Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NOAKES, GEORGE (1924-2008), Archesgob Cymru.

Ganwyd George Noakes 13 Medi 1924 ym Mhenygaer, Bwlchyllan, Ceredigion, un o dri phlentyn Elizabeth Mary (gynt Lewis), a siaradai Gymraeg, a David John Noakes, glöwr, ac yna ffermwr, o dde sir Benfro Saesneg, magwraeth a roddodd iddo ddwyieithrwydd naturiol a diymdrech a'i gwnaeth yn bregethwr deniadol a rhugl yn y ddwy iaith.

Yn blentyn mynychai eglwys plwyf Nantcwnlle yn y bore a chapel y Methodistiaid Calfinaidd, Bwlchyllan, yn yr hwyr, ac o ganlyniad yr oedd yn rhydd o'r rhagfarnau enwadol sydd wedi bod yn elfen mor gryf ym mywyd crefyddol Cymru. Derbyniodd ei addysg yn ysgol gynradd Bwlchyllan ac ysgol uwchradd Tregaron cyn cael ei alw i wasanaethu yn yr Awyrlu lle y bu'n gyfeiriwr yn Adran yr Awyrennau Bomio ym mlynyddoedd olaf yr Ail Ryfel Byd.

Wedi ei ryddhau o'r Awyrlu penderfynodd fod yn ymgeisydd am urddau. Aeth i Goleg Prifysgol Aberystwyth a graddiodd mewn athroniaeth 1948 gan barhau ei hyfforddiant yn Neuadd Wycliffe, Rhydychen. Ar ôl ei ordeinio bu'n gurad yn Llanbedr Pont Steffan yn 1950 lle yr arhosodd chwe mlynedd nes ei benodi'n ficer Eglwyswrw a Meline yn sir Benfro.

Priododd Jane Margaretta (Jean) Davies ar Ebrill 23 1957. Yn 1959 symudodd yn ôl i'w gynefin yn ficer Tregaron lle y bu'n weithgar gyda ‘Chymry'r Groes’, Mudiad Ieuenctid yr Eglwys yng Nghymru. Yn 1967 symudodd i fod yn ficer eglwys Dewi Sant, yr eglwys Gymraeg yng nghanol Caerdydd, ei unig ofalaeth y tu allan i esgobaeth Tyddewi. Bu hefyd yn gaplan i garcharorion Cymraeg eu hiaith yng ngharchar Caerdydd, a hynny ar adeg pan oedd protestiadau di-drais Cymdeithas yr Iaith ar eu hanterth. Dyma'r adeg, hefyd, y datblygodd ei ddoniau sylweddol yn ddarlledwr yn y ddwy iaith. Wedi treulio naw mlynedd hapus yng Nghaerdydd dychwelodd i esgobaeth Tyddewi yn ficer Aberystwyth, yn ganon cadeirlan Tyddewi 1977-79 ac Archddiacon Aberteifi yn 1979; bu'n ficer Llanychaearn a Llanddeiniol o 1980 hyd 1982. Etholwyd ef yn Esgob Tyddewi yn 1982, er mawr lawenydd i glerigwyr a lleygwyr fel ei gilydd. Hon oedd esgobaeth fwyaf Cymru a dwy ran o dair y plwyfi'n Gymraeg eu diwylliant. Cafodd George Noakes ei ethol yn Archesgob Cymru yn 1987. Dyfarnwyd iddo radd doethur mewn diwinyddiaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1989. Ymddeolodd i Rydargaeau yn 1991 a symudodd yn nes ymlaen i Gaerfyrddin.

