RICHARDS, GRAFTON MELVILLE (1910-1973), ysgolhaig Cymraeg

Enw: Grafton Melville Richards
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1973
Rhiant: Elizabeth Richards
Rhiant: William Richards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd fis Tachwedd 1910 yn Ffair-fach, Llandeilo, yn drydydd mab William ac Elizabeth Richards (gweithiwr rheilffordd oedd y tad). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Castell-nedd ac ymaelododd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe yn 1928. Graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1931 ac enillodd radd ymchwil M.A. gyda Rhagoriaeth yn 1933. Etholwyd ef yn Gymrawd Prifysgol Cymru yn 1934 a rhoes hyn gyfle iddo i astudio yn Nulyn gydag ysgolheigion megis Osborn Bergin, Myles Dillon a Gerard Murphy, ac ym Mharis gyda Joseph Vendryes, Antoine Meillet ac Émile Benveniste. Penodwyd ef yn Ddarlithydd Ymchwil Cynorthwyol yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe yn Hydref 1936 ac yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn Ebrill 1937.

Yr oedd Melville Richards yn un o'r nifer o ysgolheigion iaith a feithrinwyd gan Henry Lewis a dangosodd ei ddoniau ysgolheigaidd yn fuan. Dechreuodd weithio ar gystrawennau brawddegol Cymraeg Canol a chyhoeddodd ei waith mewn cyfres o erthyglau yn y cyfnodolion academaidd.

Gwasanaethodd yn y fyddin rhwng 1939 a 1945, yn fwyaf arbennig yn y gangen cudd-wybodaeth, profiad a ddefnyddiodd yn ei unig nofel, Y Gelyn Mewnol (1946), am gynllwynion ysbiwyr yng ngorllewin Cymru. Ailymunodd â'r adran Gymraeg yn Abertawe lle'r arhosodd hyd 1947 pan bendodwyd ef yn ddarlithydd, ac yna'n Ddarllenydd ac yn bennaeth yr adran Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Lerpwl. Cafodd ei ethol i Gadair y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1965 lle y bu'n bennaeth adran egnïol, yn ddeon cyfadran ac yn weinyddwr coleg effeithiol. Dyfarnwyd gradd Ph.D. (Lerpwl) iddo yn 1965.

Astudiaethau Celtaidd a chystrawen y Gymraeg a aeth â bryd Melville Richards ar ddechrau ei yrfa. Ac yntau'n dal yn Gymrawd ymchwil ieuanc cyhoeddodd Llawlyfr Hen Wyddeleg yn 1935 (sy'n seiliedig ar ramadeg awdurdodol Rudolf Thurneysen, A Grammar of Old Irish) a fwriadwyd i gynnig cyfarwyddyd i fyfyrwyr fel y gwnaethai llawlyfrau Cernyweg Canol a Llydaweg Canol Henry Lewis. Yn 1938 cyhoeddodd Cystrawen y Frawddeg Gymraeg, arweiniad da, at ei gilydd, i batrymau'r frawddeg Gymraeg er y gellid ei feirniadu am ei orbwyslais ar enghreifftiau llenyddol 'clasurol' a Beiblaidd. Derbyniodd adolygiad anffafriol gan T. J. Morgan yn Y Llenor. Parhaodd i weithio ar gystrawen Cymraeg Canol a Chymraeg Modern Cynnar a chyhoeddodd nifer o destunau gan gynnwys yn arbennig Breudwyt Ronabwy (1948), ond yn gynnar yn y 1950au gwelir arwyddion cyntaf newid yng nghyfeiriad ei ymchwil wrth iddo ddechrau cyhoeddi gwaith ar enwau lleoedd, ac o hyn hyd ddiwedd ei oes onomasteg fyddai ei brif ddiddordeb academaidd. Ymgymerodd, ar ei ben ei hun, â llunio archif hanesyddol o enwau lleoedd Cymru, eu hegluro nid yn unig o ran ystyr ond hefyd o ran eu harwyddocâd, a pharatoi onomasticon cyflawn. Arweiniodd y gwaith hwn ef i feysydd hanes sefydliadau, gweinyddiaeth a phatrymau ymsefydlu a daliadaeth tiroedd, ac ystyr enwau ar nodweddion topograffig yn y tirlun, yn ogystal ag i'r meysydd ieithyddol.

Cyhoeddodd gyfieithiad o Llyfr Blegywryd (Williams a Powell, 1942), The Laws of Hywel Dda (1954), golygiad o'r llyfr cyfraith yn llawygrif Jesus College LVII (1957) a Welsh Administrative and Territorial Units (1969). Ef a fu'n gyfrifol am yr enwau o Gymru yng nghyfrol gwasg Batsford The names of towns and cities in Britain (1970) a golygodd Atlas Môn yn Gymraeg a Saesneg yn 1972. Ymddangosodd llu o erthyglau, ymdriniaethau a nodiadau ar enwau lleoedd sydd hefyd yn ganllawiau sicr i egluro methodoleg astudio'r maes dyrys hwn: casglwyd cyfres o erthyglau a ymddangosodd dros gyfnod hir yn Y Cymro yn Enwau Tir a Gwlad, gol. Bedwyr Lewis Jones, 1998. Ni ellir gor-bwysleisio cyfraniad Melville Richards i ddatblygiad astudio enwau lleoedd yng Nghymru, gwaith a enillodd iddo fri cydwladol a gydnabuwyd yn ei waith fel aelod o gyngor yr English Place-Name Society, yn aelod o'r International Committee on Onomastic Sciences ac yn gadeirydd y Council for Name Studies of Great Britain and Ireland; bu'n drysorydd y Society for Folk-life Studies a chadeiriodd nifer o is-bwyllgorau Cyngor Ysgolion Cymru. Ni lwyddodd i gyhoeddi'r cyfrolau ar enwau lleoedd yr oedd wedi'u harfaethu ond mae ei archif, tua 300,00 o slipiau, wedi'i golygu gan Brifysgol Bangor, ac y mae ar gael ar-lein, Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd Archif Melville Richards .

Yr oedd Melville Richards yn ysgolhaig cynnes a hael. Yr oedd ganddo argyhoeddiadau cadarn a siaradai'n ddiflewyn ar dafod. Priodol yw dweud iddo ddioddef cryn wrthwynebiad annheg gan rai yn y bywyd Cymraeg a dybiai iddo dderbyn swydd darlithydd yng ngholeg Abertawe yn dilyn diswyddiad Saunders Lewis ar ôl 'y tân yn Llŷn', ond yr oedd eisoes yn aelod o'r staff, yn ddarlithydd cynorthwyol ymchwil, yr adeg honno.

Yr oedd Melville Richards yn briod a chanddo ef a'i wraig fab a merch. Yr oedd ei iechyd wedi bod yn dirywio ers tua 1970. Er gwaethaf arwyddion ei fod yn gwaelu, bu farw'n annisgwyl a thrasig 3 Tachwedd 1973 yn ei gartref ym Mhenllech, Ynys Môn. Bu ei angladd yn amlosfa Bae Colwyn 8 Tachwedd 1973.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-09-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.