EMRYS-ROBERTS, EDWARD (1878-1924), Athro patholeg a bacterioleg cyntaf yr Ysgol Feddygol Gymreig Genedlaethol

Enw: Edward Emrys-roberts
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1924
Priod: Rosamond Emrys-Roberts (née Painter)
Plentyn: Kenyon Emrys-Roberts
Rhiant: Mary Roberts (née Evans)
Rhiant: Edward S. Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro patholeg a bacterioleg cyntaf yr Ysgol Feddygol Gymreig Genedlaethol
Maes gweithgaredd: Addysg; Meddygaeth
Awdur: Alun Roberts

Ganwyd Edward Emrys-Roberts ar y 14eg o Fai 1878 yn Lerpwl, mab hynaf E. S. Roberts o Dawlish, Dyfnaint, a'i wraig Mary Evans, merch ieuengaf Emrys Evans, Cotton Hall, Dinbych. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Lerpwl rhwng 1890 a 1895, ac yna bu'n fyfyriwr meddygol yng Ngholeg Prifysgol Lerpwl, gan ennill cymhwyster MB ChB yn yr hyn a oedd ar y pryd yn Brifysgol Victoria ym 1902. Ym 1900, tra oedd yn fyfyriwr, ymunodd ag Ysbyty Milwrol Cymreig Byddin Maes De Affrica, gan wasanaethu fel 'dresser' gyda chlod mawr, gan ennill medal gyda thri chlasbyn. Ym 1904 dyfarnwyd iddo MB ChB Prifysgol Lerpwl.

O 1903 i 1906 daliodd Emrys-Roberts Gymrodoriaeth Ethel Boyce mewn patholeg gynaecolegol ym Mhrifysgol Lerpwl, gan gyhoeddi 'A note on the question of nutrition of the early embryo with special reference to the guinea-pig and man' yn y Proceedings of the Royal Society. Dyma oedd sail ei MD Lerpwl a enillodd ym 1908. Ers dwy flynedd bu'n gweithio fel arddangoswr mewn patholeg ym Mhrifysgol Bryste, ac fel patholegydd Ysbyty Cyffredinol Bryste, dwy swydd lle'r rhagorodd.

Yn y cyfamser, yr oedd Ysgol Feddygol Caerdydd, rhan o Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy yr adeg honno, a oedd ar y pryd yn sefydliad cyfan gwbl cyn-glinigol, yn ymgeisio i fod yn ysgol feddygol lawn, gyda dimensiwn clinigol yn ogystal â chyn-glinigol. Gydag adeiladu cyfleusterau patholegol newydd yng Nghlafdy Caerdydd (a oedd yn fuan i newid ei enw i Ysbyty'r Brenin Edward VII), perswadiwyd y Trysorlys i ddarparu cronfa ar gyfer cadair newydd mewn patholeg a bacterioleg yn yr ysbyty ym 1908, rhagofyniad hanfodol i fedru creu ysgol feddygol glinigol. Hysbysebwyd y gadair yng ngwanwyn 1910. Yn wyneb cystadleuaeth gref oddi wrth Harold Scholberg, yr uwch-batholegydd yn y Clafdy, a gafodd gefnogaeth gref gan ei gydweithwyr yn yr ysbyty, dewiswyd Edward Emrys-Roberts i'r gadair, penodiad a greodd lawer o ddicter yn lleol, ac, yn ôl cofiant Ifor Davies, un o'r uwch feddygon, apwyntiad Emrys-Roberts oedd 'fons et origo yr anghydfod dilynol rhwng yr ysbyty a'r coleg' yn ystod yr 1920au.

Er tegwch dylid nodi taw Scholberg oedd yn bennaf gyfrifol am y gynnen, bu ei amharodrwydd i 'faddau' i awdurdodau'r Coleg am benodi rhywun o'r tu allan i'r gadair patholeg yn achos cynnen am flynyddoedd. Er hynny, llwyddodd Emrys-Roberts ac yntau i gyd-weithio'n ddigon da i'w galluogi i rannu'r gwasanaeth patholeg clinigol cyffredinol rhyngddynt. O'r cychwyn, ymdrechodd Emrys-Roberts i sefydlu perthynas dda a'i gyd-weithwyr yn yr ysbyty, gan ymuno â Chymdeithas Feddygol Caerdydd ym 1910, a rhoi darlithoedd gwyddonol i'r aelodau. Ym 1913 daeth yn aelod o'r pwyllgor gweithredol a bu'n ysgrifennydd anrhydeddus yn ddiweddarach.

