THOMAS, EDWARD'EDDIE' (1925-1997), paffiwr a hyfforddwr hynod o lwyddiannus a gwr cyhoeddus ym mywyd Merthyr Tudful

Enw: Edward Thomas
Dyddiad geni: 1925
Dyddiad marw: 1997
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr a hyfforddwr hynod o lwyddiannus a gwr cyhoeddus ym mywyd Merthyr Tudful
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: D. Ben Rees

Ganed Eddie Thomas ar 27 Gorffennaf 1925, mewn ty teras, Rhif 11 Upper Colliers Row, Heolgerrig i Urias Thomas (1895-1969), glöwr, a'i wraig Mary née Miles, (1902-1982), er bod rhai ysgrifau coffa yn nodi, yn anghywir, 1926 yn flwyddyn ei eni. Yr oedd cefndir teuluoedd y dau riant yn gwbl Gymreig, a bu teulu'r tad yn byw ym mythynnod Rhyd-y-car (sydd bellach yn Amgueddfa Werin Sant Ffagan). Ganwyd iddynt chwech o feibion, Idris, Evan John, Edward, Urias (Hugh), Ronald a Cyril. Bu pump o'r brodyr yn frwd dros baffio, a gweithiodd pob un ohonynt am gyfnodau fel glowyr.

Addysgwyd Eddie yn Ysgol Gynradd Heolgerrig, un o ardaloedd Cymreicaf bwrdeisdref Merthyr, ac yn ei blentyndod adnabyddid ef fel bachgen oedd yn chwaraewr da ym myd pêl-droed a bocsio ac yn canu yng Nghôr Eglwys Anglicanaidd Cyfarthfa. Gadawodd yr ysgol i weithio gyda'i dad a'r brodyr yn y diwydiant glo, a bu'n ymwneud â'r diwydiant hwnnw ar hyd ei oes. Dysgodd ei grefft fel paffiwr yng Nghlwb Bocsio Amatur Merthyr dan hyfforddiant Ephraim Hamer. Cafodd yrfa lwyddiannus ac yn 1946 daeth yn Bencampwr Pwysau Ysgafn Amatur Prydain. Yr oedd yn aelod o'r tîm a gynrychiolai Brydain yn erbyn Ffrainc a'r Unol Daleithiau. Trodd yn baffiwr proffesiynol o dan gyfarwyddid Sam Burns ond daliodd i weithio fel glöwr.

Gwnaeth enw iddo'i hun ac i'w dref enedigol fel paffiwr proffesiynol. Bu 1948 yn flwyddyn bwysig iddo ar ei yrfa. Ymladdodd wyth gornest ac ennill saith ohonynt. Enillodd bencampwriaeth pwysau welter Cymru pan enillodd yn erbyn Jack Phillips yn Llundain ar 31 Mai ac yna amddiffynnodd y teitl ar 21 Medi yn erbyn Gwyn Williams. Y flwyddyn ganlynol ymladdodd chwe gornest. Cafodd gyfle arbennig yn Lerpwl yn erbyn Stan Hawthorn gan iddo ennill mewn tair rownd. Ar 7 Chwefror 1949 ymladdodd yn erbyn Billy Graham, Americanwr o Efrog Newydd, ac un o baffwyr gorau'r byd yn y pwysau welter. Cymerodd yr ornest le yn Harringey, Llundain. Yr oedd llaw chwith Thomas yn ennill pwyntiau drwy'r ornest, ac ar ddiwedd y ddegfed rownd, cafodd ei gefnogwyr o'r cymoedd gyfle i lawenhau yn ei fuddugoliaeth. Yna ar 6 Medi 1949 cafodd fuddugoliaeth fawr arall dros Ernie Roderick o Lerpwl mewn gornest o ddeuddeg rownd. Ac ar 15 Tachwedd 1949 curodd Henry Hall, y pencampwr, yn Harringay i ennill pencampwriaeth pwysau welter Prydain. Trefnodd gyngerdd mawr ar ôl cyrraedd adref ym Merthyr gyda'r elw ar gyfer y deillion a'r henoed, un o nifer fawr o gyngherddau elusennol a drefnodd.

Byddai ei ganlynwyr ffyddlon, gan amlaf tua phymtheg mil ohonynt, uwchben eu digon yn ei lwyddiannau a chenid gydag arddeliad a megis côr 'Hen wlad fy nhadau', ac yna canai Eddie Thomas yn ei lais tenoraidd 'Bless this house' gan ddwyn dagrau i lygaid aml un ohonynt. Amddiffynnodd y teitl yn 1950 yn erbyn Cymro arall, Cliff Curvis. Teithiodd i Dde Affrig i ymladd pencampwr y pwysau welter yn y wlad honno, Pat Patrick, yn ninas Johannesburg. Ar 27 Ionawr 1951, yn yr awyr agored, cipiodd bencampwriaeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Disgwylid mewn gwlad fel De Affrig noson sych ond fe gafwyd dilyw o law yn ystod yr ornest. Yr oedd hi'n anodd i'r ddau baffiwr ond gwelid y Cymro ar ei orau ac yn y drydedd rownd ar ddeg trawodd Eddie Thomas yr ergyd i glensio'r bencampwriaeth. Llai na mis yn ddiweddarach ar 19 Chwefror yn Neuadd y Farchnad, Caerfyrddin ymladdodd yn erbyn yr Eidalwr, Michele Palermo am bencampwriaeth pwysau welter Ewrop, a bu'n llwyddiannus i gipio ei drydydd teitl.

