ROBERTS, GWILYM OWEN (1909-1987), awdur, darlithydd, gweinidog a seicolegydd

Enw: Gwilym Owen Roberts
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1987
Priod: Mary Roberts
Plentyn: Marilee Roberts
Rhiant: Mary Elisabeth Roberts
Rhiant: William Owen Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur, darlithydd, gweinidog a seicolegydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth
Awdur: Llion Wigley

Ganwyd Gwilym O. Roberts (drwy amryfusedd ni chofrestrwyd enw canol llawn ar ei dystysgrif geni er mai Owen a nodir yn nogfennau'r brifysgol) ar y 22 Gorffennaf 1909 yng Ngherniog, Pistyll, Sir Gaernarfon, yn fab i William Owen Roberts, ffermwr a phregethwr cynorthwyol adnabyddus, a'i wraig Mary Elisabeth Roberts, gwniadwraig. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Pwllheli a mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth ym 1929 i astudio Athroniaeth a Diwinyddiaeth. Ar ôl graddio'n BA mewn athroniaeth yn Aberystwyth yn 1933, ac yna ddilyn cwrs BD yn y Coleg Diwinyddol Unedig, fe'i hyfforddwyd fel gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng Ngholeg y Bala. Daeth o dan ddylanwad yr Athro David Phillips, edmygwr cynnar o syniadau Freudaidd a wnaeth ddefnydd ymarferol o seicrdreiddiad ar Roberts ymhlith eraill (gweler ei erthygl 'Yr Athro Phillips fel Meddyg Meddwl ' yn Y Traethodydd 1952).

Ordeiniwyd ef yn sasiwn Bethesda ym Medi 1938. Bu'n weinidog eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Stoke on Trent ac ym Manceinion yn y 1940au. Cynyddodd ei ddiddordeb mewn seicoleg yn y blynyddoedd hyn, a phenderfynodd astudio'r pwnc yn fwy manwl. Hyfforddodd fel seicolegydd clingiol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Leeds trwy wneud astudiaeth fanwl o'r berthynas rhwng tri chant o gyplau priod. Cyhoeddwyd peth o ffrwyth ei ymchwil ym 1950 yn ei unig gyfrol Saesneg, The Road to Love Avoiding the Neurotic Pattern (Allen & Unwin). Clodforwyd y gyfrol gan seicolegwyr blaenllaw cyfoes yn yr Unol Daleithiau, megis Gordon Allport. Daeth Roberts i gysylltiad personol â rhai o'r seicolegwyr hyn wedi iddo gymryd swydd fel darlithydd mewn seicoleg glinigol yng Ngholeg Lewis and Clark yn Mhortland, Oregon ym 1947. Fe'i gwnaethpwyd yn Athro yn ystod ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau.

Dychwelodd i Gymru am resymau teuluol ym 1953, gyda'i wraig Mary. Ganwyd eu hunig blentyn, Marilee (yr actores Mari Gwilym), ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Ymgartrefodd ym Mhontllyfni, Gwynedd, a bu'n byw yno am weddill ei oes. Bu'n dysgu oedolion ar ran Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a Phrifysgol Bangor o 1953 tan ei ymddeoliad yn y 1970au cynnar. Cynhaliodd ddosbarthiadau ar seicoleg a chrefydd ledled Gogledd Cymru, ac roedd yn athro poblogaidd a charismatig.

Ond daeth i amlygrwydd cenedlaethol yng Nghymru yn bennaf trwy ei golofn wythnosol ymfflamychol yn Y Cymro, a gyhoeddwyd bron yn ddidor rhwng 1958 a 1967. Cyfunodd ei ddau brif ddiddordeb yn ei golofn, sef crefydd a seicoleg, mewn modd arbennig o heriol a modern. Cythruddodd ei golofn ddarllenwyr traddodiadol ac uniongred eu daliadau. Cynddeiriogwyd eu feirniaid ymhellach gan ei ymdriniaeth onest o gwestiynau yn ymwneud â rhyw a rhywioldeb. Fel y dywedodd ef ei hun ym 1960, mewn ysgrif sy'n nodweddiadol o'i arddull liwgar: 'Rhyw a chrefydd yw ein dau arch-dabw … arweiniwyd fi gan ragluniaeth i geisio astudio yn ddiduedd (?) y DDAU bwnc tabw yma! Buasai UN yn ddigon i lorio eliffant'.

Apeliai ei ysgrifau at bobl ifanc yn arbennig yn y 1960au, a oedd eisoes yn cwestiynu rhai o draddodiadau ac athrawiaethau yr eglwysi. Adlewyrchir hyn yn y ffaith mai'r Lolfa, gwasg gymharol newydd ac arbrofol ar y pryd, oedd yr unig gyhoeddwyr yng Nghymru i argraffu ei waith. Cefnogai ffigyrau blaenllaw hyn ei syniadau hefyd, a'i amddiffynwr mwyaf ffyddlon yn ddiamheuaeth oedd ei gyfaill ysgol, yr athronydd, yr Athro J. R. Jones. Cydnabyddodd Jones ei ddyled i'w gyfaill o ran datblygiad ei syniadau diwinyddol yn rheolaidd yn y 1960au cynnar. Roedd colofn Roberts yn sicr yn ddylanwad canolog ar ei bamffledyn pwysig Yr Argyfwng Gwacter Ystyr. Ceir yr un ddadl sylfaenol yn y pamffledyn ag yn ysgrifau Roberts o'r cyfnod a'i rhagflaenodd, sef bod iaith crefydd yng Nghymru, yn bennaf oll, bellach yn ddiystyr ac yn amherthnasol i'r mwyafrif helaeth.

