VAUGHAN, EDWIN MONTGOMERY BRUCE (1856-1919), pensaer

Enw: Edwin Montgomery Bruce Vaughan
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1919
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Alun Roberts

Ganwyd Bruce Vaughan 6 Mawrth 1856 yn Stryd Frederick, Caerdydd, y pedwerydd a'r ieuengaf o blant Thomas Vaughan, llongwr a theiliwr, a'i wraig, Jane Agnes Gribble (gynt Davies). Addysgwyd ef mewn ysgol breifat yn Stryd Charles, Caerdydd cyn ei erthyglu i W. D. Blessey, pensaer lleol amlwg, ac yna mynychodd Ysgolion Gwyddoniaeth a Chelf Caerdydd, cyn ennill medal y Gymdeithas Bensaernïol ym 1880.

Y flwyddyn ganlynol etholwyd ef yn Aelod Cysylltiol o Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, gan ei ddyrchafu'n Gymrawd ym 1891. Rhwng 1895 a 1897 gwasanaethodd ar Gyngor y Sefydliad. Dechreuodd bractis annibynnol ym 1881 ac yn ystod gyrfa hir sefydlodd ei hun fel pensaer eglwysi mwyaf gweithgar De Cymru cyn Rhyfel Byd I. Yn Sir Forgannwg yn unig ef oedd pensaer rhyw bump a deugain o eglwysi, y rhan fwyaf wedi'u llunio'n rhad ac yn syml yn y dull Gothig Seisnig Cynnar a nodweddodd ei greadigaeth gyntaf, sef eglwys y Santes Fair Magdalen, Cwmbach, sy'n dyddio o 1881/2. Ni ystyriwyd llawer ohonynt yn gemau pensaernïol, gan i'w prif fwriad fod yn adeiladau buddiol i wasanaethu'r cymunedau glofaol yn Ne Cymru, a oedd ond ychydig o adnoddau ariannol ganddynt. Serch hynny, gydag ychydig o welliant yn eu cronfeydd sicrhawyd bod llawer o eglwysi Bruce Vaughan a godwyd ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif yn rhagori ychydig ar y safon arferol, gydag enghraifft dda yn Eglwys yr Holl Saint, Y Barri. Bu'n gyfrifol hefyd am gyflawni gwaith helaethu neu atgyweirio tuag ugain o eglwysi. Cydnabyddir ar y cyfan mai ei gamp fwyaf fel adeiladydd eglwysig oedd eglwys S. Iago Fawr, y Rhath, ardal ffasiynol yng Nghaerdydd, yn agos i'w gartref, a adeiladwyd rhwng 1891 a 1894, gan gostio £10,000, lawer gwaith mwy na'r gost arferol (£1,500). Ond nid eglwysi'n unig y comisiynwyd ef i'w hadeiladu. Ymhlith ei greadigaethau eraill gwelwyd ysgolion i'r bwrdd addysg a llyfrgelloedd cyhoeddus ym maestrefi Caerdydd yn Nhreganna a Threlluest (Grangetown), adeilad cain Sefydliad y Gweithwyr yn Llanbradach ger Caerffili a phlasty gwledig hardd Tyn To Maen yn Llaneirwg (St. Mellons) ar gyrion Caerdydd. Adeiladwyd hwn ym 1885/9, mewn steil sy'n atgoffa rhywun o William Burges, a thrawsnewidiwyd ef, yn y man, i fod yn Gartref Adfer William Nicholls.

Ni phriododd Vaughan ac er gwaethaf ei ymrwymiadau proffesiynol beichus, bwriodd ei hun i fudiad y Gwirfoddolwyr yn ystod y 1880au a'r 1890au gan gael ei ddyrchafu'n raddol i'r swydd anrhydeddus o Is-gyrnol yn Nhrydydd Bataliwn y Gwirfoddolwyr o'r Gatrawd Gymreig ym 1900. Eto i gyd, er maint ei ymrwymiad i waith Ymgyrch y Gwirfoddolwyr hyd at ei farwolaeth, o droad y ganrif ymlaen, dechreuodd Vaughan, a oedd erbyn hynny yn bensaer ysbytai yn Aberystwyth a Llanelli, ymddiddori yn lles ei ysbyty lleol, a adnabuwyd ar y pryd fel Clafdy (Infirmary) Caerdydd (a ailenwyd yn Ysbyty'r Brenin Edward VII ym 1911).