Gan na fedrwyd dysgu patholeg glinigol israddedig yng Nghaerdydd tan sefydlu'r ysgol glinigol ym 1921, ar y cyfan bu cyfleoedd dysgu Emrys-Roberts ar gychwyn ei swydd yn gyfyngedig i ddysgu ôl-radd ar gwrs Diploma Iechyd y Cyhoedd y Coleg, lle y gyfraniad arwyddocaol fel darlithydd ac arholwr. Gohiriwyd y cwrs Diploma mewn Iechyd y Cyhoedd am y rhan fwyaf o'r Rhyfel Mawr, yn rhannol oherwydd ei absenoldeb ef ar swyddogaethau'r rhyfel. O'r cychwyn yr oedd Emrys-Roberts yn awyddus i hyrwyddo ymchwil glinigol yn yr ysgol feddygol, thema a gyflwynodd yn ei ddarlith agoriadol ym mis Hydref 1910, ac a ategodd yn agoriad swyddogol yr adran batholeg newydd yn Ysbyty'r Brenin Edward VII ym 1912. Bach iawn mewn gwirionedd oedd cynnyrch ei ymchwil cyn y rhyfel, yn gyfyngedig i un erthygl ar 'status lymphaticus' i'r Journal of Pathology and Bacteriology ym 1914. Sut bynnag, cymaint oedd ei enw da fel awdurdod yn y maes iddo gael ei ethol yn ysgrifennydd pwyllgor y Cyngor Ymchwil Meddygol a sefydlwyd i ymchwilio i'r cyflwr.

Gyda dyfodiad y Rhyfel Mawr, ail-gyfeiriwyd egni Emrys-Roberts oddi wrth ddatblygu ei adran academaidd at gefnogi'r ymdrech filwrol. Fe'i hapwyntiwyd yn brif swyddog y Labordy Patholegol Symudol Cymreig yn gwasanaethu yn Ffrainc, yn bennaf gyda'r Fyddin Gyntaf, ac arbenigodd mewn heintiau bacteriol clwyfau yn ystod y cyfnod. Yn anffodus, tra bu dramor yn ystod y rhyfel daliodd Emrys-Roberts gyflwr dysentric, a dyma fu'n gyfrifol yn y pen draw am ei farwolaeth gynamserol.

Er gwaethaf ei iechyd bregus, chwaraeodd Emrys-Roberts ran lawn yn rheolaeth yr ysgol feddygol yn ystod y blynyddoedd cyn ac ar ôl ei dyrchafiad i statws ysgol feddygol lawn. Pan gyhoeddodd y Cyngor Ymchwil Meddygol bod Ysbyty'r Brenin Edward VII yn un o'r grwp dethol o ysbytai Prydeinig a oedd i dderbyn radiwm ar gyfer dibenion ymchwil, fel arwydd o'i ymrwymiad i hybu ymchwil clinigol, derbyniodd Emrys-Roberts y cyfrifoldeb yn lleol am ofalu am y cemegyn, cytundeb a barhaodd tan ei farwolaeth. Datblygodd ei ddiddordeb mewn ymchwilio i mewn i anthracosis mewn glowyr. Yn wir, pan farnwyd bod ei gyflwr yn angheuol, derbyniodd y newydd yn bwyllog, gyda'r sylw 'ni allaf yn awr weithio allan fy syniad ar anthracosis'.

Y tu allan i feddygaeth, prif ddiddordebau hamdden Emrys-Roberts oedd pysgota ac archaeoleg. Yr oedd yn aelod o'r Cambrian Archaeological Association er 1914, ac yn gyfranogwr brwd i'w rhaglen haf o wibdeithiau, ac ar adeg ei farw roedd yn un o ysgrifenyddion lleol y gymdeithas ym Morgannwg.

Bu Emrys-Roberts farw yn ei gartref ym Mhenarth yn 45 oed, gan adael gweddw, Rosamond, a briododd ym 1910, merch ieuengaf J. Wynne Painter, Amlwch, Sir Fôn, a theulu o chwe phlentyn ifanc. Dridiau'n ddiweddarach, wedi gwasanaeth angladdol yn Eglwys yr Holl Saint, fe'i claddwyd ym Mynwent Penarth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-06-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.