-11-03

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.