MORGAN, DEWI 'Dewi Teifi'; (1877-1971), bardd a newyddiadurwr

Enw: Dewi Morgan
Ffugenw: Dewi Teifi
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1971
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Nerys Ann Jones

Ganwyd Dewi Morgan 21 Rhagfyr 1877 ym Mrynderwen, Dôl-y-bont, Ceredigion yn fab i William Morgan (1852-1917) a Jane Jones (1846-1922). Pan oedd yn ddwy oed symudodd y teulu i Garn House ym Mhen-y-garn lle bu ei dad yn cadw siop groser ac yn rhedeg busnes glo a chario nwyddau.

Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd Dewi: ar ôl cyfnod yn helpu gyda busnes ei rieni aeth i weithio at y Cambrian News yn Aberystwyth. Daeth yn y man yn olygydd Cymraeg y papur hwnnw ac yn is-olygydd Baner ac Amserau Cymru dan Prosser Rhys. Bu yn y swyddi hyn am dros hanner canrif, hyd ei ymddeoliad yn 1964. Cyfrannodd gannoedd o erthyglau ac ysgrifau coffa mewn Cymraeg naturiol a chyhyrog, nid yn unig i'r papurau hyn ond hefyd i gylchgronau fel Y Goleuad, Y Drysorfa a Heddiw.

Addysgu ei hun fu hanes Dewi. Hanai o deulu diwylliedig ac yn ŵr ifanc bu'n rhan o'r bwrlwm gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â Chapel y Garn, Bow Street. Ei brifathro yn Ysgol Rhydypennau, John Evans, a fu'n bennaf gyfrifol am ennyn diddordeb ynddo mewn llenyddiaeth. Daeth yn ddarllenwr brwd, dysgodd gynganeddu a dechrau cystadlu mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol gan ennill ei gadair gyntaf yn ddwy ar hugain oed. Drwy ei gyfeillgarwch â T. Gwynn Jones, dyfnhawyd ei adnabyddiaeth o lenyddiaeth Cymru ac ehangwyd ei orwelion i gynnwys llenyddiaeth Ewrop. Llwyddodd i ddysgu mwy nag un iaith gyfandirol.

Bu'n fuddugol ar yr englyn ac ar yr hir-a-thoddaid droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond uchafbwynt ei yrfa eisteddfodol oedd ennill y Gadair gyda'i awdl 'Cantre'r Gwaelod' ym Mhwllheli yn 1925. Ar y cyfan, ymarferion mewn canu i destun a chynganeddu llithrig yw canu eisteddfodol Dewi Morgan. Crefftwr geiriau ydoedd yn anad dim ond cafwyd ganddo ambell berl o gywydd coffa ac englyn epigramatig yn ei hen ddyddiau.

Ei brif gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg oedd ei waith yn hyrwyddo diwylliant ei filltir sgwâr ac yn rhoi arweiniad i feirdd a llenorion ifanc fel beirniad mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol ac fel golygydd Colofn Farddol Y Faner. Ymhlith ei 'ddisgyblion' yr oedd D. Gwenallt Jones, T. Ifor Rees, Caradog Prichard, T. Glynne Davies, J. M. Edwards, Iorwerth C. Peate ac Alun Llywelyn-Williams.

Bu farw yn 93 oed yn ysbyty Bronglais Aberystwyth 1 Ebrill 1971 a'i gladdu ym mynwent y Garn 6 Ebrill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.