EVANS, EMYR ESTYN (1905-1989), daearyddwr

Enw: Emyr Estyn Evans
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1989
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearyddwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Colin Thomas

Ganed E. Estyn Evans ar 29 o Fai 1905, yn Stryd Mownt, Frankwell, Amwythig, gyferbyn â man geni Darwin. Gweithiodd ei dad, George Owen Evans (1865-1921) mewn pyllau clai a phyllau glo ardal Acrefair, ger Rhiwabon, Sir Ddinbych cyn ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Diwinyddol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn y Bala. Prentisiwyd ei fam Elizabeth (1864–1944) yn hetwraig yn Wrecsam. Hi oedd yr hynaf o bum merch Peleg Jones, contractwr adeiladau celfyddgar wrth ei alwedigaeth, a briododd â merch ffermwr o Frymbo.

Ordeiniwyd G. O. Evans yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru a bu'n gweinidogaethu gyda'r cynulleidfaoedd Cymraeg yn Llanymynech a'r Amwythig. Symudodd ym 1906 i'r Tabernacl, Coedway, rhwng Bryn Breidden ac Afon Hafren. Yno cafodd Estyn, tri brawd hyn (Vyrnwy, Owen Tanat a Hafryn) a chwaer iau, Deva, blentyndod gwledig hapus, er iddo fod ychydig yn gyfyng a thlawd. Cerddasant filltir dros y ffin i'r ysgol yn Alberbury, Swydd Amwythig, cyn symud ymlaen i Ysgol Eilradd (Ysgol y Sir) y Trallwng. Er bod eu rhieni'n siarad Cymraeg â'i gilydd, cymhellwyd y plant i ddefnyddio Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

Ym 1922 enillodd Estyn ysgoloriaeth agored i goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gan fwriadu astudio Lladin, ond tynnwyd ef ar unwaith at Ddaearyddiaeth ac Anthropoleg dan ddylanwad H. J. Fleure, dylanwad a barodd ar hyd ei oes. Graddiodd ag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1925 ond gan iddo gael ei daro gan y dicáu, rhwystrwyd ef rhag derbyn gwahoddiad gan ei arholwr allanol, Syr J. L. Myres i ymgymryd â gwaith ymchwil yng Ngholeg Newydd, Rhydychen. Wrth adennill ei iechyd yn Swydd Wiltshire, daeth i gysylltiad â'r archeolegydd O. G. S. Crawford, golygydd, yn y man, y cylchgrawn Antiquity, cyn dychwelyd i Aberystwyth i gynorthwyo Fleure gyda'i gyfraniadau i'r 14eg argraffiad o'r Encylopaedia Britannica, gan fod hefyd, am ychydig amser, yn ddirprwy-olygydd iddo i gyhoeddiad Clwb Powysland, Montgomeryshire Collections .

Ar ei ben-blwydd yn 23 oed, gan elwa ar gyngor a roddwyd iddo gan Dr Thomas Jones, CH, fe'i penodwyd yn ddarlithydd mewn daearyddiaeth ym Mhrifysgol y Frenhines yn Belfast, gyda chyfrifoldeb am sefydlu adran newydd yno. Dyrchafwyd ef yn Ddarllenydd ym 1944 ac yn Athro o 1945 hyd ei ymddeoliad ym 1968. Yn yr un flwyddyn ag y cychwynnodd yno, cyfarfu â Gwyneth, merch yr Athro Abel E. Jones, Athro Amaethyddiaeth yn Aberystwyth a'i wraig Bessie, ac yn y flwyddyn 1931, ei phriodi. Bu eu pedwar mab, David, Colin, Edwin ac Alun fel hwythau, yn mwynhau ymweliadau penwythnos a gwyliau mewn bwthyn wedi'i wyngalchu ym mynyddoedd Mourne.

Fel sawl un o fyfyrwyr Fleure, canolbwyntiwyd diddordebau academaidd Evans ar y berthynas rhwng cymunedau cynhanesyddol a rhaghanesiol a'u hamgylchedd naturiol. Ym 1931 dyfarnwyd gradd MA (Cymru) iddo am ei thesis dan y teitl, 'Astudiaeth Dechreuadau a Gwasgariad rhai o ddiwydiannau'r Oes Bres yng Ngorllewin Ewrop', gan ennill gradd D.Sc. am waith a gyhoeddwyd ym 1939, flwyddyn ar ôl ei etholiad yn Aelod o Academi Frenhinol Iwerddon.

