MACLEAN, Syr EWEN JOHN (1865-1953), Athro cyntaf obstetreg a gynecoleg yn Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru

Enw: Ewen John Maclean
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1953
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro cyntaf obstetreg a gynecoleg yn Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru
Maes gweithgaredd: Addysg; Meddygaeth
Awdur: Alun Roberts

Ganwyd Ewen Maclean 15 Hydref 1865 yn Ucheldiroedd yr Alban, yn ail fab John Maclean, Tiree, meistr ar grefft crydd ac Agnes Macmillan, siaradwraig gyson Gaeleg yr Alban. Tra oedd y bechgyn eto yn ifanc, symudodd y teulu i dde Cymru, lle mynychodd Ewen a'i frawd hyn Donald (a ddaeth, yn y man, yn wleidydd Rhyddfrydol amlwg) ysgolion Gramadeg Hwlffordd a Chaerfyrddin. Aeth Ewen yn ei flaen i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin, lle graddiodd yn MB CM gydag anrhydedd ym 1889, gan dderbyn gradd MD Caeredin, eto gydag anrhydedd, ddwy flynedd wedyn. Ym 1896 etholwyd ef yn Aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon (gan ei ddyrchafu'n Gymrawd ym 1922).

Derbyniodd ei hyfforddiant wedi ennill cymwysterau priodol fel meddyg preswyl yn yr Ysbyty i Fenywod a Phlant ym Mryste ac wedi hynny bu'n gofrestrydd yn yr Ysbyty i Fenywodyn Chelsea. Yno dechreuodd waith gweddill ei fywyd yn nisgyblaethau obstetreg a gynecoleg. Ym 1901 penodwyd ef yn gynecolegwr mygedol hyn yn yr ysbyty a adnabuwyd ar y pryd yn Glafdy Caerdydd (a ailenwyd wedi hynny yn Ysbyty'r Brenin Edward VII) ac yna, ym 1923 fel Clafdy Brenhinol Caerdydd. Arddangoswyd ei ymroddiad i addysg a hyfforddiant yn fuan, wrth iddo, ym 1904, gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a ddatblygodd yn rhaglen lwyddiannus hyfforddiant bydwragedd, dan nawdd Ysgol Feddygaeth Caerdydd fel ymateb i Ddeddf y Bydwragedd 1902. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan esgyn i reng Is-gyrnol, RAMC, gwasanaethoddfel pennaeth milwrol yr Ysbyty i Swyddogion, Eaton Hall yng Nghaer ac wedi hynny i'r 3edd Ysbyty Gorllewinol Gyffredinol.

Ym 1921, daeth yr Ysgol Feddygol Genedlaethol Gymreig, a oedd ar y pryd yn rhan o Goleg y Brifysgol, Caerdydd, yn ysgol feddygaeth lawn, yn yr ystyr ei bod bellach yn cynnig hyfforddiant clinigol yn ogystal ag hyfforddiant cyn-glinigol. Er gwaethaf argymhellion y Comisiwn ar Addysg Brifysgolegol yng Nghymru (1918) y 'dylai gweithgarwch ysbyty y Coleg Meddygol yn Ysbyty'r Brenin Edward VII gael ei seilio ar “system unedau ysbyty” gydag athrawon llawn-amser', cytunwyd rhwng yr awdurdodau academaidd ac awdurdodau'r ysbyty y dylai'r gadair yn obstetreg a gynecoleg, yn wahanol i'r cadeiriau ym meddygaeth a llawfeddygaeth, gael ei llenwi, ar y cychwyn o leiaf, fel cadair ran-amser. Mewn gwirionedd golygai hyn y rheidrwydd i lenwi'r swydd o blith staff gynecolegol cyfredol yn yr ysbyty. O'r ddau glinigwr a oedd yn gymwys i'r swydd Ewen Maclean yn unig oedd yn ymgeisydd credadwy. Ef oedd y gynecolegwr hyn, gyda chymwysterau dysgu di-fai ac fe'i perchid yn lleol ac yn genedlaethol. Yn wahanol i rai o'i gydweithwyr yn yr ysbyty, cofleidiodd yn gynnes y syniad o ysgol glinigol yng Nghaerdydd wedi'i chysylltu ag Ysbyty'r Brenin Edward VII. Cymerodd y swydd yn yr Hydref 1921, gyda'r teitl anghyffredin 'athro arbennig'.

