KELSEY, ALFRED JOHN (Jack) (1929-1992), chwaraewr pêl droed

Enw: Alfred John Kelsey
Dyddiad geni: 1929
Dyddiad marw: 1992
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Richard E. Huws

Ganed yn 382 Jersey Road, Winch Wen, Llansamlet, Abertawe, ar y 19 Tachwedd 1929, yr ail o'r tri plentyn a aned i Alfred Kelsey (1897-1980) a Sarah Ann Kelsey née Howe (1902-2000). Ganed ei dad o fewn clyw'r 'Bow bells' yn Llundain, ac ymfudodd i Gymru gyda'i deulu lle'i cyflogwyd fel smeltiwr mewn ffwrnais yn un o'r nifer o weithfeydd a oedd yn britho Dyffryn Tawe ar y pryd.

Mynychodd Jack Kelsey Ysgol y Cwm, a gadawodd yn ifanc i ymuno a'i dad yn y diwydiant haearn, ac yna bu'n yrrwr craen cyn gwneud ei wasanaeth milwrol. Chwaraeai bêl droed i glwb pêl droed Winsh Wen yng Nghynghrair Abertawe a'r Cyffiniau, clwb lle bu ei dad yn gadeirydd am 12 mlynedd, a'r lle y creodd ei dalent anhygoel fel gôl-geidwad argraff fawr ar nifer, gan gynnwys Les Morris, rheolwr pêl-droed lleol, a fu ar lyfrau Arsenal yn y cyfnod cyn y rhyfel. Trefnodd Morris i Kelsey dderbyn treialon gyda'i gyn glwb, a oedd yn ddigon edmygus o'i berfformiad i gynnig cytundeb iddo ar unwaith, ac arwyddodd i gewri Highbury ym 1949.

Ar y cychwyn bu'n ddirprwy i'r gôl-geidwad dibynadwy George Swindin (1914-2005), ond ymhen amser y Cymro oedd dewis cyntaf y clwb. Ymddangosodd i'r tîm cyntaf yn ystod tymor 1950-51, ond wedi ildio wyth gôl yn ei ddau ymddangosiad cyntaf, dychwelodd i dîm yr eilyddion. Sut bynnag, gwnaeth 29 ymddangosiad i dîm cyntaf Arsenal a enillodd bencampwriaeth yr adran gyntaf ym 1952-53. Erbyn y tymor nesaf, 1953-54, ef oedd y dewis cyntaf, a buan y sylweddolwyd taw ef oedd un o gôl-geidwaid gorau'r cyfnod wedi'r rhyfel, yn enwedig o ystyried ei fod yn chwarae i dîm Arsenal a oedd yn ddigon dinod o'i gymharu â thimoedd y blynyddoedd cynt.

Adnabuwyd Kelsey'n fyd-eang fel meistr ei grefft, a chan nad oedd yn danllyd, dibynnau yn hytrach ar ei reddf leoli fendigedig a'i lawio cadarn, a chydnabuwyd iddo fod yn hollol ddewr a di-ofn wrth ei waith. Chwaraeodd mewn 327 gem i dîm cyntaf Arsenal rhwng 1950 a 1963, gan ymddangos 548 gwaith i'r clwb os cyfrifir ei ymddangosiadau fel eilydd, ac mewn gemau cwpan a chyfeillgar. Cydnabuwyd ei ragoriaeth fel y prif gôl-geidwad Prydeinig ar y 13 Awst 1955 pan chwaraeodd i dîm Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gweddill Ewrop ym Mharc Windsor, Belffast.