Cyn iddo gyrraedd Belfast, gyda'r lle o dan ddylanwad trwm Ymraniad (1922) a'r dirwasgiad economaidd oedd ar ddyfod, yr oedd astudiaethau o orffennol Gogledd Iwerddon naill ai wedi eu seilio ar wleidyddiaeth enwadol neu ar ddihidrwydd academaidd. Gan ddod â golwg ffres, anwybyddodd Evans ymddygiadau croendyn o fewn y Brifysgol. Gyda'i gydweithiwr o Adran y Clasuron, Oliver Davies a llu o wirfoddolwyr a fu'n bresennol yn ei ddarlithiau astudiaethau allanol, ac a fu'n mynychu cyrsiau maes, dechreuodd ar archwiliad archeolegol y chwe sir. Darganfuwyd ugeiniau o henebion megalithig a oedd heb eu cofnodi o'r blaen. Cyhoeddwyd y gwaith yn ddiweddarach gyda D. A. Chart ac H. C. Lawlor dan y teitl A Preliminary Survey of the Ancient Monuments of Northern Ireland (1940).

Bu'n gadeirydd ar y Corff Ymgynghorol ar Henebion Wlster a gyda chynhorthwy Davies ailgododd The Ulster Journal of Archaeology. Ym 1937/38 cloddiodd safle mwyaf y Dalaith o'r Oes Neolithig, sef Bryn Lyle yn Swydd Antrim. Gyda'r caredigrwydd a'i nodweddai, ym 1939 rhoddodd gynnyrch ei holl waith ar Grymanau Ewropeaidd o'r Oes Bres i Cyril Fox. Wedi'i hwnnw ei gyhoeddi dan ei enw ei hun, gyda chydnabyddiaeth deilwng yn Proceedings of the Prehistory Society, derbyniodd glod arbennig gan Evans.

Wrth i'w ddealltwriaeth o hanes cynhanesyddol Iwerddon ddyfnhau, mater o gam bach anochel ydoedd iddo geisio adfer ei diwylliant a'i llên gwerin a oedd yn cyflym ddiflannu. Cymerodd gamau ffurfiol o 1953 ymlaen yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Pwyllgor Llên Gwerin a Thraddodiadau Wlster ac o 1965 ymlaen fel Llywydd Cymdeithas Llên Gwerin Wlster. Yn dilyn ei draethawd estynedig BA ar fynyddoedd y Pyreneau (a gyhoeddwyd ym 1930 yn y Festschrift i Fleure, gol. I. C. Peate), llyfr cyntaf Evans oedd France: A Geographical Introduction (1937), astudiaeth ranbarthol gonfensiynol. Er hynny, sail bennaf ei fri ysgolheigaidd oedd Irish Heritage: The Landscape, the People and their Work (1942), Mourne Country: Landscape and Life in South Down (1951), Irish Folk Ways (1957), Prehistoric and Early Christian Ireland: A Guide (1966), a The Personality of Ireland: Habitat, Heritage and History (1973), ynghyd â chasgliad a gyhoeddwyd wedi'i farw, Ireland and the Atlantic Heritage: Selected Writings (1996). Yn y cyhoeddiad hwn ysgrifennodd Gwyneth Evans 'Gofiant cofiannol' o'i diweddar briod. Wrth rannu ag ef 'barchus gydymdeimlad â'r dirwedd a'r werin', nododd Gwyneth, 'teimlais bob amser fod bardd yn ceisio torri'n rhydd tu mewn i'r academydd llym disgybledig'. Yn wir, cafodd ei lygad craff am liw a'i glust fain am swn fynegiant yn nisgrifiadau telynegol Evans o gyferbyniad a newid yn y dirwedd Wyddelig ac yn ffordd o fyw ei thrigolion. Torrwyd i lawr rwystrau posibl o ran galwedigaeth, statws cymdeithasol a theyrngarwch gwleidyddol gan hud diymhongar Estyn gyda'i gydraddoliaeth ddyngar a oedd yn ymestyn at bawb. Datblygodd gyd-weithio cyfeillgar â Chomisiwn Llên Gwerin Iwerddon ac archeolegwyr yn Nulyn, gyda'r un medr ag a ddefnyddiai i ddwyn perswâd ar fiwrocratiaid amheus yn Stormont ac i gocsio arferion hynafol o gof hen ffermwr dros glwyd un o'i gaeau.