Ar unwaith parodd sefydlu'r gyfundrefn unedau clinigol, gydag athrawon llawn-amser yn adrannau meddygaeth a llawfeddygaeth, ansefydlogi'r gydberthynas rhwng y staff yn yr adrannau hyn a staff clinigol yr ysbyty trwy gydol y 1920au, nes i ddysgu clinigol gael ei roi heibio am flwyddyn. Llwyddodd Ewen Maclean, a benodwyd i'w gadair o blith ei gyd-weithwyr yn yr ysbyty, i ddianc rhag yr anawsterau hyn. Ar un achlysur wrth gael ei holi sut y llwyddodd ei adran i osgoi'r dadleuon a amgylchynai'r athrawon meddygaeth a llawfeddygaeth, atebodd Maclean yn ostyngedig iawn, 'nid yw hyn o achos unrhyw deilyngdod ynof fi, oherwydd fy mod mewn dosbarth hollol wahanol, ni thorrodd sefydlu f'adran ar draws unrhyw les hanfodol'. Er bod hyn yn ddiamheuol wir, fel y mae'n digwydd, gwr boneddigaidd iawn oedd Maclean, fel y tystiodd un o'i gofianwyr dipyn wedi hynny: 'Ni allai unrhyw un gyfarfod â Maclean heb gael argraff o'i gwrteisi a'i urddas, a fethodd â chuddio calon garedig iawn rhag ei gyfeillion'. Yn wahanol i'r athro meddygaeth yn arbennig, aeth allan o'i ffordd i gydweithio ag eraill yn yr ysbyty, gan fynychu cyfarfodydd o'r staff clinigol ac yn y man yn cael ei ethol yn is-gadeirydd Bwrdd Meddygol yr ysbyty.

O'r cychwyn cyntaf sefydlodd adran Maclean enw da am ei addysgu, gydag aseswyr o'r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion yn clustnodi am ganmoliaeth arbennig y modd blaengar a fabwysiadwyd gan athrawon ffisioleg, obstetreg a gynecoleg at addysgu yn eu meysydd arbennig. 'Roedd galw mawr amdano fel arholwr bydwreigiaeth a chlefydau menywod i Fwrdd Canolog y Bydwragedd a Bwrdd Cyfunedig Lloegr ac i nifer o brifysgolion. 'Roedd Maclean hefyd yn ymchwiliwr gweithgar gan wneud nifer o gyfraniadau nodedig, ar bynciau yn ymwneud â phynciau clinigol. Cyfrannodd i gylchgronau fel y British Medical Journal a'r Journal of Obstetrics and Gynaecology. Ym 1926 cyflwynodd £3,000 i'r ysgol feddygol er mwyn gwaddoli Ysgoloriaeth Ymchwil Ewen Maclean i hyrwyddo ymchwil ym maes bydwreigiaeth.

Bu'n fedrus iawn wrth ddewis cydweithwyr i'r adran, yn arbennig felly ei gynorthwyydd cyntaf, Gilbert Strachan, a enillodd enw da iddo'i hun fel ymchwilydd yn ystod y 1920au, gan gael ei gydnabod fel arloeswr mewn astudiaethau ar effeithiau radiwm ar gancr y groth. Yn wir, dibynnodd Maclean gryn dipyn ar gefnogaeth ei gyd-weithwyr oherwydd, fel athro rhan-amser, roedd wedi ymgolli mewn amrywiaeth o ddiddordebau eraill, nid y lleiaf ohonynt feddygaeth breifat. Ar ben hynny, ym 1919 cafodd ei benodi i'r Cyngor Ymgynghorol ar Arferion Meddygol ac ati yng Nghymru a oedd newydd ei greu. Sefydlwyd y corff hwn gan y gweinidog dros iechyd fel rhan o ad-drefnu'r gwasanaethau iechyd yn y Deyrnas Unedig wedi'r rhyfel. Efallai bod y cynlluniau a grëwyd gan y Cyngor ar gyfer ailstrwytho'r gwasanaethau yng Nghymru yn rhy rwysgfawr a radical i'r Weinyddiaeth Iechyd a diddymwyd y Cyngor yn ffurfiol ym 1926. Ond yr oedd gan yr Athro Maclean achos i fod yn ddiolchgar am ei gysylltiadau â gwaith y Cyngor, oherwydd wedi ei benodi yn ail gadeirydd arno, yn olynydd i'r Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful, Syr Edgar Jones, fe'i crëwyd ef hefyd yn farchog ym 1923.