Ond yr oedd y dyddiau gorau heibio gan iddo niweidio ei law, a hefyd gan ei fod ef yn ei chael hi'n anodd cadw o fewn canllawiau pwysau welter. Collodd ar 13 Mehefin 1951 bencampwriaeth Ewrop ar bwyntiau i'r Ffrancwr, Charles Humez, a phedwar mis yn ddiweddarach, ar 16 Hydref collodd Goron Prydain i'r bocsiwr o Benbedw, Wally Thom. Dylai fod wedi ennill yr ornest hon ond fe'i collodd am ei fod yn llawer rhy hamddenol. Amddifadwyd ef rhag cael Gwregys Lonsdale a bu hyn yn gryn siom iddo. Ond yr oedd ei record yn dda, ennill 40 gornest a cholli dim ond 6 a 2 yn gyfartal, cyfanswm o 48 gornest rhwng 1947 a 1954.

Ymddeolodd ac aeth ati i gynhyrchu glo ac i fagu paffwyr o'r radd flaenaf yn ei gampfa ym Mhenydarren. O dan ei gyfarwyddid, cafwyd cyfnod o lwyddiant na fu mo'i well ym Morgannwg, cadarnle paffio yng Nghymru. Cyfarwyddodd un o fechgyn Merthyr a'i hanner addolai, Howard Winstone, yn bencampwr pwysau plu'r byd yn 1968. Hyfforddodd yn 1970 hefyd yr Albanwr Ken Buchanan i ennill pencampwriaeth pwysau ysgafn y byd. Bu bron iddo wneud yr un gymwynas yn hanes y Cymro o Gorseinon, Colin Jones a enillodd bencampwriaeth Prydain ac Ewrop. Bu bron ag ennill yn 1983 bencampwriaeth y byd. Bu hi yn ornest gyfartal gyda Milton McCrory. Felly hyfforddodd 4 pencampwr Prydain, 3 pencampwr Ewrop a 2 Pencampwr y Byd sy'n dystiolaeth anhygoel i'w allu ym myd paffio.

Bu trasiedi Aberfan yn Hydref 1966 yn brofiad a arhosodd gydag ef ar hyd ei oes. Cofiaf yn dda gydweithio ag ef a glowyr Merthyr Vale a channoedd eraill bore'r trychineb yn Ysgol Pantglas i ddod o hyd i gyrff y plant bach. Daeth ef a'i lorïau o'r gwaith glo i gynorthwyo. Cawsom hyd i laweroedd o gyrff y diwrnod hwnnw a'u cludo i gapel Bethania. Ymrodd Eddie Thomas i achos Rhieni Aberfan ar ôl cael ei ethol yn Gynghorydd Annibynnol dros Ward Dowlais ar Gyngor Merthyr yn 1984. Dyna'r flwyddyn y derbyniodd yr MBE ac yna yn 1992 rhoddwyd iddo Ryddid y Fwrdeistref, anrhydedd a gafodd Harold Wilson, Howard Winstone a Desmond Tutu. Gwahoddwyd ef yn Faer y Fwrdeistref yn 1994, a'i ail wraig Kay (oedd hefyd yn Gynghorydd) yn Faeres. Bu'n Llywydd tîm pêl-droed Merthyr, a Chlwb Bechgyn Georgetown a Chanolfan Hyfforddi Oedolion. Gwahoddwyd ef yn aelod o Fwrdd Rheoli'r BBC yng Nghymru ac yn aelod o Fwrdd Pensiwn Bwrdd Glo Cenedlaethol, Adran De Cymru. Adnabyddid ef fel gwr bonheddig, cymwynasgar a haelionus, a llysgennad i dref ei febyd.

Bu'n briod ddwywaith. Ganwyd mab, Edward, a merch, Lynne, o'i briodas gyntaf a Mwynwen Penry, ac o'r ail briodas, ganwyd Rhysian, Geraint a Delyth. Bu farw Eddie Thomas yn ei gartref ym Merthyr o gancr ar 2 Mehefin 1997. Gwnaeth Peter Nicholas gerflun pres a charreg ohono a ddadorchuddiwyd yn 1998 yng Ngerddi Bethesda, a bellach ceir yn nhref Merthyr tri cherflun i baffwyr, un iddo ef, un i Howard Winstone ac un i Johnny Owen, dau a'i hedmygai yn fawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-03-12

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.