JONES, IEUAN SAMUEL (1918-2004), gweinidog (Annibynwyr)

Enw: Ieuan Samuel Jones
Dyddiad geni: 1918
Dyddiad marw: 2004
Priod: Mair Arfona Jones (née Lloyd)
Plentyn: Gwynedd Jones
Rhiant: Mary Anna Jones (née Thomas)
Rhiant: Benjamin Franklin Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Annibynwyr)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ioan Wyn Gruffydd

Ganwyd Ieuan S. Jones yn y Felin Geri yn ardal Dre-wen, ger Castellnewydd Emlyn, ar Fedi 16, 1918, yr ieuengaf o wyth o blant a aned i Benjamin Franklin Jones a'i briod, Mary Anna. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Dre-wen ac wedi hynny yn Ysgol Ramadeg Aberteifi. Ar Sul cyntaf Awst 1936, dechreuodd bregethu yn eglwys ei gartref, Eglwys yr Annibynwyr, Drewen. Prin y meddyliai Ieuan bryd hynny y byddai'n pregethu am gymaint â chwe deg wyth o flynyddoedd a hynny ym mhob rhan o Gymru, ac mewn llawer rhan o'r byd hefyd. Tystiodd y Parchg. Andrew Lenny, ei weinidog yn hwyrddydd ei fywyd, am Ieuan 'nad esgynnai i'r pulpud heb baratoi'n fanwl,' ac na 'chyflawnai unrhyw beth ond gyda'r trylwyredd pennaf.'

Aeth o'r Ysgol Ramadeg i Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd, gan ennill yno ei B.A. Aeth wedyn i Goleg Coffa'r Annibynwyr yn Aberhonddu am ei hyfforddiant diwinyddol. Ymddengys iddo, fodd bynnag, cyn gorffen ei gwrs yn y Coleg Coffa dderbyn galwad i'w ofalaeth gyntaf yn ardal Maesteg. Cwblhaodd ei gwrs, gan ennill ei B.D., yn ystod ei flwyddyn gyntaf yno fel gweinidog. Dyna hefyd pryd y priododd Mair Arfona (neu Fona fel y galwai ef hi) o Dremadog. Bu ei hawddgarwch a'i sirioldeb a chadernid ei ffydd fawr hi yn gymorth nid bychan i alluogi ei phriod i gyflawni ei waith mor effeithiol. Loes calon iddo fu ei cholli hi ym 1993 - wedi brwydr ddewr a chaled yn erbyn cancr - a hwythau bryd hynny'n byw yn Abertawe.

Yn Eglwys Seilo, Nantyffyllon, Maesteg, y cafodd Ieuan ei ordeinio'n weinidog a hynny yn niwedd Gorffennaf 1943. Symudodd ei briod ac yntau i Fethesda, Arfon, ym 1947. Yno y ganwyd eu mab, Gwynedd. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd Eglwys Bethmaca, Glasinfryn, at yr ofalaeth. Yn ystod ei gyfnod ym Methesda, profodd Ieuan ei hun yn awdurdod ar Sgroliau'r Môr Marw y bu'n gweithio ar eu testunau Hebraeg, ac enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1951 am ei astudiaeth destunol o sgrôl Mynachlog St Marc. Ef oedd y person cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi ysgrifau ar y Sgroliau ac ar arwyddocâd eu darganfod. Symudodd y teulu o Fethesda ym 1955, a daeth Ieuan yn weinidog Salem, Bae Colwyn, a Rhodfa Deganwy, Llandudno. Wedi dwy flynedd yno bu symud wedyn ym 1957, y tro hwn i Gaernarfon, pan ddaeth yn weinidog Eglwys Salem yn y dref honno.

Ym 1968, dewiswyd ef yn Ysgrifennydd Cenhadol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn dilyn ymddeoliad y Parchg. R.E. Edwards (1901-1971). Golygai hynny symud i fyw i Abertawe. Teithiai yn eang i bob rhan o Gymru gan ymweld â'r cyfundebau a'r eglwysi gwahanol. Bu'n teithio dramor hefyd gan ymweld â mannau fel Madagascar, Hong Kong, Singapôr, India, De Affrig a Bangladesh. A bu'n pregethu yn eglwysi rhai o'r gwledydd hynny. Cafodd brofiadau go ryfedd wrth deithio ambell dro, fel y profiad hwnnw o gyrraedd Bangladesh, a chael nad oedd neb yn aros amdano yno, ac fel y bu iddo dreulio'r noson mewn mynachlog lle'r oedd yr holl fynaich dan lw i beidio siarad! Wedi dychwelyd adref, byddai ganddo lawer i'w adrodd am ei brofiadau a'i argraffiadau o'r eglwysi a'r gwledydd hynny, a chan ei fod yn ffotograffydd medrus, byddai ganddo amryw luniau i'w dangos. Adroddai'n gyson hanes ei ymweliadau yn Y Tyst, a diogelwyd ei ddyddiaduron manwl o'i deithiau gwahanol yn y Llyfrgell Genhadol y bu dros y blynyddoedd yn gyfrifol am ei hadeiladu yn Nhy John Penri. Ymfalchïai mai honno oedd y Llyfrgell Genhadol orau yng Nghymru, llyfrgell a oedd, nid yn unig yn cynnwys llawer iawn o lyfrau, ond hefyd lythyrau a nodiadau am y cenhadon gwahanol a fu'n gwasanaethu mewn gwahanol rannau o'r byd. Yr oedd gan aelodau Cyngor y Genhadaeth Fydeang (CWM) ar draws y byd barch mawr at Ieuan.

