DAVIES, ALUN WYNNE GRIFFITHS (1924-1988), cerddor a beirniad

Enw: Alun Wynne Griffiths Davies
Dyddiad geni: 1924
Dyddiad marw: 1988
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor a beirniad
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd Alun Davies 6 Ionawr 1924 yn Llandybïe, Sir Gaerfyrddin, yn fab i William ac Emily Davies. Pan oedd yn dair blwydd oed symudodd y teulu i Tooting, Llundain i werthu llaeth ac yno y'i maged. Yr oedd y teulu yn aelodau yng nghapel Annibynnol Radnor Walk, lle y dechreuodd feithrin ei ddiddordeb naturiol mewn cerddoriaeth, ond gan iddo golli ei dad pan oedd yn ddeuddeg oed, methodd barhau â'i addysg.

Wedi cyfnod yn helpu yn siop y teulu ymunodd â'r gwasanaeth sifil yn Llundain, gan weithio mewn sawl adran. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn Uned Ffotograffiaeth y Llu Awyr, a chadwodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ar hyd ei oes. Yn 1976 ymunodd â'r Swyddfa Gymreig a symud i Gaerdydd. Yn Llundain buasai'n derbyn hyfforddiant yng Ngholeg y Drindod Llundain ac enillodd radd allanol B.Mus. Prifysgol Llundain yn 1962, ynghyd â diplomâu cerdd eraill, gan arbenigo ar arwain. Bu'n arwain mwy nag un côr yn Llundain, yn arbennig Côr Ieuenctid Cymry Llundain o 1963 hyd 1976, ac wedi ymuno â'r Swyddfa Gymreig ffurfiodd gôr yno.

Ef oedd prif olygydd cerddorol Caniedydd yr Ifanc (1980), llyfr emynau ieuectid yr Annibynwyr Cymraeg, a hefyd yn olygydd Rhaglen Cymanfaoedd Canu Undeb yr Annibynwyr a gyhoeddid bob dwy flynedd. Cyhoeddwyd nifer o'i drefniannau o alawon gwerin a gwelir tonau a threfniannau o'i eiddo mewn casgliadau enwadol. Bu'n aelod gweithgar o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac yn drysorydd Cymdeithas Emynau Cymru. Yr oedd hefyd yn feirniad gwybodus ac adeiladol: cyfrannodd adolygiadau i amryw gylchgronau, gan gynnwys Y Ddinas (cylchgrawn Cymry Llundain), Musical Opinion, a Cerddoriaeth Cymru. Adeg ei farw, ef oedd gohebydd cerdd y Western Mail. Yr oedd yn gymeriad llawen a gasglodd nifer helaeth o gyfeillion a chysylltiadau.

Priododd ag un o aelodau ei gôr yn Llundain, Margaret Watts o Graig Cefn Parc, yn 1976, a bu iddynt ddau fab. Bu farw'n ddisymwth yng Nghaerdydd 12 Mehefin 1988. Cynhaliwyd ei angladd yng nghapel Minny Street ac amlosgwyd ei gorff yn Amlosgfa Thornhill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-02-05

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.