REES, DOROTHY MARY (1898-1987), gwleidydd Llafur a henadur

Enw: Dorothy Mary Rees
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1987
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur a henadur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: John Graham Jones

Ganed hi yn y Barri ar 29 Gorffennaf 1898. Addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg y Barri, a Choleg Hyfforddi'r Barri lle enillodd gymwysterau fel athrawes. Gweithiodd fel swyddog cyswllt o fewn y Weinyddiaeth Fwyd, adran y de-orllewin, yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, o leiaf o 1941 ymlaen. Roedd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref y Barri ac o Gyngor Sir Morgannwg o 1934 ymlaen, a bu'n rhyfeddol o flaenllaw o fewn cylchoedd llywodraeth leol dros nifer fawr o flynyddoedd. Daeth yn henadur y cyngor a bu'n gadeirydd arno ym 1964-65, (dim ond yr ail wraig i ddal y safle hwnnw). Gwasanaethodd yn AS Llafur dros etholaeth hynod ymylol y Barri dros un senedd yn unig o 1950 tan 1951, gan wasanaethu yn ysgrifennydd preifat seneddol i Shirley Summerskill, y Gweinidog dros Yswiriant Cenedlaethol. Hi oedd y wraig gyntaf i gynrychioli etholaeth yn ne Cymru yn y Senedd. Yn etholiad cyffredinol Hydref 1951 collodd ei sedd o drwch blewyn i'r ymgeisydd Ceidwadol Syr Raymond Gower. Cafodd ei hailenwebu fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer y Barri ym 1952. Cafodd ei phenodi yn Rhyddfreinwraig y Barri ym 1966.

Bu hefyd yn gadeirydd ar Bwyllgor Rheoli Ysbyty Morgannwg ac ar Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol y Barri ym 1966-68. Roedd hefyd yn aelod o nifer fawr o gyrff cyhoeddus, yn eu plith y Cyd-bwyllgor Addysg Gymreig, y Pwyllgor Ymgynghorol Cenedlaethol ar Yswiriant o 1947 (yr unig gynrychiolydd o Gymru a eisteddai arno), a Bwrdd Ysbytai Dysgu yng Nghymru. Hi oedd cadeirydd ynadon Dinas Powys. Bu hi hefyd yn aelod am gyfnod maith o fwrdd llywodraethwyr Ysgol Howells, Llandaf, ac ym 1960 penodwyd hi i gadeirio Is-bwyllgor Cyngor Sir Forgannwg ar Addysg Bellach. Daliodd yn gefnogwr brwd i'r egwyddor y dylai merched fwynhau addysg uwch. Gwnaethpwyd hi yn CBE ym 1964 ac yn DBE ym 1975.

Priododd â David George Rees, mab hynaf David F. Rees o'r Barri, ond bu ef farw 6 Tachwedd 1938. Eu cartref oedd 'Morhafren', 341 Barry Road West, y Barri. Bu hi farw yn Awst 1987. Dadorchuddiwyd plac i goffáu ei bywyd ar 6 Newland Road, Barri.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-06-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.