JONES, GLANVILLE REES JEFFREYS (1923-1996), daearyddwr hanesyddol

Enw: Glanville Rees Jeffreys Jones
Dyddiad geni: 1923
Dyddiad marw: 1996
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearyddwr hanesyddol
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: J. Beverley Smith

Ganed Glanville Jones yn Felindre, plwyf Llangyfelach, Morgannwg, 12 Rhagfyr 1923, yn fab i Benjamin a Sarah Jones (gynt Jeffreys). Symudodd y teulu i ddechrau i Bontlliw ac yna i Gastell-nedd lle y derbyniodd ei addysg yn ysgol ramadeg Castell-nedd. Torrwyd ar ei yrfa academaidd gan y rhyfel dros 1943-46 pan wasanaethodd, gyda chomisiwn yn y Ffiwsiliwyr Cymreig Brenhinol, yn Ffrainc a'r Eidal. Wedi'i ryddhau o'r fyddin, enillodd ei radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1947, gan raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn daeaeryddiaeth yn 1948.

Yn dilyn cyfnod o ymchwil, penodwyd ef yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Leeds yn 1949. Yr oedd yn athro ymroddedig ac effeithiol a sefydlodd ei hun yn ysgolhaig o fri. Penodwyd ef yn Ddarllenydd yn 1969 ac yn Athro Daearyddiaeth Hanesyddol yn 1974 ac ymddeolodd yn 1989, a'i waith cyhoeddedig helaeth yn cael ei gydnabod yn ddylanwad pwysig ar yr astudiaeth o ddaearyddiaeth hanesyddol Prydain yn y canol oesau. Bu'n weithgar mewn llawer maes perthnasol i'w waith academaidd, gan gynnwys Llywyddiaeth Adran Anthropoleg ac Archaeoleg y Gymdeithas Brydeinig dros Gynnydd Gwyddoniaeth. Parhaodd i ddilyn ei efrydiau wedi ymddeol, er gwaethaf dirywiad ei iechyd ac wynebodd ei gyflwr yn ddewr.

Trwy gydol ei flynyddoedd yn Leeds datblygodd Glanville Jones yn ddyfal yr ymchwiliadau a ddechreuasai yn Aberystwyth a than ddylanwad traddodiad cryf yr adran mewn daearyddiaeth hanesyddol ac ysbrydoiaeth presenoldeb yr hanesydd canoloesol T. Jones Pierce a gyfarwyddodd ei draethawd ymchwil ar ddaearyddiaeth filwrol Gwynedd yn y 13eg ganrif. Yn y traethawd archwiliodd fesurau amddiffynnol tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif, nid yn unig yn y cestyll a godwyd ganddynt ond y drefniadaeth economaidd gyfan a oedd y tu ôl i'r trefniadau bwydo. Man cychwyn rhaglen estynedig o astudio trefniadaeth economaidd a chymdeithasol gwledyddd y tywysogion oedd y traethawd. Tueddai'r dehongliad hanesyddol traddodiaol a adlewyrchai ddylanwad Frederic Seebohm, i ddarlunio cymdeithdas o wyr rhydd gan mwyaf a ddilynai economi fugeiliol gan fyw ar wasgar. Trwy ei ddefnydd helaeth o destunau cyfraith a ffynonellau dogfennol ar ôl y goncwest gwelai Jones drefn economaidd a chymdeithasol lle'r oedd patrymau ymsefydlu a systemau meysydd agored i raddau helaeth yn rhai pobogaeth gaeth yn trigo ar diroedd eang gydag ymsefydliadau cnewyllol. Ffurfiai'r maerdrefi hyn ynghyd â'u tir cyfrif sylfaen economaidd grym gwleidyddol y tywysogion. Ond archwiliodd Jones yn ogystal ymsefydliadau tylwythau rhyddion fel y'u datgelid yn y drefn gwelyau a dangosodd effaith yr arfer o olyniaeth gyfrannol tiroedd etifeddol ar y tirwedd gwledig.

Trwy astudio ardaloedd y gororau megis Ewias ac Ergyng ynghyd â thystiolaeth Llyfr Domesday cafodd gyfle i archwilio ardaloedd ymsefydiadau Eingl-Sacsonaidd a Normanaidd. Arweiniodd yn ei dro at astudiaeth eangach o ymsefydliadau ym Mhrydain a chanolwyd ei archwiliadau o strwythurau cynnar stadau a'u trefniadau economaidd a deiliadol fwyfwy ar y cysyniad o'r stad amryfal a ganfu dros ardal eang o ogledd Lloegr. Bu hyn yn ddylanwad cyffrous a drafodwyd yn helaeth yn yr ymgais i ddeall y defnydd o dir yn yr oesau canol. Bu'n fodd iddo gyflwyno astudiaeth gymharol o Wynedd ac Elfed a roes iddo, gyda'i ddiddordeb gwybodus o ganu cynnar yr Hen Ogledd gryn bleser.

Yr oedd bob amser yn werthfawrogol o gyfraniad eraill ac enillodd Jones barch mawr a chyfeillgarwch cadarn ag ysgolheigion ar draws rhychwant eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys efrydwyr ffynonellau hanesyddol a chyfrethiol ac ysgolheigion iaith y gallai werthfawrogi eu gwaith oherwydd ei afael ei hun ar y Gymraeg. Yr oedd ef ei hun yn bersonoliaeth gynnes iawn, a thra theyrngar. Rhannai ei diddordeb yn y tir a'i bobl gyda'i wraig Pam y gwnâi'n fawr o'r chariad ac yr oedd cwlwm agos rhyngddo a'i ferch a'i fab y teimlai falchter mawr yn eu llwyddiannau proffesiynol. Casglwyd ynghyd mewn un gyfrol ddetholiad nodweddiadol o'i bapurau mynych a chyhoeddwyd The Welsh King and his Court (gol. T. M. Charles-Edwards et al. 2000), cyfrol yr oedd wedi cyfrannu iddi, er cof amdano.

Priododd Glanville Jones, gyntaf, Margaret Rosina Ann Stevens yn 1949 (diddymwyd y briodas yn 1958) ac yn ail Pamela Winship, yn 1959; cawsant ddau o blant, Sarah Catryn a David Emrys Jeffreys. Bu farw yn Leeds 23 Gorffennaf 1996; bu'r gwasanaeth angladd yn eglwys St Margaret ac yna yn amlosgfa Rawden.

Cyhoeddwyd detholiad o erthyglau yn P. S. Barnwell a Brian Roberts, goln., Britons, Saxons and Scandinavians: The Historical Geography of Glanville R. J. Jones (2011), gyda llyfryddiaeth lawn o'i ysgrifennu gan gynnwys: Geography as Human Ecology, gol. G. R. J. Jones gyda S. R. Eyre (1960); Leeds and its Region, gol. gyda M. W. Beresford (1967); 'Post-Roman Wales', yn H. P. R. Finberg, gol., The Agrarian History of England and Wales I, i, (1973).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-06-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.