HUGHES, ROBERT GWILYM (1910-1997), bardd a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Robert Gwilym Hughes
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1997
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd Gwilym Hughes 17 Awst 1910 ym Methesda, Arfon, yn ail fab i Robert John ac Elisabeth Hughes, ei dad o Waen Pentir, a'i fam o Drefdraeth ym Môn. Bu ei dad yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn wedi'r Streic Fawr (1900-03), a gwyddai ef a'i frawd Richard Môn Hughes o brofiad am y tlodi a ddilynodd y streic ym Methesda. Pan oedd yn bedair oed, symudodd y teulu i Lôn Bopty, Bangor, lle y cawsant, wrth y drws, gymuned Gymraeg ei hiaith a chapel Methodistiaid Calfinaidd Lôn Bopty a'i darpariaeth eang i bob oed.

Addysgwyd Gwilym Hughes ym Mangor, yn Ysgol Gynradd Sant Paul, lle'r oedd T. J. Williams, awdur barddoniaeth Gymraeg i blant, yn brifathro. Oherwydd ad-drefnu, bu'n ddisgybl yn Ysgol Cae Top o 1919 i 1921, cyn ei dderbyn trwy ysgoloriaeth i Ysgol y Friars, ysgol i fechgyn a roddai bwys ar y clasuron. W. St. Bodvan Griffith oedd y prifathro, cyfuniad o wyddonydd a chlasurwr. Daeth R. Gwilym Hughes o dan ddylanwad yr athro Cymraeg, R. E. Hughes, taid Angharad Tomos, y llenor a'r ymgyrchydd. Cyfoedion iddo yn yr ysgol oedd y Dr Carl Witton-Davies, sylfaenydd Cyngor Cristnogion ac Iddewon; W. R. P. George, y bardd-gyfreithiwr; Huw Wheldon, Pennaeth y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig a'r Athro A. O. H. Jarman, Athro Cymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd yn ddiweddarach.

Derbyniwyd R. Gwilym Hughes i Goleg y Brifysgol, Bangor yn Hydref 1928 a soniodd yn ei hunangofiant am ei edmygedd o'r Athro Ifor Williams, a bu'r ddau yn bennaf ffrindiau o'i gartref ym Mhontllyfni, ar hyd y blynyddoedd. Ysgrifennodd yr Athro lythyr iddo yn niwedd ei oes gan ddweud, 'Y mae gennyf hiraeth am weld fy hen blant. Brysiwch yma, a chawn sgwrs hyfryd.'

Darlithydd o'r cyfnod hwn a ddaeth yn ffrind cywir arall iddo oedd Syr Thomas Parry. Gwerthfawrogodd hefyd ddysg yr Athro James Gibson, yr Athro T. Hudson-Williams ac R. Williams Parry.

Mwynhaodd gyfeillgarwch nifer fawr o'i gyd-fyfyrwyr llengar, fel Robert Owen (1908-1972), Llanllyfni ac O. M. Lloyd (1910-1980) yn y cymdeithasau a'r eisteddfodau. Graddiodd yn y Gymraeg yn 1931, a dechreuodd ar ei gwrs yn Adran Ddiwinyddol y Brifysgol ym Mangor yr un flwyddyn am radd BD a graddio yn 1936. Enillodd radd MA yn 1940 am draethawd ar 'Bywyd a gwaith William Wyn, Llangynhafal' a chyhoeddwyd cyfran o'i draethawd yn Llên Cymru, cyfrol 1 (1950).

Aeth i dderbyn hyfforddiant bugeiliol am flwyddyn yng Ngholeg y Bala, o dan ofal y Parchedigion David Phillips a G. Arthur Edwards ac ordeiniwyd ef yn Nolgellau, Tachwedd 1938 wedi derbyn galwad i gapeli Maentwrog Isaf a Gellilydan. Yn Nhachwedd 1942 priododd Bessie, merch Hugh a Margaret Jones, fferm Gellidywyll, Gellilydan, ar ôl derbyn galwad yn Awst i fugeilio Capel y Dwyran yn Henaduriaeth Môn. Yr oedd y capel yn ganolfan lewyrchus i'r holl gymdogaeth a chyfarfodydd bron bob nos o'r wythnos. Derbyniodd alwad oddi yno i gapel Hyfrydle, Caergybi a symudodd yno ym Mawrth 1948. Cafodd gwmni nythaid o feirdd yng Nghaergybi yn cynnwys Huw Ll. Williams, O. M. Lloyd, Alun Puleston Jones, J. O. Jones (Hyfreithon), a dod yn bennaf ffrindiau gyda'r cyfreithiwr lleol, Cledwyn Hughes, a ddaeth yn Aelod Seneddol Llafur Môn yn etholiad 1951. Teithiodd y tri Hughes, Cledwyn, Gwilym ac R. Griffith Hughes, gweinidog Disgwylfa gyda'i gilydd i Wyl Prydain 1951 yng nghar y gwleidydd.