Rhoddodd Maclean wasanaeth hir a theyrngar i'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig. Bu'n ysgrifennydd mygedol ar ei changen yng Nghaerdydd rhwng 1904 a 1907 a gwasanaethodd fel cynrychiolydd iddi ar Gorff Cynrychiadol y Gymdeithas rhwng 1906 a 1913. Yn arbennig gweithredodd fel cadeirydd y Corff hwnnw ar frig y trafferthion gyda'r llywodraeth Ryddfrydol ym 1911, ynglyn â'i bwriad dadleuol i gyflwyno Mesur Yswiriant Iechyd Cenedlaethol. Ystyriwyd y bwriad hwn gan lawer yn y proffesiwn meddygol fel her i'w statws. Cyhuddwyd Maclean yn annheg, gyda'i frawd Donald yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol ac yn gyfaill i David Lloyd George, o fod yn rhy drugarog tuag at y llywodraeth yn ystod y trafodaethau. Er iddo gael ei glwyfo gan yr ensyniad, fel dyn anrhydeddus ymddiswyddodd fel cadeirydd y Corff er lles y Gymdeithas, gan ddiflannu o ganol ei gweithgareddau am rai blynyddoedd. Fodd bynnag, ym 1928 pan groesawodd Caerdydd y Gymdeithas i gynnal ei chyfarfod blynyddol yno, am y tro cyntaf ers 1885, Syr Ewen a ddewiswyd fel Llywydd, dyletswydd a gyflawnodd gyda chryn urddas a swyn.

Ymddeolodd Maclean o Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru ym 1931 wedi degawd o wasanaeth nodedig ond yn drist, yn wahanol i Athrawon Meddygaeth a Llawfeddygaeth ni phenodwyd ef erioed yn ddeon yr Ysgol, gan i'w rwymedigaethau eraill rwystro hyn. Eto i gyd chwaraeai ran mor gyflawn ag a allai ym mywyd yr Ysgol, gan wasanaethu, er enghraifft, ym 1926/7 fel llywydd poblogaidd Clwb Myfyrwyr Meddygol Caerdydd. Ni orffennodd ei yrfa hir gyda'i ymddeoliad o'r bywyd academaidd. Ef oedd un o gymrodyr cyntaf Coleg Prydeinig yr Obstetregwyr a'r Gynecolegwyr. Fe'i hetholwyd yn llywydd y coleg ym 1935, gan wasanaethu tan 1938. Yn ystod ei yrfa derbyniodd lu o anrhydeddau eraill, gan ei ethol yn gymrawd mygedol o Goleg Llawfeddygon America ym 1926 ac o Goleg Brenhinol yr Obstetregwyr a'r Gynecolegwyr ym 1947 wrth i'r corff hwnnw dderbyn ei siarter frenhinol. Dyfarnwyd iddo ddoethuriaethau gan Brifysgolion Manceinion, Caeredin, Melbourne a Chymru. Gyda sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ym 1948 penodwyd ef yn aelod o Fwrdd Goruchwylwyr Ysbytai Unedig Caerdydd, gan wasanaethu tan ychydig cyn ei farw.

Ni phriododd Syr Ewen erioed, ond cafodd gefnogaeth ei chwaer Agnes yn ei ddyletswyddau cyhoeddus, a'i gofal ffyddlon yn ystod ei flynyddoedd olaf. Bu farw ar 13 Hydref 1953. Wedi gwasanaeth angladdol yn Eglwys Bresbyteraidd Windsor Place, Caerdydd, rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn y bedd teuluol ym mynwent Eglwys Llangynnwr, ger Caerfyrddin, yn agos i fan claddedigaeth yr emynydd David Charles a'r bardd, Syr Lewis Morris. Tu mewn i'r eglwys gwelir ffenestr sy'n dehongli Esgyniad Crist, er cof am rieni Syr Ewen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-01-10

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.