Ar y pryd nid oedd yr ysbyty, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1837, yn medru ymateb yn ddigonol i ofynion cymuned a oedd yn tyfu'n gyflym, er iddo gael ei ail-leoli mewn safle newydd gerllaw yn yr 1880au cynnar. Wedi ei benodi'n gadeirydd Pwyllgor Mewnol y Clafdy ym 1903, dechreuodd Vaughan ar ei genhadaeth i wella'r sefyllfa, gan uwchraddio'r cyfleusterau, ehangu nifer y gwelâu a sicrhau adnoddau digonol cyfredol i alluogi'r ysbyty i fyw, ac i ffynnu, o fewn ei adnoddau. Dan ei stiwardiaeth cynyddodd nifer y gwelâu yn yr ysbyty o 188 ar droad y ganrif i 260 erbyn diwedd y degawd. Yn ystod yr un cyfnod adeiladwyd cyfleusterau newydd modern, yn arbennig adran i gleifion allanol a chyfres o ystafelloedd ar gyfer pelydr-x (a adnabuwyd yn rhyfedd braidd fel y 'pafiliwn trydanol') ac adran ar gyfer Patholeg. Agorwyd y rhain yn swyddogol yn eu tro ym 1908 a 1912. Daeth llawer o'r datblygiadau hyn yn sgil rhoddion gan wyr busnes cefnog lleol megis John Cory, y perchennog llongau, a gyda chynnydd sylweddol yng nghyfraniadau blynyddol gweithwyr cyffredin. Yn ddiymwad, y sbardun i hyn i gyd oedd Bruce Vaughan ei hun, codwr arian gwych a gafodd hwyl ar gael ei ddisgrifio fel 'Tywysog y Cardotwyr' Amcangyfrifwyd, pan fu farw, ei fod wedi codi o gronfeydd cyhoeddus a phreifat yn agos i £500,000 i gynnal gwaith yr ysbyty.

Gellir dadlau mai prif gyfraniad Vaughan i fywyd cyhoeddus Cymru oedd fel grym egnïol yn gweld ei ysbyty annwyl yn ennill bri wrth ymrwymo i'r cynlluniau i droi Ysgol Feddygol Caerdydd, sefydliad cyn-glinigol, yn ysgol a gynigai hyfforddiant meddygol. Addawodd y byddai'r adran batholeg newydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer Athro, eto i'w benodi. Yn fwy na hynny, yr oedd yn benderfynol y dylai'r ysgol feddygol yn ei chyfanrwydd barhau i gael ei lleoli yn agos i'r ysbyty, yn hytrach na gweld yr adrannau cyn-glinigol yn cael eu hail-leoli ym Mharc Cathays fel rhan o gynllun mawreddog W D Caroe am Goleg y Brifysgol, Caerdydd. I'r perwyl hwn darbwyllodd Vaughan ddyngarwr mwyaf De Cymru, Syr William James Thomas, i ariannu adeiladu'r Athrofa Ffisioleg gyda nodweddion man eithaf y grefft fel estyniad i'r ysgol feddygol, ar yr amod y byddai'r adeilad yn cael ei leoli ar Heol Casnewydd. Er i'r rhyfel dorri allan ar draws cychwyniad y cynllun, gan achosi dicter i Vaughan, nid oedd y ffaith ei fod wedi ei ddewis i gynllunio'r adeilad yn syndod i neb. Gadawodd seremoni gosod y maen sylfaen ym mis Awst 1915 gyda chanmoliaeth pawb a oedd yn bresennol yn atseinio yn ei glustiau. Prif nodwedd yr adeilad, a oedd yn barod i'w ddefnyddio erbyn 1919, oedd y twr hardd Gothig, a adeiladwyd fel mynedfa i'r Sefydliad, gyda'r gydnabyddiaeth gyffredin mai dyma oedd gorchest bensaernïol fwyaf Vaughan.