Bu R. Gwilym Hughes yn gefnogydd i'r Blaid Lafur ac i ddatganoli ar hyd y blynyddoedd. Cefnogodd Gymry Llafurol fel Cledwyn Hughes, Goronwy O. Roberts, Frank Price Jones, Huw T. Edwards ac y mae nifer o'i lythyrau ym mhapurau Cledwyn Hughes yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn 1979 safodd ei fab ei hun, R. Meirion Hughes, yn ymgeisydd Llafur yng Ngorllewin Fflint.

Symudodd o Fôn yn 1954 i ofalu am gapel Bethesda, yr Wyddgrug yn Henaduriaeth Sir y Fflint. Daeth yn aelod o dîm ymryson 'Pawb yn ei Dro' BBC gyda Ronald Griffith a'r Prifardd Dafydd Owen, ac yn rhan o'r ymgyrchu am Addysg Gymraeg yn Sir y Fflint.

Derbyniodd alwad yn 1961 yn olynydd i'r Parchedig Morgan Griffith yng nghapel Penmount, Pwllheli, ac yno bu hyd ei ymddeoliad yn 1981. Bu'n arweinydd eciwmenaidd yn y dref, a chafodd fodlonrwydd mawr yn bugeilio yn ei dro blant Ysgol Penrallt, cleifion Ysbyty Bryn Beryl ac Ysbyty Henoed, yn Heol Ala. Yn y cyfnod hwn y daeth yn arweinydd amlwg yng ngweithgareddau ei enwad, Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cyhoeddodd fwy nag un gwerslyfr at wasanaeth yr ysgol Sul. Traddododd y Ddarlith Davies yn y Gymanfa Gyffredinol 1965 yn y Drenewydd, a chyhoeddwyd hi o dan y teitl, Y Weinidogaeth Hon (Caernarfon, 1967).

Ers 1942 bu'n amlwg yn nhrefniadau Addysg Ymgeiswyr am y Weinidogaeth a threfn a chynhaliaeth y Weinidogaeth. Bu'n gofalu am Gongl y Beirdd yn y Goleuad am 15 mlynedd, yna am dymor yn Olygydd y newyddiadur wythnosol. Bu'n Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd yn 1977-78 ac yna yn 1978-9 yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol.

Ymddeolodd i Gaernarfon yn 1981, a bu'n weithgar dros ben yn y 1980au. O 1982 i 1985 gwasanaethodd ar y gweithgor a baratôdd Atodiad i Lyfr Emynau a Thonau (1985) a gwelir saith o'i emynau yn y casgliad.

Ers dyddiad Coleg bu'n ymhél â barddoniaeth. Ceir 6 soned a 1 englyn o'i waith yn y gyfrol Barddoniaeth Bangor 1927-1937 (gol. J. E. Caerwyn Williams, Aberystwyth, 1938). Cynigiodd fwy nag unwaith am Goron yr Eisteddfod Genedlaethol. Dywedodd Syr Thomas Parry wrtho ar ôl llwyddiant ei bryddest yn dod yn ail orau yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971: 'Gresyn mawr ichwi ddod mor agos i'r Goron heb ei chael' ac yn arbennig yn y ddinas lle y'i magwyd ac y derbyniodd ei addysg. Cyhoeddwyd y dilyniant o gerddi, Canaf i'm bro, yn 1971. Daeth yn agos at y goron yn eisteddfod 1972 gyda'r gerdd 'Dadeni'. Enillodd aml i wobr mewn eisteddfodau sirol fel Eisteddfod Môn am ei gerddi. Cyhoeddwyd ffrwyth ei awen yn y gyfrol Cerddi (Caernarfon, 1944) ond yr oedd yn fwy cofiadwy fel emynydd na bardd, a gwelir emynau o'i eiddo (9, 155, 806) yn Caneuon Ffydd (2001).

Yr oedd yn Gymreigydd o'r iawn ryw, a dilynodd y Parchedig William Morris fel Golygydd Cyffredinol Gwasg Pantycelyn. Fel pregethwr yr oedd yn raenus, yn Feiblaidd ond ni fu galw mawr am ei wasanaeth fel pregethwr cyfarfodydd blynyddol yr eglwysi. Ymddiddorai mewn cerddoriaeth (yr oedd yn bianydd medrus), a bu ei ferch, Carys Hughes (1949-2004), a fu'n farw'n gynamserol, yn organyddes broffesiynol. Bu Gwilym Hughes farw ar 20 Gorffennaf 1997. Wedi gwasanaeth yng nghapel Engedi, Caernarfon, claddwyd ei weddillion ym mynwent newydd Bangor. Gadawodd briod, tri mab a merch i alaru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-05-17

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.