Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORRIS-JONES, JOHN HENRY (1884-1972), gwleidydd Rhyddfrydol/Rhyddfrydol Cenedlaethol.

Ganed ef yn Waunfawr, sir Gaernarfon, ar 2 Tachwedd 1884, yn fab i'r Capten Morris Jones ac Ann Jones ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Caernarfon, Ysgol Ramadeg Porthaethwy a Choleg St Mungo, Glasgow. Roedd yn feddyg teulu o 1908 tan 1929. Roedd yn gapten gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin o 1914 hyd at 1919 a gwasanaethodd yn Ffrainc gydag Ail Fataliwn Catrawd Swydd Gaerwrangon. Gwasanaethodd yn ddiweddarach fel cadeirydd ei ranbarth o'r Gymdeithas Feddygol Frenhinol ac o Gymdeithas Feddygol Bae Colwyn.

Ym mis Mai 1929 etholwyd ef yn AS Rhyddfrydol dros etholaeth Sir Ddinbych, sedd dra diogel, i olynu Ellis W. Davies a oedd yn ymddeol oherwydd gwaeledd. Ymunodd Morris-Jones â'r grwp o aelodau seneddol Rhyddfrydol Cenedlaethol o dan arweiniad Syr John Simon yn Awst 1931. Parhaodd fel AS Rhyddfrydol Cenedlaethol dros yr etholaeth nes iddo ymddeol o'r senedd ym 1950. Roedd yn aelod o Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Dinesig Bae Colwyn lle dewiswyd ef yn gadeirydd. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1938.

Bu Morris-Jones yn chwip iau ym 1932-35 ac yn Arglwydd Gomisiynydd ym 1935-37. Tynnwyd chwip y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol oddi arno yn Chwefror 1942 a mis Mai 1943. Mae'n debygol mai un o'i resymau dros ymddiswyddo o'r Rhyddfrydwyr Cenedlaethol oedd ei awydd i fwynhau'r rhyddid i feirniadu'r llywodraeth ynghylch ymgyrch y rhyfel, gan gynnwys yr angen i osod cynhyrchu rhyfel dan gyfarwyddyd un gweinidog. Dyna oedd awgrym Morris-Jones nôl ym 1941. Ailymunodd fodd bynnag gyda'r Rhyddfrydwyr Cenedlaethol ym mis Mawrth 1943, gan ddyfalu neu'n casglu, mae'n debyg, mai dyna'r ffordd fwyaf sicr iddo barhau yn AS. Bu'n gadeirydd ar y Blaid Seneddol Gymreig, 1941-42, ac yn gadeirydd ar bwyllgor gwaith y Blaid Ryddfrydol Genedlaethol, 1953-54. Roedd hefyd yn aelod o gorff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru o 1950 hyd 1962.

Tra oedd yn y Senedd, cymerodd Morris-Jones ddiddordeb arbennig mewn iechyd cyhoeddus ac mewn amaethyddiaeth, yn genedlaethol ac yn eu perthynas â Sir Ddinbych. Roedd yn drysorydd anrhydeddus ar y Grwp Meddygol Seneddol o amser ei etholiad cyntaf i'r senedd ym 1929, ac yn ddiweddarach penodwyd ef yn aelod o'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr a sefydlwyd yn unol â Deddf Pensiynau'r Aelodau Seneddol.

Ym 1938 bu'n aelod o ddirprwyaeth seneddol yn cyfrannu at ddigwyddiadau i ddathlu canrif a hanner ers sefydlu Awstralia. Tra oedd yno bu'n ymuno â thrafodaethau ynghylch datblygiad yr Ymerodraeth, mesurau i annog ymfudo i Awstralia a hwyluso cysylltiadau masnachol rhwng Awstralia a'r Unol Daleithiau. Yn fwy poenus o lawer, roedd yn aelod o Ddirprwyaeth Seneddol i wersyll-garchar Buchenwald yn fuan ar ôl ei rhyddhau ym mis Ebrill 1945.

Er iddo ymddeol fel AS adeg etholiad cyffredinol 1950, parhaodd Morris-Jones yn deyrngar i'r Cenedlaetholwyr Rhyddfrydol ar ôl hynny. Ar ôl 1948 fe'u hadwaenid hwy fel y Blaid Genedlaethol Ryddfrydol. Gwasanaethodd yn Is-Gadeirydd pwyllgor gwaith y Blaid Genedlaethol Ryddfrydol ym 1952 a'r flwyddyn ganlynol (1953-54) aeth ymlaen i weithredu fel eu Cadeirydd.

Fel meddyg, cymerai Morris-Jones ddiddordeb dwfn yn y ddeddfwriaeth i sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Ar y cyfan, nid oedd o blaid y cam, gan amlaf yn cymryd ochr y cymdeithasau proffesiynol a wrthwynebai gamau i orfodi meddygon i ymuno â'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Erbyn 1948 roedd Morris-Jones wedi symud llawer iawn nes at ddadleuon y Ceidwadwyr a'u syniadau. Fodd bynnag, fel y meddygon, yn y pen draw bu rhaid i Morris-Jones dderbyn yr anochel. Er i nifer fawr o feddygon feithrin amheuon ynghylch y ddeddf, barn Morris-Jones oedd eu bod wedi cyflawni cryn dipyn drwy negydu ac y dylent felly dderbyn cynnig y llywodraeth i ymuno â'r gwasanaeth iechyd yng Ngorffennaf 1948.

Urddwyd ef yn farchog yn rhestr y prif weinidog o Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn Ionawr 1937, a dyfarnwyd iddo Ryddfraint Anrhydeddus Bae Colwyn ym 1956. Priododd Morris-Jones â Leila Augusta Paget-Marsland, gweddw J. Illidge Marsland, ym 1931. Ni fu iddynt blant. Gyda Hugh Lett, cyhoeddodd ‘Surgical Experiences at Wimereux, France’ yn y British Medical Journal ym 1915, a hefyd gyfrol ddiddorol o atgofion Doctor in the Whip's Room (1955).

Bu'n byw ym Mryndyfnog, Llanrhaiadr ger Dinbych ac yn Royston, swydd Henffordd. Bu farw Henry Morris-Jones ar 9 Gorffennaf 1972.

Cyflwynwyd ei bapurau i ofal archifdy Sir Fflint (yr Hen Rheithordy, Penarlâg). Ceir ynddynt bapurau'n dyddio rhwng 1896 a 1965.

Ffynonellau:

  • Who was who? ;
  • Etholiadau'r Ganrif, 1885-1997 , Y Lolfa, 1999;
  • Welsh Hustings - 1885-2004 , Dinefwr Publishers Ltd, 2005;
  • Dod's Parliamentary Companion ;
  • colofnau niferus o'r The Times .

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2011