Nid oedd pob un o'r staff clinigol, o bell ffordd, yn rhannu brwdfrydedd Vaughan dros weddnewid yr ysbyty o fod yn ysbyty gwirfoddol traddodiadol i fod yn ysbyty addysg fodern. Ond, gyda chefnogaeth y prif lawfeddyg, John Lynn Thomas, diystyrodd ei gymheiriaid clinigol nad oeddynt yn awyddus i fabwysiadu symud ymlaen, fel rhai a oedd wedi'u hysgogi gan 'fudd hunanol'. Cydweithiodd â staff academaidd o'r ysgol feddygol wrth baratoi memorandwm, 'Cynllun arfaethedig i gwblhau'r Ysgol Feddygol', ar gyfer cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr Prifysgol Cymru a'r Trysorlys dan arweiniad David Lloyd George, Canghellor y Trysorlys ym 1914. Yn ystod un o'r cyfarfodydd hyn datgelodd Bruce Vaughan fwriad Syr William James Thomas i godi ei gymwynasgarwch i'r ysgol i gyfanswm o £90,000 (cyfwerth â £5m heddiw) wrth ariannu Athrofa Meddygaeth Ataliol ar y safle yn Heol Casnewydd. Achosodd hyn gryn ddicter i Bennaeth Coleg y Brifysgol, Caerdydd, a oedd o'r farn bod Bruce Vaughan, unwaith eto, yn cyfaddawdu ar fwriadau datblygu eangach a ddylai hawlio blaenoriaeth. Wrth ysgrifennu at David Davies, AS, cwynodd, braidd yn angharedig: 'Rydym yn nwylo un sydd â'i ddiddordebau wedi'u cyfyngu i'r Ysgol Feddygol a'r Ysbyty, ac sydd fel pensaer hunan-ddewisedig, yn meddwl fwyaf am yr adeiladau enfawr a fydd yn ennill bri iddo yn y man'. Yn wir, un o brif ddibenion Bruce Vaughan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd plagio'r Trysorlys, gyda rhyw faint o lwyddiant, i ganiatáu gwaith adeiladu ar Athrofeydd Ffisioleg a Meddygaeth Ataliol i fynd yn ei flaen er gwaethaf cyfyngiadau adeg rhyfel. Ymgais lywodraethol arall oedd sicrhau fod cynrychiolaeth gan Ysbyty'r Brenin Edward VII ar fwrdd llywodraethol yr hyn a ddechreuwyd ei alw'n Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru. Wedi'r cyfan 'yr ysbyty yw'r Ysgol Feddygaeth, bron'.

Ni fu Bruce Vaughan fyw, gwaetha'r modd, i weld Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yn agor fel sefydliad clinigol mewn partneriaeth ag Ysbyty'r Brenin Edward VII ym 1921. Fe'i trawyd â salwch ym mis Ebrill 1919 a bu farw ddeufis ar ôl hynny ar 13 Mehefin 1919. Yng ngeiriau trist y Western Mail: 'Anfynych y gwelir bywyd cyhoeddus unrhyw gymuned yn cael ei dlodi gan farwolaeth un dyn, fel y tlodwyd bywyd cyhoeddus Caerdydd gan farwolaeth y Cyrnol E. M. Bruce Vaughan'. Daeth nifer o enwogion bywyd cyhoeddus Cymru i'w angladd yn Eglwys S. Ioan, Caerdydd. Ymhlith y rhai a fu'n ei hebrwng i'w orweddfan olaf yn Hen Fynwent Gwaun Adda (Adamsdown) gwelwyd torf niferus o fyfyrwyr meddygol pennoeth. Caewyd y fynwent ym 1948 a diflannodd ei garreg fedd, honno wedi'i baeddu â phaent coch, a oedd am rai blynyddoedd yn gorwedd yn erbyn y mur o amgylch y lle. Yn ffodus mae nifer o gofebion i'r dyn ymroddgar hwn yn aros, nid y lleiaf ohonynt yr Athrofa Ffisioleg sydd erbyn hyn yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-01-11

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.