ROBERTS, EDWARD (1886-1975), gweinidog (Bed.) a phrifathro coleg

Enw: Edward Roberts
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1975
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Bed.) a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: D. Hugh Matthews

Mab i David a Jane Roberts (Davies gynt) oedd Edward Roberts a anwyd yn Llanelli, 20 Mawrth, 1886. Roedd yn un o naw o blant, a chanddo bedwar brawd (John, Thomas, William a Henry) a phedair chwaer (Ann, Mary, Elizabeth-Jane a Gertrude). Aelodau yn Seion, Llanelli, oedd ei rieni. Yno yr oedd yr enwog E.T. Jones yn weinidog, ac ef a fedyddiodd Edward ar broffes o'i ffydd yn 1901. Gweithiwr peiriant yn y diwydiant alcam oedd ei dad a dechreuodd y mab weithio fel prentis mowldiwr metal (metal moulder) yn y diwydiant lleol, ond o dan ddylanwad pregethu ei weinidog a Diwygiad 1904-05, fe ddechreuodd yntau bregethu.

Cymeradwywyd ef i'r weinidogaeth gan ei fam-eglwys ac aeth i Goleg Caerfyrddin yn 1905 i ddechrau paratoi ar gyfer y weinidogaeth. Derbyniwyd ef i ddechrau cwrs gradd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1906 a blwyddyn yn ddiweddarach cofrestrodd fel myfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr hefyd. Graddiodd gydag anrhydedd mewn Athroniaeth yn y Brifysgol yn Nhachwedd 1909, ac ychwanegodd radd B.D. at ei B.A. dair blynedd yn ddiweddarach yn 1913. Aeth ymlaen i Goleg Mansfield, Rhydychen, lle graddiodd eto mewn diwinyddiaeth cyn cael ei ordeinio yn 1915 yn eglwys Saesneg Bethel, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, gyda'r Prifathrawon William Edwards (Caerdydd) a W. B. Selbie (Mansfield) yn gwasanaethu.

Yn 1918, tra oedd yn weinidog yn yr Eglwys Newydd, priododd â Gwladys Taylor, aelod ac organyddes yr eglwys ym Methel. Yn Castle Street, eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yn Llundain, y bu'r briodas. Ganwyd iddynt ddau o blant, sef David a John. Ergyd drom iddo a'r teulu oedd marw annhymig ei wraig yn 1929 yn 42 oed.

Symudasai yn 1924 i'r Tabernacl, Pontnewydd, Gwent, lle y treuliodd ddeuddeng mlynedd fel gweinidog cyn cael ei benodi, yn 1937, yn Athro Athrawiaeth Gristnogol ac Athroniaeth Crefydd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd. Merch o Bontnewydd oedd Margaret Edwards, ei ail wraig. Priodwyd hwy yng nghapel Albany Road, Caerdydd, yn 1947, y flwyddyn y cafodd ei ddyrchafu'n Brifathro'r Coleg, swydd a ddygai gyfrifoldeb o gymryd y dosbarth pregethu ac astudiaethau bugeiliol.

Yn ystod ei gyfnod fel Prifathro datblygwyd adeiladau preswyl Coleg y Bedyddwyr a dathlwyd trydedd jiwbilî sefydlu'r Coleg yn y Fenni yn 1807. Roedd y coleg wedi peidio â bod yn goleg preswyl pan symudodd o Bont-y-pwl yn 1893, ond gyda chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr am y Weinidogaeth yn 1945, pan ddychwelai dynion o'r Ail Ryfel Byd, dechreuwyd sôn am ehangu safle Coleg y Bedyddwyr drwy adeiladu hostel ar gyfer lletya'r myfyrwyr. Ar ysgwyddau Edward Roberts y syrthiodd y prif gyfrifoldeb am wireddu'r freuddwyd ac agorwyd yr hostel newydd yn swyddogol ar 7 Ionawr 1953. Ymddeolodd o'i gyfrifoldebau fel prifathro'r Coleg Ragfyr 1957, wedi blwyddyn o ddathlu trydydd jiwbili sefydlu'r Coleg.

Wedi ymddeol o'r Coleg bu'n byw yng Nghaerdydd am gyfnod, gan deithio ar y Suliau i wasanaethu eglwysi cymoedd y De. Pan fu farw ei wraig yn 1968 symudodd i fyw at un o'i feibion, meddyg yng Nghaerwrangon ac yna ym Mhenbedw cyn treulio'i flynyddoedd olaf yng Nglyn Nest, cartref henoed y Bedyddwyr yng Nghastell Newydd Emlyn. Bu farw'n dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, dydd Sul, 20 Gorffennaf, 1975.

Carai'r encilion ac ni chwenychodd unrhyw swydd o fewn i'w enwad, er iddo gael ei berswadio i dderbyn Llywyddiaeth Cymanfa Dwyrain Morgannwg un flwyddyn. Yn y Coleg, canolbwyntiodd ar ei ddarlithio a'i waith gweinyddol a bugeiliol, heb fentro cyhoeddi ond ambell ysgrif ac ambell anerchiad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-03-25

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.