Yr oedd George Noakes yn gricedwr, peldroediwr a physgotwr brwd. Chwaraeodd dros dim esgobaeth Tyddewi a gafodd gêm gyfartal yn erbyn Sheffield yn ffeinal Cwpan Criced y Church Times yn 1956. Yr oedd Dr Noakes yn Esgob ac Archesgob bugeiliol gyda'i draed ar y ddaear. Yr oedd yn bregethwr dawnus yn Gymraeg ac yn Saesneg a gallai symud o'r naill iaith i'r llall yn ddiymdrech gan ddal sylw ei wrandawyr pa iaith bynnag fyddai eu hiaith gyntaf tra gwnâi ei bersonoliaeth agosatoch ef yn annwyl gan bawb. Chwaraeodd ran yn y trafodaethau a arweiniodd at Ddeddf yr Iaith Gymraeg yn 1967. Yn ddiwinyddol yr oedd o ran natur a thuedd yn efengylaidd cymedrol a chreai argraff trwy ei ymagwedd fugeiliol a disgleirdeb ei bregethu uniongyrchol, syml a pherthnasol. Pan apwyntiwyd ef yn Esgob Tyddewi yn 1982 gwelai hyn yn estyniad ar ei waith fel offeiriad plwyf yn gweinidogaethu i esgobaeth wledig. Codai am 5.30 yn y bore, adrodd ei weddïau beunyddiol (bob amser yn y Gymraeg) ac nid âi i glwydo byth cyn 11.00 yr hwyr. Nid oedd byw ym Mhalas yr Esgob yn Abergwili, Caerfyrddin, ryw 50 milltir o gadeirlan Tyddewi, yn ddelfrydol. Gyrrai dros 30,000 milltir bob blwyddyn yn aml ar hyd ffyrdd cefngwlad a thynnai'r trafaelu a'r cyfarfodydd ef i ffwrdd o'r gwaith a ddymunai, ei awydd ‘i ddangos Iesu’ i bobl Gorllewin Cymru gan mai cenhadaeth ac efengylu oedd ei brif amcanion. Cyrhaeddodd ymgyrch genhadaeth esgobaethol yn 1988 ddiweddglo i godi calon mewn gwasanaeth ar faes rygbi Parc y Strade yn Llanelli.

Dan Lywyddiaeth George Noakes newidiodd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru o fod yn gynulliad cyfreithgar i fod yn gyfarfod o'r teulu. Yr oedd yn fedrus, parchus a hwyliog yn llywio'r cyfarfodydd yn dawel ond yn gadarn pan oedd ordeinio menywod, ailbriodi yn yr eglwys ar ôl ysgariad, a chysylltu plwyfi â'i gilydd ar yr agenda. Yr oedd gan yr Eglwys yng Nghymru hir hanes o fethu cydio mewn materion ac o lithro nôl. Bu ‘Astudiaeth yr Archesgob o gyflwr yr eglwys’ yn ymgymeriad nodedig a esgorodd ar dri adroddiad arwyddocaol (1990, 1991, 1993), eithr heb lawer o ganlyniadau. Yr oedd yr Archesgob Noakes yn amlwg ym mhedwar canmlwyddiant cyfieithiad yr Esgob William Morgan o'r Beibl Cymraeg (1988), cyhoeddi'r Beibl Cymraeg Newydd (1988) a 1400fed blwyddiant marw Dewi Sant . Tyst i'w ymrwymiad i eciwmeniaeth oedd iddo gael ei benodi'n Llywydd cyntaf Cytûn ac fel Archesgob teithiodd yn helaeth gan ymweld â Singapore, Cape Town a Chyprus ar gyfer cynulliadau esgobion a chyfarfodydd y Cyngor Anglicanidd Ymgynghorol a ymwelodd â Chaerdydd yn 1990. Yr oedd darbwyllo diwinydd disglaer o Gymro, yr Athro Rowan Williams, i symud o academia ac i ganiatâu i'w enw fynd ymlaen ar gyfer esgobaeth Mynwy yn un o'i gyflawniadau mwyaf arwyddocaol.

Yn ddyn ysbrydol a gwylaidd, dilynodd gyfarwyddyd Dewi ‘i wneuthur pethau bychain’ a thrwy hynny rhoes hyder newydd i'r Eglwys yng Nghymru a'i chadw'n un. Parhaodd i fod yn gynghorwr doeth ac yn gyfaill i lawer, yn glerigwyr a lleygwyr. Cofir am George Noakes yn ŵr gwirioneddol ostynegedig, yn un o Archesgobion Cymru mwyaf hoff ers dadgysylltiad yr Eglwys yn 1920, cyfaill cywir i bawb.

A'i iechyd yn dirywio bu farw George Noakes yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Caerfyrddin ar 14 Gorffennaf 2008. Yn dilyn gwasanaeth angladdol yn eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ar Orffennaf 22 2008. Bu farw ei weddw, Jean, Ebrill 18, 2012.

Ffynonellau:

  • The Church Times , July 2008;
  • The Independent , July 2008;
  • Glyn Ifans, gol., Can Mlynedd o Addysg Uwchradd yn Nhregaron , 1997;
  • Gwybodaeth bersonol.

Awdur:

P. Ann Jones, Pencader

Blwyddyn Cyhoeddi: 2012