Cred Roberts oedd y gallesid adfer ystyr i fywyd modern trwy bwysleisio bod neges hanfodol Cristnogaeth yn cyd-fynd â'r neges yr oedd seicoleg fodern yn ei phregethu. Craidd y neges hon oedd pwysigrwydd empathi, cariad a derbyniad er mwyn cynnal iechyd meddwl. Prif dasg y gweinidog a'r seicotherapydd ill dau oedd dangos i unigolion eu bod wedi eu derbyn a'u caru, yn union fel y dangosodd yr Iesu bod Duw yn derbyn ac yn caru pob unigolyn. Credai ymhellach bod crefydd gyfundrefnol yng Nghymru wedi anwybyddu datguddiadau seicoleg a seiciatreg i raddau helaeth. Trafododd ystod eang o'r datguddiadau hyn yn ei golofn yn Y Cymro, a gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i'r astudiaeth o seicoleg yn yr iaith Gymraeg. Bathodd ei dermau ei hun ar gyfer rhai o'r cysyniadau pwysicaf yn y maes, megis 'adwthio' ar gyfer 'repress' ac 'atchwelyd' ar gyfer 'regress'.

Er i waith Freud danio ei ddiddordeb mewn seicoleg, a'i bendantrwydd bod rhyw yn rhan hollbwysig o fywyd y dylid ei drafod yn ddi-ofn, nid oedd yn edmygwr dall o'i syniadau. Defnyddiodd, mewn cyferbyniad, amrywiaeth eang ac eclectig tu hwnt o destunau, o weithiau'r neo-Freudiaid fel Karen Horney ac Erich Fromm i'r gweithiau canolog yng nghrefyddau'r dwyrain, i ddatblygu ei athroniaeth unigryw ei hun. Dylanwadodd ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau arno'n arbennig o drwm, pan oedd syniadau arloeswyr seicoleg hiwmanistig a therapi cleient-ganoledig fel Carl Rogers ac Abraham Maslow yn tyfu mewn poblogrwydd. Empathi oedd y rhinwedd bwysicaf i'r seicotherapydd arddangos yn y berthynas â'i gleient yn ôl Rogers yn arbennig.

Ceisiodd Roberts ddangos yn ei ysgrifau sut y gellid priodi technegau diweddaraf seicotherapi gyda Christnogaeth. Buasai hyn nid yn unig yn codi unigolion o'r anobaith a'r gwacter ystyr a oedd wedi eu gorchfygu, ond hefyd yn trawsnewid gobeithion Cristnogaeth yng Nghymru trwy sicrhau bod yr eglwysi yn diwallu gwir anghenion eu cynulleidfaoedd. Dysgodd dechnegau hypnotherapi o dan gyfarwyddyd ei gymar yn yr Adran Seicoleg yng Ngholeg Lewis and Clark, yr Athro Volney Faw, cyfaill i Carl Rogers a dilynwr o'i syniadau. Defnyddiodd y technegau hyn yn llwyddiannus ar ôl dychwelyd i Gymru yn ei ddosbarthiadau, ac i drin anhwylderau seicolegol unigolion a ymwelai ag ef. Ei nod oedd eu harwain i'r profiad o 'lonyddwch effro' trwy eu derbyn yn empathig a'u galluogi i ymdawelu o'u gofidiau.

Parhaodd ei ddadleuon dros grefydd 'empathig', 'naturiolegol', 'i-lawr-i'r ddaear', ac yn erbyn crefydd barchus, ofergoelus a goruwchnaturiol i ennyn ymateb chwyrn drwy gydol y 1960au. Yn ôl ei olygydd John Roberts Williams, ei ysgrifau 'greodd y cynnwrf mwyaf yng ngwasg Cymru ers can mlynedd'. Mae ei ysgrifau i'r Cymro nid yn unig yn ffynhonnell hanesyddol werthfawr, sy'n datgelu agweddau pwysig ar y drafodaeth yng Nghymru'r pumdegau a chwedegau ynglyn â chrefydd, ond hefyd yn fynegiant cyson a chydlynol o'i weledigaeth wreiddiol ac unigryw ynglyn ag arwyddocâd seicoleg fodern a dyfodol Cristnogaeth. Cyhoeddodd amryw o erthyglau hefyd yn Y Traethodydd, Lleufer , ac Efrydiau Athronyddol.

Cafodd Roberts strôc ym 1972 a gyfyngodd ei waith fel awdur a phregethwr. Bu farw yn ysbyty Walton Lerpwl, 12 Ionawr 1987 a bu'r gwasanaeth angladd yng Nghapel Bryn Aerau. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Pentre Uchaf, Pwllheli, 17 Ionawr 1987.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-05-23

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.