Ymddangosodd hefyd 41 gwaith i Gymru, a phriodolwyd llwyddiant tîm Cymru ym Mhencampwriaeth y Byd ym 1958, pan gyrhaeddont y rowndiau go-gynderfynol, i berfformiad arwrol Kelsey. Er i Gymru golli drwy gôl wyrol gan fachgen ieuanc 17 oed anadnabyddus o'r enw Edison Arantes do Nascimento, a ddaeth yn adnabyddus yn ddiweddarach gan ei lysenw Pelé (ganwyd 1940), roedd y Brasiliaid yn llawn canmoliaeth o berfformiad Kelsey, ac yn cyfeirio ato fel 'y gath a'r ewinedd magnetig'. Cydnabu Pelé'n ddiweddarach taw hon oedd un o'i goliau mwyaf bythgofiadwy - y mwyaf lwcus, a'r un mwyaf pwysig. Proffwydodd Kelsey yn ei dro, er iddo fod yn siomedig yn eu methiant, fod gan y bachgen ifanc ddyfodol disglair, a daeth y ddau i gysylltiad eto yn Highbury yn ystod ymweliad y Brasiliad a Llundain yn y 1980au, a thynnwyd llun y ddau efo'i gilydd.

Yn anffodus, o ganlyniad i wrthdrawiad damweiniol gyda blaenwr arall o Frasil, Vavá (Edvaldo Izidio Neto; 1934-2002) ar 16 Mai 1962 yn ystod gem gyfeillgar yn São Paolo cafodd Kelsey niwed i'w gefn na wellodd ohono, ac ymhen llai na blwyddyn yn Chwefror 1963 gorfodwyd iddo roi heibio ei sgidiau pel droed am byth. Ar yr 20fed o Fai 1963 daeth Glasgow Rangers i chwarae mewn gêm dysteb iddo yn Highbury. Ni fedrodd Kelsey gymryd rhan yn y gêm, ond casglwyd £7,000.

Parhaodd yn deyrngar i Arsenal, a gwasanaethodd y clwb mewn rôl fasnachol tan ei ymddeoliad ym 1989. Trefnodd hefyd i Arsenal chwarae ym Mharc Halfway, Winsh Wen, i ddathlu pen-blwydd ei glwb cyntaf yn 60; bu farw cyn i'r gêm gael ei chwarae, ond anrhydeddodd Arsenal eu hymrwymiad a chwarae yn Abertawe ar 31 Mehefin 1993.

Priododd a Myrtle Elsie Hodgetts, (a adnabuwyd hefyd fel Hudson) (1929-1987), yn Swyddfa Gofrestru Abertawe ar 22 Mawrth 1954. Cyfarfu'r ddau mewn dawns yn Neuadd y Dre Islington ym 1951. Fe'i ganed hi yn Uxbridge lle'r oedd ei thad yn gwasanaethu gyda'r Awyrlu Brenhinol.

Bu Jack Kelsey farw wedi salwch byr yn ei gartref yn Friern Barnet, gogledd Llundain ar 18 Mawrth 1992, yn 62 oed. Fe'i amlosgwyd yn Amlosgfa Hendon. Claddwyd ei rieni ym mynwent Treforys. Fel y nodwyd, bu farw ei wraig o'i flaen ym 1987, ac fe'u goroeswyd gan eu dau fab Paul (ganwyd 1958) a Peter (ganwyd 1961), y ddau'n byw y tu allan i Gymru. Mae rhai o deulu Kelsey'n dal i fyw yn ardal Abertawe, ac yr oedd chwaer Christine Ann (Tina) Slattery (1943-2008) yn briod a brawd Clive Slattery a wnaeth 70 ymddangosiad i Dre / Dinas Abertawe o 1968-72. Ymsefydlodd Winifred Lorraine Watkins (ganwyd 1925), chwaer hynaf Kelsey, yn ardal Bryste.

Fe gofir Jack Kelsey fel un o'r gôl-geidwaid gorau erioed i chwarae pêl-droed ym Mhrydain ac yn genedlaethol. Yr oedd hefyd yn wr bonheddig a feddai ar synnwyr digrifwch a nodweddir yn ei sylw tafod yn y boch i'w fywgraffydd Brian Glanville, bod ei lawio rhagorol i'w briodoli'n bennaf i'r ffaith ei fod yn rhwbio gwm cnoi ar ei ddwylo cyn pob gêm!

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-03-11

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.