Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MOSS, GWENFRON (1898-1991), Cenhades yn China ac India.

Ganwyd hi Gorffennaf 27, 1898, yng Nghoed-poeth, yn ferch Samuel a Margaret Moss. Yn Salem, Coed-poeth, y maged hi o dan weinidogaeth y Parchg. T. E. Thomas. Derbyniodd ei haddysg a'i hyfforddiant yn Ysgol y Merched, Grove Park, Wrecsam, ac yn Ysgol Fferylliaeth y Gymdeithas Fferyllol yn Llundain. Addolai'n gyson yn ei chyfnod yn y brifddinas yn Eglwys y Tabernacl, King's Cross, lle'r oedd Elfed yn weinidog. Methodd yn lân â chael unrhyw gyfle i weithio yng Nghymru, fel y dymunai, ond cafodd waith dros Glawdd Offa yn Castleford, ac wedi hynny yn Huddersfield. Bu'n hapus iawn yn y mannau hynny a thystiai fod pobl Swydd Efrog yn ddigon tebyg i'r Cymry ar lawer ystyr. Arferai adrodd mor fawr oedd ei dyled i Eglwys Hillhouse, ac i'r Cynulleidfaolwyr Saesneg a gyfarfyddai yno yn Huddersfield. Yno y bu ei haelodaeth ar hyd y blynyddoedd hyd oni ddychwelodd i Gymru ar ei hymddeoliad. Ym 1921, gwelodd Cymdeithas Genhadol Llundain yn dda i benodi Gwynne Beynon, a hanai'n wreiddiol o'r Bynea, ger Llanelli, yn fferyllydd o genhadwr i Shanghai, yn China. Mae'n debyg fod Gwenfron Moss, yn ôl ei thystiolaeth hi ei hun, wedi ymgeisio am yr union swydd honno. Ymdeimlai'n ifanc â'r awydd i wasanaethu fel cenhades ac y mae'n amlwg fod galwad China yn peri cyfaredd iddi. Aeth i Gynhadledd Genhadol Swanwick yn haf 1925, ac yno y bu iddi deimlo i sicrwydd mai dyna a fyddai gwaith ei bywyd hi. Cysylltodd ar unwaith â'r Ty Cenhadol gan gynnig ei gwasanaeth i Gymdeithas Genhadol Llundain (L.M.S.). Treuliodd ddwy flynedd yn paratoi yn Neuadd Carey, Birmingham, cyn cael ei phenodi i Ogledd China ym 1928. Bu cyfarfod ymgysegriad yn Eglwys Hillhouse, Huddersfield, ar Fehefin 27, ac un arall yn Salem, Coed-poeth, ar Awst 15, a'i hen weinidog, a oedd erbyn hynny wedi ymddeol ac yn byw yn Hen Golwyn, yn llywyddu.

Hwyliodd i China ar Awst 23, 1928 gan gyrraedd chwech wythnos yn ddiweddarach. Wedi iddi gyrraedd porthladd Tianjin (Tiensin), canfu fod yno groeso brwd yn ei haros gan wraig arall a oedd â'i gwreiddiau, fel hithau, yng Nghoed-poeth, sef priod William Hopcyn Rees, y cenhadwr o Gymro o Gwmafan, ym Morgannwg. Wedi cyfnod yn meistroli'r iaith yn Beijing (Peking), y brifddinas, penodwyd hi i weithio fel fferyllydd yn Ysbyty Goffa Mackensie yn Tianjin. Yr oedd yno yn agoriad swyddogol yr Ysbyty ym mis Mai 1930. Adeilad pum llawr ydoedd a thri chant o welyau ynddo. Bu'n gwasanaethu yno hyd 1938, pan fu gorfod arni i ddod yn ôl i Gymru i ofalu am ei rhieni oedranus. Wedi marw ei rhieni, yr oedd yn rhydd i ddychwelyd unwaith eto i China. Ond, ar yr union adeg honno, daeth y Rhyfel Mawr a pheri nad oedd mynd yn ôl yn bosibl. Penderfynodd adael Coed-poeth gan ymgartrefu gyda'i chwaer fabwysiedig, Miss Hetty Edwards, yng Nghaerdydd. Cafodd waith am gyfnod gyda Mudiad Cristionogol y Merched Ifainc. Ar ddiwedd y Rhyfel, fodd bynnag, daeth cyfle i ddychwelyd i China. Hwyliodd fis Mai 1946 o Lerpwl i India a hedfan oddi yno i China gan gyrraedd Tianjin fis Awst yr un flwyddyn. Yr oedd i weithio yn Ysbyty Goffa Roberts yn Tsangchow, a oedd oddi ar 1947, mewn ardal a lywodraethid gan y Comiwnyddion. Wynebodd brofiadau anodd yno, cyn i ddrws China gau yn erbyn yr holl genhadon Cristionogol a'u gorfodi oll i adael y wlad. Yn ei gwasanaeth angladd yng Nghapel Minny Street, Caerdydd, ddydd Llun, Awst 19, 1991, tystodd cenhadwr arall a fu'n gwasanaethu yn China, Dr. Geoffrey Milledge, gweddw'r genhades o Gymraes, Mrs. Miriam Milledge, am rai o'r profiadau anodd hynny y bu'n rhaid i Gwenfron Moss a'i chyd-genhadon eu hwynebu.

Dychwelodd i Gymru fis Chwefror 1951, gan ymgartrefu yng Nghaerdydd. Nid dyna ddiwedd gyrfa genhadol Gwenfron Moss, fodd bynnag. Ym 1953, penhodwyd hi fel cenhades i India ac ymddiriedwyd iddi'r gwaith o fod yn Arolygydd Bwrdd Diwydiannol Trafancôr o Gyngor Esgobaeth Cerela yn Eglwys De India. Golygai ei chyfrifoldebau newydd ei bod yng ngofal y gwragedd hynny a weithiai â'u llaw mewn brodwaith, lês a chrosio. Bu'n gyfrwng i ddarparu marchnad ar gyfer y cynnyrch hwnnw a daeth llawer parsel o India i law cymdeithasau'r chwiorydd yng Nghymru. Ymddeolodd o'i gwaith yn India ym 1964, ond ni ddychwelodd adref ar ei hunion. Ar ei ffordd adref drwy Ddeheubarth Affrica, dewisodd dreulio cyfnod o bedwar mis yn gweithio ymysg y gwahanglwyfus yng Nghanolfan Cawimbe yn Sambia. Bu yno hyd fis Ionawr 1965, pan ddychwelodd i Gaerdydd. Ymgartrefodd yno gyda'i chwaer. Gwnaed hi yn ddiacon yn Eglwys Minny Street, a mawr oedd ei gofal a'i diddordeb ym mhopeth da ac aruchel. Gofid mawr iddi oedd canfod dirywiad yn y dystiolaeth Gristionogol yng Nghymru, a gweld colli'r ifainc o gynifer o'n heglwysi. Wedi tair blynedd o ddihoeni, bu farw Gwenfron Moss, yn 93 mlwydd oed, ar Awst 10, 1991 a chynhaliwyd ei hangladd ar Awst 19. Bu farw Hetty Edwards, ei chwaer, bythefnos yn ddiweddarach.

Ffynonellau:

  • Ymchwil bersonol;
  • Blwyddiadur yr Annibynwyr Cymraeg 1992.

Awdur:

Ioan Wyn Gruffydd, Pwllheli

Blwyddyn Cyhoeddi: 2011