Bu'n gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau ac is-bwyllgorau'r Cyngor, a hynny fel cadeirydd weithiau. Aeth yng nghwmni'r Parchg. Emlyn Jenkins i'r trafodaethau pwysig yn Singapôr ar galan 1975. Y trafodaethau hynny a arweiniodd at droi Cymdeithas Genhadol Llundain (LMS), maes o law, yn Gyngor y Genhadaeth Fydeang. Ieuan ei hun, yn anad neb arall, a fu'r bont bwysig i ddwyn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn aelod o CWM. Un oedd y gwaith cenhadol i Ieuan - gartref a thramor. Ym 1945, ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ef oedd ysgrifennydd 'Yr Ymgyrch Newydd yng Nghymru,' a mynnych y clywais ef yn sôn am y gweithgarwch hwnnw. Yng ngeiriau Dr. R. Tudur Jones: 'Paratowyd i sefydlu celloedd gweddïgar hwnt ac yma gan addo cynnal ymgyrchoedd efengylaidd fel y deuai gwahoddiadau.'

Ef hefyd, flynyddoedd yn ddiweddarach, a benodwyd yn ysgrifennydd cyntaf mudiad Cymru i Grist, a sefydlwyd yn dilyn galwad y Parchg. T. Glyn Thomas (1905-1973) yn ei anerchiad o gadair Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Nyffryn Nantlle ym 1968. Ysgrifennodd ei gadeirydd cyntaf, y Parchg. Morgan Mainwaring, am y mudiad hwnnw: 'Am y tro cyntaf yn hanes crefydd yng Nghymru daeth cynrychiolwyr o'r holl enwadau Cristnogol ynghyd i drafod gyda'i gilydd, a phenderfynu ymateb gyda'i gilydd i'r alwad i ennill Cymru i Grist.' Gweld Cymru yn troi at Iesu Grist a'i Efengyl oedd dyhead pennaf Ieuan hefyd. Sefydlwyd Gweithgor y Genhadaeth Gartref gan yr Annibynwyr Cymraeg gyda Dr. R. Tudur Jones yn gadeirydd iddo ac Ieuan yn ysgrifennydd. Fel rhan o'i weithgarwch, cyhoeddwyd nifer o bamffledi ar destunau gwahanol. Ysgrifennodd Ieuan ei hun un ohonynt ym 1988 dan y penawd, Bod yn Aelod. Cyhoeddodd Ieuan Y Gair ar Gerdded fel maes astudio i'r Ysgolion Sul ym 1982. Bu'n golygu Gweddïo am ddwy flynedd ar bymtheg. Cyhoeddwyd darlith o'i eiddo yn Y Cofiadur fis Mai 1955 ar y testun, 'Dwy Ganrif o Genhadu.'

Yr oedd yn wr o gryn weledigaeth. Ef a roddodd fod i'r astudiaethau allanol y bu Coleg Bala-Bangor a'r Coleg Coffa yn Aberystwyth yn eu trefnu. Yr arbrawf cychwynnol hwnnw ymhen amser a agorodd y ffordd i nifer o fyfyrwyr hyn ddod yn weinidogion. Ymddeolodd Ieuan o fod yn Ysgrifennydd Cenhadol ym 1984. Dewiswyd ef yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 1985-86. Traddododd ei anerchiad o'r gadair yn Seion, Aberystwyth, ar y testun, 'Gan Brynu'r Amser'. Wrth gael ei gyflwyno yn yr Undeb hwnnw, cyfeiriwyd at ei ddoniau gwahanol, fel emynydd, ac nid yn lleiaf felly fel arlunydd. Gwelwyd rhai o'i dirluniau yn rhai o siopau celf Abertawe. Bu arddangosfa o'i waith fis Mawrth 1998 yn festri Seion, Aberystwyth (catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.) Nid anghofir ei bortreadau o'r Parchg. E. Curig Davies a Mr. Brinley Richards yn Nhy John Penri.

Treuliodd naw mlynedd olaf ei fywyd yn Aberystwyth, ac yno yn Ysbyty Bronglais y bu farw ar 23 Hydref 2004.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-05-25

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.