Yn seiliedig ar ei brofiad o gymunedau gwerinol a oedd yn dal i fodoli o hyd ar draws Ewrop o Romania i Galicia ac i Donegal, a llwyddiant modelau cyffelyb yn Sgandinafia a Chymru, dechreuodd ei ymgyrch i greu Amgueddfa Werin (a Thrafnidiaeth yn ddiweddarach) Wlster ddwyn ffrwyth yn Cultra ar gyrion Belfast, gyda dau o'i gyn-ddisgyblion yn gyfarwyddwyr cyntaf. Erbyn hyn y mae adeiladau gwreiddiol wedi'u hail-godi, eu dodrefnu a'u cofnodi, ynghyd â mannau arddangos, llyfrgell a chasgliadau archif, yn enghreifftio traddodiadau diwylliannol amrywiol Wlster. Fe'u hystyrir o bwysigrwydd rhyngwladol. Yn gyfochrog â hyn, ym Mhrifysgol y Frenhines yn Belfast cymerwyd y camau cyntaf tuag at greu corff aml-ddisgybledig, yn Sefydliad Astudiaethau Gwyddelig. Evans oedd y Cyfarwyddwr (1968-70) ac Uwch Gymrawd (1970-72); bu'n Gymrawd Emeritws Leverhulme yr un pryd.

Ymestynnodd gweithgareddau academaidd Evans ymhell y tu hwnt i Iwerddon, gan ennill yr un gydnabyddiaeth ymhobman. Bu'n Athro Gwadd mewn Daearyddiaeth yng Ngholeg Bowdoin, Maine (1948-9) ac ym Mhrifysgol Indiana (1963). Dyfarnwyd iddo ddoethuriaethau anrhydeddus gan chwech o brifysgolion. Ymhlith rhagoriaethau eraill, bu'n aelod anrhydeddus o Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefol (1950), Llywydd y Gymdeithas Brydeinig, Adran E (Daearyddiaeth) (1958) ac Adran H (Anthropoleg) (1960), Llywydd Cymdeithas Pensaernïaeth Dreftadol Wlster (1967-77) a Llywydd Sefydliad y Daearyddwyr Prydeinig (1970). Dyfarnwyd iddo Fedal Victoria'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (1973), a derbyniodd Fedal Teilyngdod Cymdeithas Daearyddwyr America (1979).

Cynhwysai ei waith ymchwil bynciau o bob graddfa, o arteffactau unigol hyd at safleoedd, diwylliannau rhanbarthol a gwareiddiadau cyfan. O'i amgylch ym Mhrifysgol y Frenhines cafwyd grwp o gydweithwyr a myfyrwyr ffyddlon a gyfeiriai ato'n syml fel 'Proff.'. Cydnabuwyd ei rinweddau personol, ei egni, a maint ei weledigaeth gan ei benodiad ym 1970 yn CBE am ei wasanaeth i'r gymuned.

Cyhoeddodd Estyn Evans yn helaeth yn, ymhlith gyhoeddiadau eraill, Archaeologia Cambrensis, Bulletin of the Board of Celtic Studies, Mont. Colls., Antiquity, Proceedings of the Prehistoric Society, Ulster Journal of Archaeology, Irish Naturalists' Journal, a lluniodd lu o gyfraniadau i'r Encyclopaedia Britannica (cyf. 14.) a Festschriften a gyflwynwyd i gydweithwyr mewn amryw ddisgyblaethau. Ymhlith ei ddarllediadau ar y radio a theledu cyhoeddwyd ei Ddarlith Radio Flynyddol BBC Cymru The Personality of Wales yn 1973. Yn rhyfedd, nid ymddangosodd yr un o'i gyhoeddiadau cynnar am Gymru yng nghyfrol R. T. Jenkins a W. Rees Bibliography of the History of Wales (c.1962), a dim ond dau o wyth dan olygyddiaeth P. H. Jones ym 1989.

Er iddo, yn ei arddegau, wrthod cred grefyddol gyfyng ei rieni, arhosodd yr egwyddorion sylfaenol y'i trwythwyd ynddynt yn ei febyd gydag ef drwy'i fywyd gan etifeddu 'y foeseg Brotestannaidd o waith caled' ac ystyried ei hun yn 'Biwritan yn ei galon'. Yn arlunydd dawnus, bywiocawyd ei gyhoeddiadau gan frasluniau a lluniau a dynnodd ei hun, ynghyd â stôr enfawr o dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig. Lliwiwyd ei ryddiaith gain gan anecdotau personol, cyfeiriadau llenyddol (rhai Beiblaidd yn fynych) a phefriadau o hiwmor ysgafn. Pan ofynnwyd iddo gan E. G. Bowen pa bryd oedd yn golygu dychwelyd i Gymru yn ei ymddeoliad, tynnodd Estyn fraslun ohono'i hun ar gerdyn post, gyda gwreiddiau'n disgyn o'i esgidiau yn ddwfn i dir gwledig Wlster. Bu farw yn Belfast 12 Awst 1989.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-08-22

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.