JONES, JOHN ITHEL (1911-1980), gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg

Enw: John Ithel Jones
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1980
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: D. Hugh Matthews

Ganwyd John Ithel Jones yn Nowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg, ar 1 Ionawr 1911. Cafodd ei addysg yn yr ysgol gynradd lleol ac yn Ysgol Ramadeg Cyfarthfa, Merthyr Tudful, ac fe'i bedyddiwyd ym Moreia, Dowlais. Ewythr iddo oedd y pregethwr efengylaidd enwog, y Parchg R. B. Jones. Roedd Ithel Jones eisoes yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, pan dderbyniwyd ef yn 1930 yn ymgeisydd am y weinidogaeth Gristnogol yng Ngholeg y Bedyddwyr Caerdydd. Graddiodd yn y Gymraeg (ail ddosbarth) yn 1932 ac mewn Athroniaeth (dosbarth cyntaf) yn 1933 cyn mynd ymlaen i ennill B.D.; graddiodd yn M.A. yn 1946 gyda thraethawd diwinyddol.

Dau ddylanwad mawr arno yn nyddiau'r coleg oedd Dr Theodore H. Robinson, yr Athro Hebraeg, a Dr Thomas Phillips, Prifathro Coleg y Bedyddwyr. Dywedir fod Thomas Phillips yn bregethwr a chyfathrebwr heb ei ail. Ac yntau'n fyfyriwr, daeth Ithel Jones i sylw'r enwad pan wahoddwyd ef a myfyriwr arall, Walter P. John, i bregethu yng nghyfarfodydd blynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru yn Abertawe (1934), ac am ei bregethu, yn bennaf, y sonnir amdano ar ôl hynny. Wedi gorffen ei gwrs colegol, ordeiniwyd ef yn weinidog Gilgal, Porthcawl yn 1936, gan symud i Horfield, Bryste, yn 1940 a Haven Green, Ealing, Llundain yn 1950.

Priododd â Hannah Mary Rees ('Nana'), merch i'r Parchg Thomas Lloyd Rees a oedd yn weinidog Calfaria, Treforus ar y pryd ond a godwyd i'r weinidogaeth ym Moreia, Dowlais. Ni chawsant blant.

Dychwelodd o Lundain i Gymru yn Ionawr 1958 i fod yn Brifathro Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd, gan ddarlithio mewn Athrawiaeth Gristnogol ac Athroniaeth Crefydd yn y Brifysgol. Bu'n Ddeon y Gyfadran Ddiwinyddol yng Nghaerdydd ac hefyd yn Ddeon Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru. Bu'n Gymedrolwr Cyngor Ffederal Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr ac yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr (1967-8). Apwyntiwyd ef yn aelod o Bwyllgor Panel Ymgynghorol Crefydd gan yr Awdurdod Teledu Annibynnol a chydnabyddwyd ei ddoniau cerddorol gan Fedyddwyr Lloegr pan gofynnwyd iddo wasanaethu ar Banel Cerddoriaeth a Bwrdd Golygyddol The Baptist Hymnbook a gyhoeddwyd yn 1962.

Cydnabyddid Ithel Jones yn ddarlithydd ac yn bregethwr effeithiol a chafodd wahoddiadau i siarad ar draws Ewrop a Gogledd America. Yn 1965, gwahoddwyd ef i bregethu yng nghyfarfodydd y Baptist World Alliance yn Miami Beach, Florida, a theithiodd o gwmpas Gogledd America yn darlithio a phregethu. Wedi darlithio yn Seminari Ddiwinyddol y Dwyrain yn Philadelphia dyfarnwyd gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth (D.D.), er anrhydedd, iddo. Dyfarnodd Prifysgol Baylor, Texas, radd Doethuriaeth yn y Gyfraith (Ll.D.), er anrhydedd, iddo. Derbyniodd wahoddiad yn 1968 i bregethu yn eglwys enwog Collins Street, Melbourne, Awstralia, ar achlysur dathlu penblwydd yr achos yn 125 mlwydd oed. Fel canlyniad i'w ymweliad cafodd alwad i ddychwelyd i'r weinidogaeth fugeiliol yno ac fe'i derbyniodd. Sefydlwyd ef yn weinidog yr eglwys ar 17 Medi 1970 a bu farw ym Melbourne, Awstralia ar 30 Rhagfyr 1980 - dau ddiwrnod cyn ei benblwydd yn 70 oed.

Ym mis Tachwedd 1980, ychydig cyn ei farw, derbyniodd wahoddiad i gael ei benodi'n Brifathro Anrhydeddus Coleg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd ar ei ymddeoliad o'r weinidogaeth ond bu farw cyn cyflawni'r bwriad. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir: Temple and Town and Other Sermons (1961), Ein Capel Ni, yng nghyfres dathlu canmlwyddiant Undeb Bedyddwyr Cymru, 1966 (cyhoeddwyd hefyd fersiwn Saesneg, Our Chapel); The Holy Spirit and Preaching (1967) a Facing the New World and other Sermons (1968).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-01-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.