Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN, DAVID EIRWYN (1918-1982), prifathro coleg a gweinidog (B).

Ganwyd David Eirwyn Morgan ar 23 Ebrill 1918 ym Mryn Meurig, Heol Waterloo, Pen-y-groes, sir Gaerfyrddin, yn un o bedwar o blant - tri mab ac un ferch - David a Rachel Morgan. Gweithiai ei dad yn y lofa leol ond yr oedd ef a'i deulu'n mynychu'r oedfaon yn Saron, eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yn Llandybïe, ac yno y bedyddiwyd Eirwyn gan y Parchg Richard Lloyd, ac yno ymhen amser y dechreuodd bregethu. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Pen-y-groes cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman, lle y daeth yn gyfaill i'r gofalydd, D.R. Griffiths , (Amanwy). Ef a symbylodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Enillodd ysgoloriaeth Mary Towyn Jones i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle y graddiodd yn y Gymraeg yn 1938. Symudodd o Abertawe i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin yn 1939 gan raddio mewn diwinyddiaeth yno yn 1942. Symudodd wedyn i Goleg y Bedyddwyr yn Regent's Park, Rhydychen, gan raddio eto mewn diwinyddiaeth yn 1944 ac ar 26 Gorffennaf y flwyddyn honno ordeiniwyd ef yn weinidog eglwys y Bedyddwyr ym Mhisga, Bancffosfelen.

Priododd yng ngwanwyn 1953 â Mair Ellis Jones o Fancffosfelen a ganed iddynt ddau o blant, Dylan Eryl a Mari Helga.

Wedi bugeilio eglwys Pisga Bancffosfelen am ddeuddeg mlynedd, derbyniodd alwad yn 1956 i fod yn weinidog eglwysi'r Bedyddwyr yn y Tabernacl a Horeb, Llandudno. Tra oedd yno, rhyddhawyd ef i dreulio blwyddyn fel Ysgolor Fulbright a Chymrawd Ecwmenaidd Union Seminary Efrog Newydd (1960-61), ond tua diwedd ei gyfnod yn America, torrodd ei iechyd a bu'n rhaid iddo ddychwelyd heb raddio. Gwahoddwyd ef yn 1967 i ymuno â staff Coleg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol Bangor yn diwtor Athroniaeth Crefydd a Diwinyddiaeth Fugeiliol. Pedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1971, penodwyd ef yn Brifathro Coleg y Bedyddwyr. Bu'n ffyddlon a gweithgar yn ei waith nes i afiechyd blin ei oddiweddyd a'i orfodi i ymddeol yn gynnar yn 1980.

Rhoes wasanaeth enfawr ac amlochrog i'w enwad ac i'w genedl. Yr oedd yn heddychwr digymrodedd a bu'n Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch Cymru ac yn Llywydd Cymdeithas Heddwch ei enwad ei hun. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Emynau Cymru ac ef oedd ei hysgrifennydd cyntaf. Bu'n Ysgrifennydd Cymanfa Arfon am gyfnod cyn cael ei ddyrchafu'n Llywydd (1967-68), a thraddodi anerchiad nodweddiadol, ‘Yr Addoliad: Arfer ac Arbrawf’. Bu'n Llywydd hefyd i Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru yn 1964 ac yn gefnogydd i weithgarwch a thrafodaethau ecwmenaidd. Bu'n aelod amlwg o Blaid Cymru, a golygodd Y Ddraig Goch, papur Cymraeg y Blaid, o 1954 hyd 1959. Bu hefyd yn ymgeisydd i Blaid Cymru yn etholaeth Llanelli yn Etholiadau Cyffredinol 1950, 1951, 1955 a 1959.

Disgrifiodd W. Anthony Davies , ‘Llygad Llwchwr’, ef fel ‘un o newyddiadurwyr gorau Cymru’. Amlygodd ei ddoniau i'r cyfeiriad hwn wrth olygu wythnosolyn ei enwad, Seren Cymru (1960-72). Un o atyniadau'r wythnosolyn oedd ei ddyddiadur wythnosol a oroesodd o dan wahanol benawdau tan y rhifyn olaf yn 1976. Bu'n gefnogydd a chyfrannwr cyson i Seren Gomer. Yn weinidog ifanc, bu'n un o'r ‘golygyddion tros dro’ cyn dechrau golygyddiaeth Lewis Valentine yn 1951 ac Eirwyn Morgan a'i holynodd yn 1975. Ni chaniataodd ei waeledd iddo weithredu fel golygydd ar ôl 1977.

Bu ei gyfraniadau trwy'r blynyddoedd yn sylweddol. Y mae'r tri o lyfrau sy'n gysylltiedig â'i enw yn dangos ei ddiddordebau eang. Yn 1961 cyhoeddodd William Carey (1761-1834), sef hanes cenhadwr cyntaf Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr. Yn 1973 ymddangosodd ei lyfr Bedydd[:] Cred ac Arfer, sy'n fersiwn wedi ei helaethu o'i Ddarlith Pantyfedwen a draddododd yn 1969. Gyda John Hughes , Dolgellau, yn olygydd cerdd i'r llyfr, llywiodd drwy'r wasg Mawl yr Ifanc, llyfr emynau dwyieithog ar gyfer pobl ifanc. Yn ogystal â golygu'r gyfrol, cyfrannodd ef ei hun iddi dri ar ddeg o gyfieithiadau graenus. Mae dau ohonynt, ynghyd ag un cyfieithiad arall o'i eiddo, i'w gweld yn Caneuon Ffydd (2001).

Bu farw ar 30 Awst 1982 a chynhaliwyd ei angladd ym Mhenuel Bangor cyn symud i'r Amlosgfa leol.

Ffynonellau:

  • Dyddiadur a Llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru , 1984;
  • R. W. Jones yn Llythyr Cymanfa Arfon , 1968;
  • Ieuan Jenkins, ‘Myfyrwyr Bedyddiedig y Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin,’ Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru (1976-77), tt.31-32;
  • John Rice Rowlands, Y Coleg Gwyn , 1992, 40-42.

Awdur:

D. Hugh Matthews

Blwyddyn Cyhoeddi: 2010